Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.Llyw.Cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I nodi unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol; Annwen Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn, Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Lletyol), Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

 

Cyfeiriodd aelod at y sefyllfa bryderus sydd yn ein hysgolion gan nodi mai dyma’r adeg fwyaf ansefydlog maent wedi ei hwynebu dros gyfnod y pandemig yn sgil niferoedd positif uchel iawn o Covid-19 sydd o fewn ysgolion.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfynwyd y byddai’n fwy priodol cyfarfod y tu allan i gyfarfod y Cydbwyllgor, ar amser i’w drefnu a fyddai’n gyfleus i bawb.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 269 KB

Cofnod:

 

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 14eg o Orffennaf 2021 yn gywir.

5.

CYLLIDEB GWE 2021-2022 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 404 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Adroddwyd mai adolygiad cychwynnol yw hwn a rhagwelir tanwariant net o (£48,805) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2021/22. Ategwyd nad oes materion wedi codi yn ystod y broses monitro chwarter 1 sy’n codi pryder.

 

Adroddiad monitro cyntaf y flwyddyn yw hwn, sy’n edrych ar gwir gostau hyd at ddiwedd Mehefin ynghyd ac amcan gwariant hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan obeithio bydd y sefyllfa yn fwy clir erbyn yr adolygiad chwarter nesaf.

 

Amcangyfrifir cronfa cyffredinol gwerth £612,335 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, sy’n sefyllfa gadarnhaol i fod ynddo.

 

Nodwyd bod diffyg incwm mewnol wedi bod o fewn y maes rhenti, gan nad oes modd ddefnyddio adeiladau GwE i redeg cynlluniau sy’n cael ei talu allan o grantiau. Yn ogystal, nodwyd bod defnydd cludiant wedi ailgychwyn, ond nid yn ôl i lefelau arferol a disgwylir tanwariant oherwydd hyn.

 

 

 

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-2022 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-2022 GwE i'r Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd y papur gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi bod amgylchiadau yn mynd i arafu neu gyflymu rhai o’r gweithredoedd a nodwyd.  Tynnwyd sylw'r aelodau at y data i gefnogi’r prif amcanion a chyfeiriodd at ba ymgysylltu sydd wedi bod ar y wahanol gynigion.  Nododd bod hyn yn berthnasol i aelodau adrodd yn ôl yn eu Pwyllgorau Craffu Addysg.

 

Parhaodd i nodi bod cludiant yn dechrau cynyddu o gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cyfeiriwyd at eitemau megis y cwricwlwm, anghenion dysgu ychwanegol a phwysleisiodd bod angen sensitifrwydd gydag amgylchiadau ysgolion yn y cyfnod anodd hwn. 

 

Nodwyd bod Estyn wedi ailgychwyn arolygu o ddechrau’r tymor yma yn bennaf o fewn ysgolion sy’n peri pryder.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Nodwyd bod Penaethiaid yn wynebu heriau ymgysylltu oherwydd yr amgylchiadau presennol. 

-          Ategwyd bod enghreifftiau o fewn ysgolion lle mae Pennaeth yn dysgu oherwydd prinder staffio. 

-          Cyfeiriwyd hefyd at brinder staffio mewn ysgolion arbennig lle mae gan blant anghenion dwys sy’n creu anawsterau sylweddol. 

-          Nodwyd bod pwysau pellach gydag Estyn yn ailgychwyn arolygu yn creu pryder i sawl ysgol.

 

7.

ADRODDIADAU HUNAN ARFARNU YSGOLION pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno’r adroddiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r blaenoriaethau rhanbarthol lefel uchel..

b)    Cydnabod yr ymrwymiad mae swyddogion GwE wedi’i ddarparu i sefydliadau addysgol ar draws y Gogledd yn ystod y cyfnod pandemig.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a rhoddwyd trosolwg o sut mae ysgolion ac UCD yng Ngogledd Cymru wedi ymateb i COVID-19.

 

Nododd bod staff GwE wedi bod yn cefnogi ysgolion er mwyn arfarnu ansawdd ac effaith eu darpariaeth yn ystod y cyfnod clo fel rhan o’u rhaglen waith.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r trafodaethau gyda’r ysgolion, ynghyd â’r meysydd sydd angen eu datblygu a'u cefnogi ymhellach.

 

Ategwyd bod ysgolion wedi dysgu llawer o’r cyfnod clo cyntaf ac felly bod y ddarpariaeth yn ystod yr ail gyfnod wedi adeiladu ar hyn.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at y blaenoriaethau rhanbarthol sydd wedi codi o’r adroddiad a rhoddwyd trosolwg ohonynt.

 

Cyfeiriwyd at eiriau’r Gweinidog Addysg ar dudalen 63 y rhaglen, sef:

 

'bydd yn ofynnol i bob ysgol a darparwr ôl-16 barhau i gynnal hunanwerthusiad effeithiol ar gyfer gwella'n barhaus. Mae ein trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ni’n gofyn iddynt ystyried ystod eang o wybodaeth sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol ei hun wrth hunanwerthuso a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Golyga hyn y bydd ysgolion, gyda chymorth yr awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol, yn defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt ar lefel disgyblion am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u gwella.'

 

Nododd bydd GwE yn cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Diolchwyd i swyddogion GwE am weithio gyda’r Awdurdodau Lleol a’r Penaethiaid Addysg er mwyn hyrwyddo cydweithio.

-          Ategwyd bod yr adborth o fewn yr adroddiad yn wych a chyfeiriwyd at yr holl gymorth sydd wedi bod ar bob lefel.

-          Cyfeiriwyd at bryder rhai o’r aelodau am yr anghysondebau a’r amrywiaeth yn y ddarpariaeth gan ysgolion.  Cyfeirir at hyn o fewn yr adroddiad ac ategwyd bod rhannu arferion da yn dangos bod hyn yn cael sylw.

-          Ategodd aelod bod angen cyfathrebu da ac amserol fel bod penaethiaid yn gallu ymateb i unrhyw heriau.

 

                     Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Nodwyd y pwysigrwydd bod ysgolion yn ymwybodol o beth yw’r model asesu boed hynny’n asesiad athro, neu ganolfan neu’n arholiad.

-          Mai’r brif neges yw bod ysgolion yn ymwybodol o’r mecanweithiau sydd eu hangen mewn lle i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial.

 

8.

PROSESAU A STRWYTHURAU RHANBARTHOL AR GYFER CEFNOGI A HERIO YSGOLION SY'N DESTUN PRYDER pdf eicon PDF 378 KB

Rhannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd Bwyllgor am esblygu strwythurau a phrosesau rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy'n destun pryder.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n dal yn gryno y gwaith dros y Gwanwyn a’r Haf er mwyn grymuso ymhellach yr arweiniad a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion sy’n achosi pryder.

 

Nododd bod y papur yn berthnasol i ganran o’r ysgolion er mwyn iddynt sicrhau mwy o berchenogaeth ac atebolrwydd am eu taith gwella a’i wneud o fewn fframwaith o gydweithio mewn clystyrau a chynghreiriau.

 

Cydnabuwyd bod rhai ysgolion angen cymorth mwy cynhwysfawr a dwys, yn arbennig rhai sydd mewn categori statudol neu’n cael eu hadnabod fel rhai mewn peryg o ddisgyn i mewn i’r categori statudol. 

 

Bydd system rhybudd cynnar yn galluogi GwE ac awdurdodau i ymyrryd yn gynnar. Aethpwyd ati i egluro bod cyswllt rheolaidd gyda swyddogion o fewn yr ysgolion yn ddefnyddiol i rannu gwybodaeth a chydweithio ar y cynlluniau. Ar hyn, nodwyd nad Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant fydd gan yr ysgolion yma ond tîm cyfan i’w harwain.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Diolchwyd am yr adroddiad amserol sy’n adlewyrchu proses sydd ei angen i roi cymorth i ysgolion sy’n achosi pryder.

-          Adnabuwyd y pwysigrwydd i gefnogi ysgolion ond hefyd y gwaith sydd angen ei wneud iddynt fod yn hunangynhaliol.

-          Holodd aelod ynghylch y data o’r graff a gofynnwyd a fydd ystyriaeth i statws ysgol wrth nodi beth yw cyrhaeddiad y disgyblion. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Bod y dyddiau o ddata craidd ynglŷn â chyrhaeddiad wedi’i addasu gan fod y cwricwlwm newydd yn gofyn am fframwaith ansoddol a mwy holistaidd.  Ategodd y bydd hyn yn fodd o nodi cyflawniad dysgwyr o waelodlin fwy unigryw. 

 

9.

STRATEGAETH RHANBARTHOL - ADNEWYDDU A DIWYGIO: CEFNOGI LLES A CHYNNYDD Y DYSGWYR pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno gwybodaeth, ac i aelodau'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo ein 'Strategaeth ranbarthol - Adnewyddu a diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr'. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo'r Strategaeth Ranbarthol.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau’r Cydbwyllgor ar gyfeiriad strategol GwE dros y cyfnod nesaf yn sgil heriau’r pandemig Covid-19.

 

Cyfeiriwyd at y strategaeth ranbarthol a nodwyd bod themâu wedi eu hadnabod er mwyn sicrhau darpariaeth safon uchel i ddysgwyr.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith arloesol sydd wedi bod wrth i staff ail bwrpasu a’r newidiadau a fuodd yn sgil hyn.

 

Trafodwyd sut mae rôl Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant wedi esblygu er mwyn cwrdd â’r gwahanol ofynion o fewn yr ysgolion. Cyfeiriwyd at y broses o arfarnu’n fewnol fel bod ysgolion yn medru rhoi ffocws ar wella o fewn yr ysgol.

 

10.

Y GYMRAEG - CYNLLUNIAU CLWSTWR A PHROSIECT LLAFAREDD 'EIN LLAIS NI' pdf eicon PDF 518 KB

Rhannu gwybodaeth am y trefniadau a’r cynlluniau ar gyfer dau brif ffrwd gwaith y cynllun busnes ar gyfer y Gymraeg eleni – trefniadau ar gyfer y Cynlluniau Clwstwr a Phrosiect Llafaredd ‘Ein Llais Ni’.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau a osodwyd gan Llywodraeth Cymru.

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y trefniadau a’r cynlluniau ar gyfer dau brif ffrwd gwaith y cynllun busnes ar gyfer y Gymraeg eleni – trefniadau ar gyfer y Cynlluniau Clwstwr a Phrosiect Llafaredd ‘Ein Llais.

 

Trafodwyd y ffrwd gyntaf sef y cynlluniau clwstwr gan nodi’r amcanion o hyrwyddo cyfarfodydd clwstwr, datblygu sgiliau Cymraeg ac annog cydweithio rhwng y Cynradd ac Uwchradd. Nododd y bydd tri Ymgynghorydd ym mhob ardal yn gweithio’n agos efo’r Awdurdodau Lleol i sicrhau cefnogaeth.

 

O ran yr ail ffrwd, Prosiect Llais Ni – eglurodd bod y prosiect wedi ei hariannu yn dilyn cais i Lywodraeth Cymru i hyrwyddo llafaredd Cymraeg a mireinio sgiliau siarad y dysgwyr.

 

Nodwyd bod y prosiect wedi ei gynllunio’n agos gyda’r Athro Enlli Thomas, Prifysgol Bangor a bydd Swyddog Ymchwil ar gyfer y prosiect.  Parhaodd i nodi bod y broses gynllunio wedi digwydd ac hysbysiad wedi ei anfon i ysgolion. Ategodd bod bwrdd llywio ar fin ei sefydlu i oruchwylio’r prosiect ac adrodd yn ôl i’r Llywodraeth.

 

Rhannwyd y bydd cynhadledd lansio ar yr 20fed Hydref i ysbrydoli ysgolion a rhannu strategaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-          Nododd bod yr awdurdodau yn brysur yn cynllunio eu hadroddiadau CSGA; gwerthfawrogir bob cymorth i hyrwyddo’r Gymraeg.

-          Holwyd os oes bwriad i adrodd yn ôl yn y dyfodol ar effaith y gweithgareddau sydd wedi bod i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgolion.

-          Diolchwyd am yr adroddiad amserol yn sgil dirywiad sydd wedi bod yn nefnydd y Gymraeg o fewn yr ysgolion oherwydd y cyfnod clo a hyn mewn cadarnleoedd ieithyddol Cymraeg.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-          Bod sgyrsiau ar waith am ddefnyddioldeb posib cyflwyno adroddiad i’r Cydbwyllgor er mwyn i’r aelodau weld y ffrydiau gwaith sydd yn bodoli i gefnogi hyrwyddo’r Gymraeg mewn ysgolion.

 

 

11.

DYSGU DIGIDOL pdf eicon PDF 331 KB

Rhannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor ynglŷn â’r maes gwaith ‘Dysgu Digidol’. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cylch gwaith y Grŵp Rhanbarthol Dysgu Digidol fydd yn gosod y cyfeiriad strategol i gefnogi GwE, yr Awdurdodau Lleol ac ysgolion i weithredu strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau’r Cydbwyllgor.

 

Ni fu trafodaeth nac unrhyw sylwadau pellach.

 

 

12.

TREFN YMDRIN A PHRYDERON A CHWYNION GwE pdf eicon PDF 490 KB

Derbyn a chymeradwyo’r drefn o ymdrîn â phryderon a chwynion GwE. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r drefn o ymdrîn â phryderon a chwynion GwE

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau’r Cydbwyllgor.

 

Ni fu trafodaeth nac unrhyw sylwadau pellach.