Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rhian Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol
Cadeirydd ar gyfer 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Angela Russell yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am 2021/22. Diolchwyd i’r cyn-Gadeirydd, y cyn
Is-Gadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion am eu gwaith caled. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd Menna Baines, Y
Cynghorydd Annwen Daniels, Y Cynghorydd Linda Jones, Y Cynghorydd Dafydd Owen
ac A Morwena Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd Dewi Roberts ar eitem 7 oherwydd
bod aelod o’r teulu yn gweithio yn y maes.
Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni
adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Y
Cynghorydd O Cai Larsen ac Y Cynghorydd
Berwyn Parry Jones am eu bod yn eistedd ar Fwrdd Adra. Roedd yr aelodau o’r
farn nad oedd yn fuddiant oedd
yn rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2021 fel rhai cywir. |
|
CEFNOGAETH I UNIGOLION SYDD A'R CYFLWR DEMENTIA YNG NGWYNEDD Ystyried diweddariad o adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor fis Ionawr 2020 oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr Dementia ac yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd a’r waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg o’r hyn sydd ar waith i
gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd. Cofnod: Derbyniwyd
diweddariad gan yr Aelod Cabinet am y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a’r
cyflwr dementia yng Ngwynedd, gan amlygu ei bod yn gyfnod hynod brysur.
Amlygwyd fod niferoedd a’r cyflwr dementia ar gynnydd ac er bod cyfnod Covid
wedi bod yn heriol, eglurwyd fod gwaith datblygol wedi parhau. Ychwanegodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion fod y cyfnod Covid wedi gorfodi’r Adran i ail
edrych ar sut maent yn cynnig y gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a
rheoliadau Covid, ynghyd a chynnig y gwasanaethau angenrheidiol i’r unigolion.
Cadarnhawyd fod Asesiad Anghenion Poblogaeth ar y gweill a fydd yn rhoi mwy o
ddealltwriaeth i’r Adran am yr anghenion a’r ddarpariaeth fydd eu hangen yn
lleol am y blynyddoedd i ddod. Cadarnhawyd mai y
camau nesaf fydd i ail edrych ar y cynlluniau gwaith sydd yn cynnwys y gwaith
sydd yn cael ei wneud gan Dementia Actif, y gwaith cefnogi a’r gwaith addasu
cartrefi y Cyngor. Amlygwyd pryderon am gyllid craidd a fydd yn sicrhau y bydd
modd ariannu’r gwaith i’r dyfodol. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn : O ran argaeledd
ac addasrwydd staff, cadarnhawyd bod cyflogi staff addas gyda’r sgiliau cywir
yn her, ond bod y Cyngor yn gwneud llawer o ymdrech i ddenu staff addas gan
ddatblygu rhaglen hyfforddiant priodol.
Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi yn
y maes, ond bod angen parhau i ddenu
staff i’r maes ar gyfer unrhyw ddatblygiadau y dyfodol. O ran argaeledd
gwlâu preswyl arbenigol i unigolion a Dementia, eglurwyd fod mwyafrif o wlâu
cartrefi’r Cyngor yn llawn a bod rhestrau aros yn bodoli. Oherwydd cyfyngiadau
Covid, bu’n rhaid oedi agor uned arbenigol dementia gydag 8 gwely mewn un
cartref gyda’r gobaith y bydd yn bosib agor yr uned yn raddol yn y dyfodol
agos. Wrth drafod
materion ariannol eglurwyd fod yr Adran yn manteisio ar bob cyfle posib am
arian o wahanol ffynonellau. Amlygwyd pryderon am arian tymor hir gan fod
grantiau’r Llywodraeth yn dueddol o fod am gyfnod o 2 i 3 blynedd. Nodwyd ei bod yn
sefyllfa anodd pan mae unigolyn yn gorfod symud o’r ardal i dderbyn
gwasanaeth. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaethau Oedolion bod yr Adran yn y broses o gwblhau darn o waith ar
leoliadau all sirol sydd yn amlygu i le mae unigolion yn symud i dderbyn gofal.
Gall hyn fod o ganlyniad i'r ffaith nad oes darpariaeth addas ar gael yn lleol
neu yn ddewis personol. O safbwynt
cynlluniau y Cyngor i gynyddu Unedau Dementia arbenigol yng Ngwynedd,
cadarnhawyd bod cynlluniau i ehangu, ynghyd a rhai cynlluniau cyffelyb yn y
sector breifat. Amlygwyd Cynllun Hwb Dyffryn Nantlle a Safle Penrhos fel
cynlluniau i’r dyfodol gan bwysleisio fod angen rhoi sylw i ardaloedd eraill yn
ogystal. Eglurwyd y bydd y Gwasanaeth yn
parhau i weithio ar gynlluniau blaengar gan ail-edrych ar y rhaglen buddsoddi
mewn 12-18 mis. PENDERFYNWYD : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DARPARIAETH TAI YN Y GYMUNED AR GYFER POBL GYDAG ANABLEDDAU DYSGU I graffu rhaglen y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth digonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu nawr ac i’r dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i gynnwys rhaglen a chamau nesaf y
Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth ddigonol o dai addas yn y
gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu gan ystyried yr heriau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet a
chadarnhaodd mai nod y Gwasanaeth yw cynorthwyo unigolion gydag anableddau
dysgu i fyw mor annibynnol â phosib. Eglurwyd fod gwaith ymchwil wedi ei wneud
sydd yn rhagweld y bydd galw ychwanegol am dai a chefnogaeth yn ystod y blynyddoedd
nesaf. Cadarnhawyd bod rhaglen waith cynhwysfawr yn ei lle sydd yn cynnwys
llawer o waith ar y cyd i ymdrin â’r niferoedd fydd angen cymorth. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Anableddau Dysgu at yr argyfwng tai ac yr heriau mae hyn yn
ei roi i’r unigolion sydd eisiau byw yn annibynnol. Eglurwyd fod cyfnod Covid wedi amlygu’r angen
am ddarpariaeth dai a bod yn Adran yn edrych i roi camau yn ei lle i gyfarch yr
angen. Cyfeiriwyd at y system blaenoriaethu anghenion unigolion gan bwysleisio
bod y sefyllfa yn newid yn barhaus. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn : Cyfeiriwyd
at y system blaenoriaethu sydd yn bodoli ar draws y Sir, gan nodi
blaenoriaethau ‘Coch’ - yn
ddigartref neu angen tŷ ar unwaith, yn sicr dros y flwyddyn ddwy nesaf ‘Amber’ – yn
byw gyda rhieni/gofalwyr, neu mewn tŷ, ac angen tŷ addas o fewn y
tymor canolig, sef y 3-5 mlynedd nesaf ‘Gwyrdd’ –
angen paratoi ar gyfer yr amser pan fydd angen tŷ yn y tymor hir (5+
mlynedd). Cadarnhawyd
bod cydweithio da rhwng y Cyngor a’r Cymdeithasau Tai, yn enwedig Adra a
Cynefin, er bod Gwynedd yn fodlon mynd ar ei liwt ei hun, megis y cynlluniau
prynu tai sydd eisoes ar y gweill. Eglurwyd bod
angen darn o waith pellach i edrych ar y graddau mae rhagweld anghenion
unigolyn yn cael ei ystyried o ran opsiynau tai, er mwyn ‘bandio’ unigolion yn
decach. Adroddwyd ymhellach bod peth
gwaith tracio yn digwydd, o oed 15 i 16 yn unig gan nodi’r angen i wneud gwaith
pellach gydag ystod oedran iau. O ran y
pryder am brinder byngalos yng nghyd-destun y Grant Cymdeithasol o £9 miliwn,
nodwyd bod trafodaethau wedi cychwyn, ond bod angen ei ddatblygu ymhellach. Derbyniwyd y
sylw nad oedd dyddiad targed wedi ei
osod yn erbyn y camau gweithredu yn yr
adroddiad a chytunwyd i osod amserlen. Mewn ymateb
i’r pwyntiau uchod, adroddodd y Pennaeth
Gwasanaeth bod perthynas dda gyda'r Cymdeithasau Tai a bod eu mewnbwn i’r
Strategaeth yn adlewyrchu y galw yn yr asesiad anghenion. I gloi,
cadarnhaodd yr Aelod Cabinet bod cydweithio da gydag eraill ond bod anghenion
pob unigolyn yn wahanol a bod yr awydd a’r parodrwydd yno i wneud beth sydd ei
angen. Nododd y bwriad i droi hwn yn
Gynllun Gweithredu a diolchodd am y gefnogaeth i symud i’r camau nesaf. PENDERFYNWYD : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i
gynnwys y rhaglen a chamau nesaf y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, i sicrhau
darpariaeth ddigonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd
Dysgu gan ystyried yr heriau. |
|
RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 Cyflwyno rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22. Cofnod: Cyflwynwyd y
rhaglen waith ddrafft yn deillio o’r gweithdy a gynhaliwyd, gan gadarnhau bod
modd ei haddasu wrth i amser fynd heibio. PENDERFYNWYD : Mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22 |