Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.
|
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2021-22 Adroddiad
gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd
Uchelgais ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a'r Adolygiad Diwedd
Blwyddyn Cyfalaf fel ym Mawrth 2022 (Atodiad 3). 2.
Cymeradwyo agor dwy gronfa wrth
gefn newydd ynghyd â'r trosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn fel y manylir yn
Atodiad 2. 3.
Dirprwyo'r hawl i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd, neu yn ei
(h)absenoldeb, yr Is-gadeirydd, a’r Swyddog Cyllid Statudol, i gymeradwyo
gwariant o'r gronfa Prosiectau wrth gefn yn 2022/23. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 4 Adroddiad gan
Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr
Gweithrediadau) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi Adroddiad Perfformiad
Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. 2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol, gan nodi hefyd bod y Bwrdd yn bryderus
ynglŷn â’r costau cynyddol a’r risgiau sy’n wynebu cyflawniad y Cynllun
Twf, ac y bydd, o ganlyniad i’r pryderon hynny, yn trafod hyn ymhellach yn ei
gyfarfod nesaf ac, yn y cyfamser, yn ystyried camau lliniaru, fydd yn cynnwys
trafodaethau ar lefel genedlaethol. |
|
DIWEDDARIAD PROSIECT DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH (HYDROGEN) Adroddiad
gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo'r ffordd ymlaen a
ffefrir ar gyfer y prosiect. 2.
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen, i baratoi a chyhoeddi
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unol â'r adroddiad. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes
ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol
sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r
Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i
rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. |
|
CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER - ACHOS BUSNES AMLINELLOL Adroddiad i’w
gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolfan
Opteg a Pheirianneg Menter ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau
Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Prifysgol
Glyndŵr, Wrecsam (WGU) yn rhoi sylw i’r materion sydd wedi’u nodi yn yr
adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r
Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd. 2.
Nodi y bydd cymeradwyo’r OBC yn gweithredu fel
cymeradwyaeth i’r cais i newid mewn perthynas â chyllid cyfatebol gan Brifysgol
Glyndŵr, Wrecsam. Yn sgil
cymeradwyo argymhelliad 1, bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU am y newid sydd wedi’i gytuno. 3.
Derbyn argymhelliad y Swyddfa Rheoli Portffolio a'r Bwrdd
Portffolio y dylai unrhyw gymeradwyaeth i'r Achos Busnes Llawn yn y dyfodol fod
yn amodol ar i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam barhau i gyflawni cwmpas
gwreiddiol y prosiect a buddsoddi'r un cyfanswm yn uniongyrchol yn y Gogledd ag
y cytunwyd arno'n wreiddiol er na ellir ei gyfrif fel rhan o'r prosiect Cynllun
Twf hwn 4. Dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb caffael a'r meini
prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael. 5. Nodi bod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn
awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo
gan y Bwrdd. |