Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 /24 Penderfyniad: COFNODION: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2023 / 24 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR
OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 COFNODION: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 |
|
|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Alan Jones Evans ac Angela
Russell |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w nodi |
|
|
COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 5ed Rhagfyr 2022 fel rhai cywir |
|
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar
y dyddiau canlynol: 1. 13 Mawrth 2023 2. 10 Chwefror 2023 3. 23 Ionawr 2023 4. 14 Rhagfyr 2022 5. 23 Tachwedd 2022 6. 14 Tachwedd 2022 7. 08 Tachwedd 2022 Dogfennau ychwanegol:
COFNODION: Cyflwynwyd a
derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd 13 Mawrth 2023, 10 Chwefror 2023, 23 Ionawr 2023, 14 Rhagfyr 2022,
23 Tachwedd 2022, 14 Tachwedd 2022 a 08 Tachwedd 2022 fel rhai cywir. |
|
|
FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2023/24 I ystyried cymeradwyo'r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellir
; yn ddarostyngedig i yn ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad
drwy rybudd cyhoeddus. Penderfyniad: Cymeradwyo’r
cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellwyd: yn ddarostyngedig i
ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus. COFNODION: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd
arfaethedig trwyddedau tacsi 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn
ôl yn 2013, wedi penderfynu y byddai
ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol a hynny i adennill costau llawn
o dderbyn, prosesu a gweinyddu trwyddedau yn unig. Amlygwyd nad oedd ffioedd
Gwynedd wedi newid ers 2019 ac er yr adolygwyd y sefyllfa yn 2020/21,
penderfyniad y Pwyllgor oedd peidio cynyddu ffioedd oherwydd sgil effeithiau
argyfwng covid. Adroddwyd
bod yr Awdurdod Trwyddedu yn cydnabod fod costau cynnal a chadw cerbydau,
costau yswiriant a chostau tanwydd wedi bod yn cynyddu dros yr 18 mis diwethaf,
a bod y sefyllfa wedi bod yn anodd i’r diwydiant tacsi wrth ddod allan o’r
cyfnod covid. Amlygwyd,
yng nghyd-destun costau’r Uned Trwyddedu, bod chwyddiant, ynghyd a ffactorau megis anghenion hyfforddiant
swyddogion, costau hysbysebu ac ymgynghori ar newidiadau i’r prisiau, a
chynnydd yn y lefel gwiriadau sydd angen eu gwneud i sicrhau addasrwydd gyrwyr,
cerbydau a gweithredwyr hefyd yn ystyriaethau ar gyfer cynyddu costau darparu’r
gwasanaeth trwyddedu tacsis. Ategwyd yr angen i gwblhau Adolygiad y Polisi
Tacsi Unedig, fydd yn mabwysiadu argymhellion Safonau Statudol Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat Cenedlaethol yr Adran
Drafnidiaeth; yn ogystal ag ymgorffori'r newidiadau pellgyrhaeddol arfaethedig fydd yn debygol o
ddeillio o ymgynghoriad Papur Gwyn
Llywodraeth Cymru ar sut mae’r diwydiant tacsi yn cael ei reoleiddio. O ganlyniad,
ystyriwyd nad oedd fawr o ddewis ond cynyddu’r ffioedd os am gynnal y
gwasanaeth a ddisgwylir gan y cyhoedd a’r diwydiant. Adroddwyd
bod y diffyg incwm a geir am y gwahanol
drwyddedau tacsi yn amrywio; yn ddibynnol ar yr ymdrech ychwanegol sydd yn digwydd
wrth brosesu ceisiadau a gwirio cydymffurfiad ac felly argymhellwyd cynnydd ar
gyfartaledd o 12% mewn lefelau ffioedd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r
diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus. Diolchwyd am yr adroddiad. Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Er bod cynyddu unrhyw ffioedd yn groes i’r graen,
bod rhaid adennill costau ·
Pryder y bydd rhai cwmnïau yn dod i ben o ganlyniad
i’r cynnydd – angen sicrhau bod cymorth ar gael ·
Prinder gyrwyr mewn ardaloedd gwledig, pam felly
bod rhaid iddynt dalu'r un pris a gyrwyr ardaloedd trefol ·
Bod rhai cwmnïau yn anwybyddu’r tariff Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnydd arfaethedig sylweddol mewn trwydded 3 mlynedd,
derbyniwyd mai dyma’r cynnydd mwyaf sydd yn cael ei argymell oherwydd y gwaith
o sicrhau os yw gyrrwr yn addas a phriodol (fydd hefyd i’r dyfodol, yn unol â
gofynion statudol, yn cynnwys gwirio taliadau treth). Mewn ymateb i
gwestiwn pam na ellid gwneud cynnydd o 12% ar gyfer yr holl ffioedd yn hytrach
na chanran cyfartaledd, nodwyd mai adennill costau yn unig yw hawliau'r Uned
Trwyddedu a bod ffactorau penodol ynglŷn â’r broses. Amlygwyd bod
ymarferiad costau wedi ei wneud ar gyfer pob math o drwydded i amlygu tegwch ac
fe ystyriwyd na fuasai un canran yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa. Mewn ymateb i’r sylw bod rhai cwmnïau tacsi yn anwybyddu’r tariff, nodwyd bod Papur ... view the full COFNODION text for item 8. |