Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rhian Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd
Anwen Daniels, Y Cynghorydd Anwen J
Davies, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones,
Y Cynghorydd Linda Morgan a’r Cynghorydd Elwyn Jones (aelod ex-officio). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd Cai Larsen ar eitem 5 gan ei fod
yn eistedd ar Fwrdd Adra. Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar eitem 5
gan ei fod yn denant i Adra. Y Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones ar
eitem 7 oherwydd bod aelod o’r teulu yn derbyn gofal yn un o Gartrefi Nyrsio
Gwynedd. Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar eitem 7
oherwydd bod ei wraig yn derbyn gwasanaeth gofal cartref yng Ngwynedd. Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn
fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar
yr eitemau. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf,
2021 fel rhai cywir. |
|
Canfod barn a mewnbwn y Pwyllgor Craffu ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y camau nesaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai
ac adnabod y camau nesaf, gan ofyn i’r Adran roi sylw i’r
pwyntiau a godwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad Siop Un Stop
gan y Pennaeth Adran, gyda chais am fewnbwn Aelodau y Pwyllgor ar gychwyn y
broses ymgynghori, gan gyfeirio at y Siop Un Stop fel mynedfa i drigolion
Gwynedd i gael cymorth gyda eu hanghenion tai. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod cael
gwybodaeth o bersbectif Cynghorwyr yn bwysig iawn o ran deall anghenion lleol,
ynghyd a chael cartrefi unigolion yn y llefydd cywir. Diolchwyd am yr
adroddiad a chydnabuwyd ei bod wedi bod yn gam positif i adnabod y broblem,
gan fod ymdeimlad ymysg aelodau bod nifer o dai cymunedol mewn rhai wardiau a
nifer o unigolion ar restrau aros.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a
ganlyn : O ran y pryder bod pobl sydd eisoes yn
fregus yn cael problemau megis cwblhau ffurflenni, ddim yn siŵr a phwy i
gysylltu pan fo amgylchiadau yn newid a ddim yn derbyn diweddariad, nodwyd
balchder y bydd y drefn Siop Un Stop yn symleiddio ac ymateb i’r pryderon hyn. Cadarnhawyd y bwriad
i’r Siop Un Stop fod yn rhagweithiol gan gadw gwell cyswllt, ac yn ôl Y Pennaeth
Tai ac Eiddo yn gafael yn llaw trigolion a cheisio datrys problemau mewn un man. Holiwyd am fanylder y 33 prosiect y
cyfeirir atynt yn yr Adroddiad gan gwestiynu y bwriad mewn ardaloedd penodol
a’r amserlen. Cadarnhaodd y Pennaeth Tai
ac Eiddo bod llawer o waith yn digwydd yn y cefndir, megis ar dir sydd yn
berchen i’r Cyngor, gan gadarnhau y bydd adroddiad gerbron Tîm Arweinyddiaeth y
Cyngor maes o law, fydd yn cynnwys amserlen ddrafft. Nodwyd
bod yr egwyddor o Siop Un Stop yn wych a chadarnhawyd y bydd popeth ar gael ar lein/yn electroneg
ac y bydd unrhyw ddiweddariadau i gais yn cael eu gwneud yn electroneg
fydd, o ganlyniad, yn gwella y cyfathrebu. Adroddwyd
bod y Trydydd Sector yn awyddus i fod yn rhan o drefniant o’r math. Soniwyd eto am
gymhlethdod y drefn bresennol, ond nodwyd pryder am yr ymdeimlad bod prinder
llefydd i unigolion fyw, ac y byddai gwneud y llwybr ymgeisio yn haws iddynt yn
werthfawr, ond os nad oes tai iddynt, yna mae hon yn broblem arall. Cadarnhawyd y bydd y Cynllun Gweithredu Tai
wrth gwrs yn ymateb rhywfaint i’r sefyllfa,
ond bod llawer o waith cydgordio i’w wneud rhwng y Cyngor a
Chymdeithasau Tai. Gan fod y nifer sydd
yn ddigartref yn uchel iawn cwestiynwyd y trefniant i ddod ac eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gan nodi dymuniad
Aelodau i gael gwybod am unrhyw dai gweigion yn eu Wardiau. Nodwyd pwysigrwydd staffio Siop Un
Stop Tai yn briodol, gyda gwybodaeth yn cael ei gadw mewn un man. Cadarnhawyd bod mewnbwn nid yn unig yr
Aelodau ond Aelodau Seneddol Cymru a’r DU yn hanfodol ar gychwyn y broses, gan
fod unigolion hefyd yn cysylltu gyda eu Aelodau Seneddol. Rhoddwyd
cefnogaeth y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen a diolchwyd i’r Swyddogion am y gwaith. PENDERFYNWYD : Derbyn yr adroddiad ynglŷn a’r cysyniad o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GWYNEDD Cyflwyno’r
dull ar gyfer paratoi Asesiad Anghenion Poblogaeth 2022-2027 ac Adroddiad ar
Sefydlogrwydd y Farchnad i’w graffu gan y Pwyllgor. . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad ar y dull paratoi ar gyfer cwblhau yr Asesiad Anghenion Poblogaeth
Gwynedd gan y Rheolwr Tîm Prosiectau. Nododd bod yr amserlen yn heriol oherwydd
bod materion yn ymwneud a’r pandemig
wedi gorfod cymryd blaenoriaeth a bod swyddogion wedi eu dargyfeirio. Pwysleisiodd pwysigrwydd yr adroddiad gan nodi
ei bod angen adlewyrchu yn glir
a chywir ofynion pobl, a bod y dogfennau yn gallu bod yn
sail i geisiadau am grantiau. Adroddodd ymhellach bod gofyn yn y Ddeddf
i gyhoeddi adroddiadau ar sail rhanbarth, ac o ganlyniad bod angen bwydo gwybodaeth
Gwynedd i mewn i adroddiad y rhanbarth. Yn sgil yr amserlen
dynn, cynigwyd bwydo cymaint o wybodaeth a phosib i’r adroddiad erbyn
diwedd Hydref 2021, gan ddefnyddio y wybodaeth sydd yn wybodus eisoes,
ac yna parhau gyda y gwaith. Cadarnhawyd bod y Llywodraeth yn trin y ddogfen fel dogfen barhaus. Atgyfnerthodd yr Uwch Reolwr Busnes ei bod yn amserlen heriol iawn, ond bod cwblhau
yr Asesiad yn ofyn statudol. Nododd bod adrodd fel rhanbarth
yn heriol, gan fod y 6 Awdurdod
gyda nodweddion gwahanol iawn, ond mai un Bwrdd
Iechyd oedd ar gyfer y 6 Rhanbarth. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn
cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn : Nodwyd
pryder bod yr Asesiad Anghenion yn holi am lawer o faterion pwysig ar gyfer y
dyfodol a’r amserlen ar gyfer ymateb yn dynn.
Cadarnhawyd bod ymateb yn Ofyn Statudol yn ôl Ddeddf Llesiant 2021 a bod
yr asesiad cyntaf wedi ei gyhoeddi yn 2017.
Cadarnhawyd bod yr Adran wedi bod
yn gweithio arno ers 6 mis erbyn hyn gan nodi ei bod yn bwysig cadw golwg ar y
dyfodol hir dymor. Cadarnhawyd nad oedd
ffigyrau poblogaeth ar gael ar hyn o bryd gan mai cyflwyno y dull o gwblhau yr
Asesiad Anghenion yn unig oedd y papur.
Nodwyd bod cydweithio gyda y Bwrdd Iechyd weithiau yn gallu bod yn
sialens, ond bod cysylltiadau mewn lle ar gyfer y darn hwn o waith. Nodwyd y pryder am y diffyg gwlâu gofal nyrsio
yng Ngogledd Cymru a chynlluniau rhyddhau o’r ysbyty yn sgil y ffaith bod pobl
yn byw yn hyn, ynghyd a gallu y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r Asesiad
Anghenion a materion Covid ac ar ben hyn materion
iechyd meddwl. Diolchodd yr Aelod Cabinet am y sylwadau
defnyddiol, gan gyfeirio at y themâu yn y sylwadau o ran pa mor anodd yw gwneud
y gwaith o rhagweld 10 mlynedd. Nododd
bod rhai materion sydd angen ymchwil
pellach, a bod rôl ehangach yma i geisio crynhoi profiadau gwahanol o un rhan
o’r sir i’r llall. PENDERFYNWYD : Derbyn y dull a gyflwynwyd
ar gyfer paratoi Asesiad Anghenion Poblogaeth 2022-2027, gan gydnabod yr heriau
sydd yr ynghlwm a’r amserlen. |
|
Y GWASANAETH SICRWYDD ANSAWDD O FEWN YR UNED DIOGELU I ddarparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1)
Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o
waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant 2) Nodi
pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau
allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y
farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny. 3)
Y
byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at aelodau’r Cabinet er mwyn cyfleu pryder y
pwyllgor am y diffyg capasiti staff a’r angen i
sicrhau capasiti staff digonol er mwyn cynnig
cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad ar y Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Uned Diogelu gan yr Uwch
Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.
Bwriad yr eitem oedd manylu ar y ffordd mae y Cyngor yn monitro
darpariaethau gofal oedolion y Sir, sydd yn cynnwys ystod o sefydliadau. Rhoddwyd trosolwg o waith y tîm. Nodwyd y pryder bod y Gwasanaeth yn gyfrifol
am fonitro nifer o sefydliadau ond dim ond wedi llwyddo i fonitro nifer
cyfyngedig a heb fedru ymweld â’r gwasanaeth gofal cartref na gofal dydd. Yn ychwanegol, yn ystod cyfnod Covid nodwyd nad yw’r ymweliadau dirybudd wedi gallu
digwydd fel y byddai yn arferol ond yn hytrach, bod y staff wedi gwneud
cysylltiadau ffon gyda’r darparwyr. Adroddwyd bod
pum cartref wedi mynd o dan y drefn Pryder Cynyddol dros y 18 mis
diwethaf. Mae’r Tim
Sicrwydd Ansawdd wedi gweithio gyda pob un i baratoi a gweithredu rhaglenni
gwella er goresgyn problemau a gwella ansawdd gwasanaethau gofal. Un o
effeithiau posib y broses yw gosod embargo ar rai mynediadau, sydd yn ei dro yn
cael effaith ar unigolion a’u teuluoedd ac wrth gwrs diffyg arian yn dod i mewn
i gynnal y busnes. Adroddwyd hefyd bod
tri cartref yng Ngwynedd wedi cau dros y 2 flynedd diwethaf. Cyfeiriodd yr Uwch
Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd at Adroddiad ‘Winterbourne
View’, ac adroddwyd bod diffyg monitro yn ffactor yma, ynghyd a diffyg trosolwg
gan y Comisiynwyr. Cadarnhawyd mai
pob tua dwy flynedd mae yr ymweliadau i safleoedd yn cymryd lle ar hyn o bryd,
ond yn ddelfrydol mae angen ymweld pob chwe mis. Nodwyd pan mae problem yn codi, mae
ymweliadau yn cymryd lle i geisio atal safle rhag mynd o dan y drefn Pryderon
Cynyddol. Tra mae hyn yn gwbl angenrheidiol mae yn cael effaith ar allu’r tîm i
fonitro gwasanaethau eraill. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn
cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn : Nodwyd
pryder bod pum gwasanaeth wedi bod dan y drefn pryderon cynyddol, ynghyd a’r gwahaniaeth
enbyd rhwng amlder ymweliadau Cyngor Gwynedd ac awdurdod cyfagos. Cwestiynwyd
a oes ffordd i ddargyfeirio mwy o adnoddau, bo hynny yn arian neu adnodd arall
i gryfhau’r gwasanaeth. Cadarnhaodd yr
Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd, yn dilyn achos o bryderon cynyddol, mai
llunio cynllun datblygu gan roi cyfle i’r gwasanaeth sicrhau gwelliannau oedd y
cam nesaf. Nododd ei bod yn rhannu y
pryder am y diffyg adnoddau a chyfeiriodd at y bid aflwyddiannus a wnaethpwyd
yn 2020/21 am gyllideb i gyflogi staff ychwanegol. Nododd y bydd y cais yn cael
ei ail gyflwyno eleni. Nododd
Aelod arall ei bod yn sefyllfa anodd, a bod y ffigyrau yn debyg iawn i’r
sefyllfa cyn 2016, ond nododd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mai y
gwahaniaeth erbyn hyn oedd y berthynas dda gyda darparwyr a thimau ardal a’r
swyddogion. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth bod y mater ynglŷn â capasiti yn un sylweddol, er ei fod yn derbyn bod rhannu adnoddau i bob gwasanaeth sydd dan bwysau yn heriol. Nododd ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |