Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd
fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 17 Chwefror 2020. Cofnod: Derbyniwyd y
cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 17 Chwefror 2020 fel rhai
cywir yn ddarostyngedig: ·
Eitem 10: Hydrogen
– Tanwydd i’r Dyfodol - edrych ar y dull o brynu cerbydau hydrogen ar
y cyd fel rhan o wasanaethau fflyd Awdurdodau Lleol. Nid oedd penderfyniad wedi ei wneud dros ddefnydd un
technoleg dros un arall wrth ystyried prynu cerbydau. ·
i gywiro
enw Peter Davies i Peter Daniels Cadarnhawyd na
fyddai ‘materion yn codi’ o’r cofnodion yn cael ei drafod yn y cyfarfod yn
dilyn eglurhad am drefniadau mewn pwyllgorau. Os am ddiweddariad ar unrhyw
fater rhaid sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys ar raglen y cyfarfod. Cynigiwyd ac
eiliwyd cynnwys materion yn codi o’r cofnodion ar raglen cyfarfodydd i’r
dyfodol. Cylch Gorchwyl yr Is Fwrdd i’w gylchredeg i’r Aelodau Cabinet. |
|
DIWEDDARIAD AR GROWTH TRACK 360 Cyflwyniad
gan Cyng. Louise Gritting a’r Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
Growth Track 360 Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ian Roberts– Cyngor Sir y Fflint. PENDERFYNIAD PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth TRAFODAETH Cyflwynwyd
diweddariad manwl ar y gwaith ar
cynigion sydd i’w hystyried. O ganlyniad i’r gostyngiad
sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod y cyfnod
clo, amlygwyd bod rhaid ystyried ffyrdd newydd o weithio gan sicrhau
bod y cynlluniau yn addas i bwrpas.
Pwysleisiwyd, os na ellid
sicrhau mynediad at drenau cyflym, bydd hyn yn
anfantais sylweddol i Ogledd Cymru. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd bod y wybodaeth yn drylwyr ac yn cynnwys
nifer o faterion cadarnhaol ·
Bod angen gwell eglurhad a dealltwriaeth o’r mathau
o drenau fydd yn cael eu defnyddio ·
Pryder
nad yw Gogledd
Cymru yn rhan o drafodaethau ar gyfyngiad mewn
nifer y teithiau i mewn
i Fanceinion - o ganlyniad, Gogledd Cymru yn debygol
o golli allan ar wasanaethau i’r Maes Awyr
ac i Orsaf Piccadilly ·
Bod rhaid cael gwell adnoddau
yng Nghaer os am gael mwy
o drenau ar draws Gogledd Cymru ·
Bod angen ychwanegu gwydnwch i’r rhestr –
llifogydd a thirlithriadau rheolaidd yn achosi problemau mewn rhai ardaloedd |
|
ADOLYGIAD BYSIAU RHANBARTHOL A DIWEDDARIAD BYSIAU Diweddaru'r
Aelodau ar y cynnydd gyda chynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r trefniadau
llywodraethu bysiau a’r cynnydd â datblygu dull rhanbarthol gyda'r rhwydwaith
bysiau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Derbyn
yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r cyfarfod nesaf ar y cysyniad o ffurfio cwmni bysiau rhabarth
Gogledd Cymru yn nodi’r opsiynau gan
gynnwys y trefniadau llywodraethu posib. Cofnod: Cyflwyniad
gan Dewi Rowlands - Dirprwy
Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Iwan Prys
Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a mewnbwn gan Kemi Adenubi (Trafnidiaeth Cymru) PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r
cyfarfod nesaf ar y
cysyniad o ffurfio
cwmni bysiau rhabarth Gogledd Cymru yn nodi’r opsiynau gan gynnwys y trefniadau
llywodraethu posib. Nodwyd mai pwrpas yr
adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r aelodau ar
ddatblygiadau mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a chyllido gwasanaethau bws ynghyd a’r gwaith
pellach sydd wedi'i gynllunio ar wasanaethau bws Gogledd Cymru. Tynnwyd sylw at y tri mater cysylltiedig i’w hystyried: ·
Diweddariad
ar gynnydd yn sgil cyhoeddi
cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer
diwygio'r trefniadau rheoli ar gyfer
rhwydweithiau bws. ·
Diweddariad
ar y cynnydd gyda'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Bysiau Rhanbarthol i'r Gogledd yn
dilyn gwaith a gomisiynwyd gan y Bwrdd Uchelgais ·
Diweddariad
ar y gwaith a wnaed gan Arup ar ran Trafnidiaeth Cymru ar ddatblygu
gweledigaeth a strategaeth bysiau ar gyfer
Metro Gogledd Cymru Adroddwyd bod COVID-19 wedi amlygu heriau
gyda'r drefn cludo bysiau presennol
sydd wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol yn nifer y teithwyr
bysiau (tua 90%) ar draws gwasanaethau ers y cyfnod clo.
Mae'r niferoedd yn debygol o aros
yn isel hyd
y gellir rhagweld newidiadau i ganllawiau
pellhau cymdeithasol sydd yn cyfyngu
ar gapasiti yn ogystal ag
awydd y cyhoedd i deithio ar
drafnidiaeth gyhoeddus. Nodwyd bod yr argyfwng yn
gyfle i newid
y ddarpariaeth gyda’r pandemig wedi tynnu
sylw at wytnwch gwael a gwendidau cynhenid yn y system bresennol. Ategwyd bod y fframwaith ddeddfwriaethol bresennol yn gyfrifol am ddiffyg cyd-ddarpariaeth Ystyriwyd newid y model ar gyfer y rhwydwaith bysiau yng Nghymru gan sicrhau deilliannau effeithiol fyddai’n ymateb i’r angen. Pwysleisiwyd bod cydweithio gyda’r Awdurdodau yn hanfodol i wella’r gwasanaeth. Nodwyd bod gwaith y cael ei wneud i addasu rhan 3 o’r Bil Bysiau (ffrwd ariannu i gyflawni safonau) fel bod ystod gwell o offer ar gael i Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yn eu hardaloedd.
Ategwyd y byddai’r Strategaeth Trafnidiaeth Cyhoeddus - ‘Gwasanaethau Lleol, Gweledigaeth Genedlaethol’ yn mynd allan am ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020 gyda bwriad o gyflwyno i’r Senedd ym mis Mawrth 2021. Y bwriad yw cyflwyno strategaeth ddrafft gan ymgysylltu gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod gwasanaeth addas ar gyfer unigolion a chymunedau yn cael ei ddatblygu. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Croesawu'r
wybodaeth a gyflwynwyd ·
O ystyried bod y rhwydwaith wedi ei rannu i
ranbarthau gydag amryw o awdurdodau lleol yn rheoli o fewn y rhanbarthau - y sefyllfa yn un cymhleth ac anodd fyddai cael ‘un corff yn rheoli’ ·
Angen
denu unigolion actif - bod y rhwydwaith yn cynnig cysylltiadau
da i feicwyr a defnyddwyr beiciau trydan ·
Bod cyfathrebu ac ymgysylltu clir yn hanfodol · Bod yr adroddiad wedi ei lunio cyn dyfodiad covid - manylion a gwybodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |