Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dafydd Edwards
(Swyddog Cyllid – Awdurdod Arweiniol), Emlyn Jones (Cyngor Sir Ddinbych), Ian
Roberts (Cyngor Sir y Fflint). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganwyd buddiant
personol gan Y Cynghorydd David Bithell ar Eitem 6 gan ei fod yn gweithio i Network Rail. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 7 Rhagfyr 2020. Cofnod: Derbyniwyd y
cofnodion o’r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 7fed Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig: -
Cywiro
cofnodion Saesneg i nodi mai i Gyngor Sir Ddinbych ac nid Cyngor Sir y Fflint y
mae Peter Daniels yn gweithio. |
|
Rhoi
diweddariad i Aelodau ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Y
Bwrdd Uchelgais) a'r Grŵp Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Cadeirydd yn
diweddaru’r Is-Fwrdd ar y ffrydiau gwaith a’u cynnydd dros y ddeufis diwethaf. Trafodwyd y prif bwyntiau gan gynnwys y
canlynol; -
Bod
yr Is-Fwrdd i gyflwyno adroddiad i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd dwywaith y
flwyddyn i’w diweddaru ar y gwaith. -
Rhoddwyd
trosolwg ar y sefyllfa gyda’r Cyd Bwyllgorau Corfforaethol gan nodi y byddant
yn trafod materion mwy cyfyng nag a thrafodwyd yn yr Is-Fwrdd hwn. -
Nodwyd eu bod yn disgwyl am arweiniad pellach yn dilyn
yr etholiadau seneddol diweddar Diolchwyd am yr
adroddiad. Ni chafwyd
sylwadau pellach. |
|
DIWEDDARIAD BYSIAU RHANBARTHOL AC METRO GOGLEDD CYMRU Rhoi cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd
Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n cael ei wneud ar Adolygiad Rhwydwaith Bws
Cenedlaethol Cymru. Rhoi
cyflwyniad a diweddariad i Aelodau ar gynnydd Trafnidiaeth Cymru ar waith sy'n
cael ei wneud ar brosiectau o fewn Metro Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW. Metro Gogledd Cymru Rhannwyd cyflwyniad gyda’r Is-Fwrdd yn egluro’r darlun
cenedlaethol ac yna ffocysu ar Ogledd Cymru a’r prosiectau sydd ar waith.
Eglurwyd cyd-destun y rhaglen Metro Gogledd Cymru a thywyswyd yr Is-Fwrdd
drwy’r amserlen arfaethedig a’r parthau dan sylw. Trafodwyd y prif amcanion ynghylch
Metro gogledd Cymru gan gynnwys: - Bod angen diwygio
ambell i amserlen bresennol gan eu bod yn gyfyng - Nifer o adrannau gydag arwyddion wedi dyddio - Ar y cyfan, mae cyflymdra isel ar y lein - Bod angen gwerthuso
cyflwr presennol asedau sy’n ymwneud a’r Metro - Nodi bod rhai gorsafoedd yn parhau i fod yn anhygyrch - Croesfannau rheilffordd
yn amharu ar y gallu i gynnal trenau sy’n rhedeg yn gyflymach
ac yn amlach. Amlygwyd y camau nesaf fel a
ganlyn: - Gwaith parhaus gydag Network Rail er mwyn gwerthuso
croesfannau rheilffordd a chyfarch yr anghenion yn y gobaith o gyrraedd
datrysiad parhaol i’r sefyllfa. - Gwelliannau i ddod er
enghraifft yn Shotton a Glannau Dyfrdwy er mwyn
cynyddu cynhwysedd. - Dealltwriaeth o pan
ddefnyddir ceir fel modd trafnidiaeth wrth deithio rhwng Gogledd Cymru a
dinasoedd fel Manceinion. Archwilio cysylltiad gyda HS2. - Archwilio llefydd lle
gallai addasu’r ddarpariaeth heb angen newid sylweddol i’r isadeiledd, er
enghraifft o amgylch Gaer a Llandudno. - Archwilio estyniad
gwasanaeth yn llefydd megis Caernarfon a Lein Amlwch. Bysiau Rhanbarthol Aethpwyd ati i drafod materion
ynghylch bysiau rhanbarthol, gan dynnu sylw at y prif egwyddorion fel a ganlyn: - Awdurdodau lleol wedi cytuno mai prif amcan yw cynyddu defnydd ar y
rhwydwaith bysiau. - Amlygwyd yng Ngogledd
Cymru mewn sawl ardal nad oedd dewis amgen gan ddefnyddwyr a dyna pam mae
cyfrannau uchel o ddefnyddwyr i’w gweld. - Canfyddiad yw
cyflwyno’r rhwydweithiau mewn modd sy’n caniatáu gwella cysylltedd gan fod y
rhwydwaith mor gymhleth. - Trefnwyd cytundebau
tocynnau er mwyn hwyluso prynu tocynnau, i gael mynediad at ddata defnyddwyr,
ac i wella effeithlonrwydd. - Soniwyd am brosiectau traws Gogledd Cymru mewn ardaloedd megis Bangor,
Prestatyn a Chaergybi. - Nodwyd bod gwaith yn
digwydd gydag Awdurdodau Lleol er mwyn adnabod safleoedd posib Parcio a
Theithio megis Bangor, Rhyl a Chyffordd Llandudno a fyddai hefyd yn cael
effaith bositif ar y Parc Cenedlaethol gan leihau’r problemau parcio. - Eglurwyd bod cynllun
peilot ar waith er mwyn cyfyngu prisiau tocynnau - Cwmni bysiau Traws Cymru yn edrych ar ffyrdd o ganiatáu integreiddio gyda’r
trenau er mwyn hwyluso teithio. Cododd y sylwadau isod yn ystod y
drafodaeth: - Gofynnwyd y Cadeirydd
am fwy o wybodaeth ynghylch y raddfa amser tebygol ar gyfer y camau nesaf. - Mynegwyd un aelod bod
angen gweithio ar frandio Metro Gogledd Cymru er mwyn ei hyrwyddo. - Cytunwyd bod gwasanaeth amserlennu yn bwysig iawn pan mae nifer uchel o
ddefnyddwyr er mwyn cadw hyder yn y gwasanaeth - Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau i addasu’r weledigaeth wrth i’r gweinidog
trafnidiaeth newydd ymgymryd yn ei swydd. Holwyd aelod ynghylch cyllid ac os oedd cadarnhad o gyllid tymor hir er mwyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
EITEM ER GWYBODAETH - DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH A DIWEDDARIAD HWB HYGROGEN Darparu trosolwg o brosiect
Hwb Hydrogen Caergybi o ran y cynnydd hyd yma ac amlinellu'r camau nesaf yn
natblygiad y prosiect. Diweddaru'r
Aelodau ar y cynnydd gyda datblygu cynigion prosiect ar gyfer prosiectau
trafnidiaeth carbon isel a di-garbon yn y Gogledd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem yma er
gwybodaeth yn unig. Croesawyd yr adroddiad gan nodi ‘r
cyfleoedd a swyddi a ddaw yn sgil datblygiadau gorsafoedd llenwi Hydrogen. Ategwyd y byddai cerbydau hydrogen
at berthynas casglu sbwriel ayyb ar gael erbyn diwedd y flwyddyn Codwyd y sylwadau isod mewn perthynas â’r adroddiad: -
Nodwyd
nad yw aelodau’r Is-Fwrdd yn ymwybodol o’r camau sydd ar y gweill gyda
Hydrogen. Ategwyd bod cyfle i sefydlu os oes angen rhanbarthol ar gyfer
hydrogen gwyrdd er mwyn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru. ------------------------------------------------------------------------------------------------------- Gofynnodd cyn aelod yr Is-Fwrdd Carolyn
Thomas AS, petai fodd iddi fynychu cyfarfodydd fel sylwedydd yn y dyfodol . Cytunwyd nad oedd gwrthwynebiad, ac
ategwyd y byddai’n ddefnyddiol i Aelod Seneddol fynychu. |