Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23. Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am
y flwyddyn 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Linda Ann
Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23. Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Linda Ann Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y
flwyddyn 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes ac Einir Wyn
Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd
y Cynghorydd Linda Ann Jones ei bod hi’n gyfarwyddwr ar gwmni Seren. Nid oedd
hwn yn fuddiant oedd yn rhagfarnu felly ni adawodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 17eg o Fawrth, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17
Mawrth, 2022 fel rhai cywir. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD I enwebu aelodau o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Enwebu'r
Cynghorwyr canlynol i fynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad:
·
Maes gwaith Tai ac Eiddo: Y
Cynghorwyr Dewi Jones a Menna Baines. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad byr yn egluro’r trefniadau Herio Perfformiad ac yn
gofyn i’r Aelodau enwebu cynrychiolwyr i fynychu’r cyfarfodydd Herio
Perfformiad. Esboniwyd bod angen dau gynrychiolydd i bob maes gwaith a bydd
angen i gynrychiolwyr y Pwyllgor Craffu Gofal fynychu cyfarfodydd dwywaith y
flwyddyn. Ychwanegwyd y bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i dderbyn diweddariadau
ar brosiectau blaenoriaeth ac yn gyfle i herio a dod a materion i sylw’r
Pwyllgor Craffu. PENDERFYNWYD: Enwebu'r
Cynghorwyr canlynol i fynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad: ·
Maes gwaith Oedolion Iechyd a Llesiant: Y Cynghorwyr Sasha
Williams a Meryl Roberts. ·
Maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd: Y Cynghorydd Gwynfor Owen
gyda’r ail enwebiad i’w gadarnhau yng nghyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor hwn. ·
Maes gwaith Tai ac Eiddo: Y
Cynghorwyr Dewi Jones a Menna Baines. |
|
CRAFFU TREFNIADAU GOFAL IECHYD CANOLBARTH CYMRU I enwebu tri aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu
Cyd-Bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu'r
Cynghorwyr John Pughe, Linda Ann Jones ac Eryl Jones-Williams i gynrychioli’r
Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth
Cymru. Cofnod: Gofynnwyd i’r Pwyllgor am dri enwebiad i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu
Gofal a'r Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru.
Darparwyd gwybodaeth am gefndir y Grŵp a’i nod yn ogystal â’i rôl, sy’n
cynnwys edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghanolbarth
Cymru a materion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yn yr ardaloedd perthnasol. PENDERFYNWYD: Enwebu'r
Cynghorwyr John Pughe, Linda Ann Jones ac Eryl Jones-Williams i gynrychioli’r
Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth
Cymru. |
|
ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD MARCHNAD GOGLEDD CYMRU Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth. b) Mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr adroddiad gan y
Cabinet a’r Cyngor. Cofnod: Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
nodi pwysigrwydd y ddogfen hon a pha mor ddefnyddiol ydyw. Adroddwyd bod yr
adroddiad yn mynd law yn llaw a’r Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru
gafodd ei graffu nôl ym mis Chwefror gan y Pwyllgor oedd yn edrych ar yr
anghenion gofal a chymorth. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn ymateb i’r Asesiad
Anghenion trwy fesur beth sydd eisoes mewn lle yng Ngogledd Cymru i ymateb i’r
gofynion ac yn cwestiynu os yw’r ddarpariaeth sydd mewn lle yn ddigonol. Adroddwyd y bydd yr Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru yn
mynd i’r Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet cyn mynd i’r Cyngor Llawn ar gyfer
cymeradwyaeth. Ychwanegwyd ei bod yn ddogfen ranbarthol sydd yn dangos
tueddiadau ar draws y Gogledd yn ogystal â negeseuon lleol i Wynedd. Diolchwyd
i swyddogion yr Adran am eu gwaith caled o fewn amserlen dynn gan nodi y bydd
yr adroddiad yn parhau i fod yn ddogfen fyw fydd yn cael eu haddasu ac o
ganlyniad yn ddogfen ddefnyddiol iawn. Cymerwyd y cyfle hefyd i longyfarch y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar dderbyn Cadeiryddiaeth y Pwyllgor hwn. Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant gan nodi bod yr Adroddiad yn un
eang iawn sy’n ymdrin â’r gwasanaethau i oedolion ac i blant gyda negeseuon pwysig
yn cael eu cyfleu. Mae’r adroddiad yn ymdrin â nifer o themâu meis gofal preswyl a nyrsio, mabwysiadu, maethu a
gwasanaethau gofal cartref, yn ogystal ag agweddau yn ymwneud a darpariaeth
llety diogel. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn sôn am wasanaethau arbedol a’n
cydnabod eu pwysigrwydd er mwyn lleihau pwysau ar y gwasanaethau sy’n cael eu
rheoleiddio. Eglurwyd ei bod yn ofynnol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 i lunio’r adroddiad ac y bydd yn cael ei ddiweddaru dros
y misoedd nesaf a’i gadw’n gyfredol. Ymhelaethwyd ar y negeseuon am Wynedd sydd
wedi eu nodi yn rhan 5 o’r Adroddiad a’r rhagfynegiadau am y cynnydd fydd ei
angen yn y gofal a’r ddarpariaeth sydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf. I gloi
nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd yn ymgais i grynhoi'r prif negeseuon sy’n
berthnasol i Wynedd ac y bydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyhoeddi
yng Ngogledd Cymru ar ôl cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ym mis Hydref. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:- ·
Mynegwyd diolch a gwerthfawrogiad
i’r Swyddogion oedd wedi llwyddo i gwblhau’r adroddiad yn erbyn terfyn amser
tynn. ·
Nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld
yn yr adroddiad sut mae Cynghorau unigol y Gogledd yn delio â phroblemau. ·
Holiwyd am ddiweddariad ynghylch
taliadau uniongyrchol gan nodi nad oedd gwybodaeth am Wynedd yn yr adroddiad. · Gwnaethpwyd sylw bod tueddiad i gyffredinoli’r maes Oedolion fel gwasanaeth ar gyfer yr henoed yn unig; teimlwyd bod tueddiadau i sôn am yr henoed wrth drafod cartrefi cefnogol gan anghofio am eraill sy’n derbyn y ddarpariaeth. Mewn ymateb nododd y Pennaeth Adran bod hyn yn adlewyrchu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |