Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- · Y Cynghorydd Nia
Jeffreys (Cyngor Gwynedd) · Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul
Spencer yn dirprwyo · Yana Williams
(Coleg Cambria) · Askar Sheibani
(Bwrdd Cyflawni Busnes) · Dafydd Gibbard
(Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo · Elliw Hughes
(Uchelgais Gogledd Cymru) Croesawodd y
Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod a chroesawu’r Athro Joe Yates i’w gyfarfod
cyntaf o’r Bwrdd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ar
gyfer Eitem 7 oherwydd ei phenodiad fel Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod
yn ystod y drafodaeth, yn dilyn cyflwyno rhan o’r Adroddiad. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 20 Medi 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 20 Medi 2024 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 153 KB Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol) ac Sian Pugh
(Pennaeth Cyllid Cynorthwyol r Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd: ·
Adroddiad
‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC. ·
Datganiad
o Gyfrifon terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid Statudol. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd: ·
Adroddiad
‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC. ·
Datganiad o
Gyfrifon terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2023/24. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwynir yma'r fersiwn derfynol (ôl-archwiliad) o’r Datganiad o’r
Cyfrifon am 2023/24. Mae’r prif newidiadau ers y fersiwn cyn archwiliad wedi’u
hamlinellu yn Atodiad 3 ‘ISA260’ Archwilio Cymru. TRAFODAETH Cadarnhawyd
bod y Datganiad Cyfrifon blynyddol a gyflwynwyd yn yr Adroddiad wedi cael eu
paratoi yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdodau Lleol.
Ymhelaethwyd bod hyn wedi cael ei wirio gan Archwilio Cymru, sef archwilwyr
allanol y Bwrdd Uchelgais. Eglurwyd
bod y wybodaeth a gyflwynwyd o fewn yr Adroddiad wedi cael ei rannu gyda’r
Bwrdd eisoes pan gyflwynwyd Sefyllfa alldro Refeniw a Chyfalaf y Cydbwyllgor ar
gyfer 2023/24 (17 Mai 2024) ac wrth gyflwyno Datganiad drafft o’r Cyfrifon (19
Gorffennaf 2024). Adroddwyd
bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon
eleni. Eglurwyd bod hyn yn cael ei gadarnhau wedi i’r Bwrdd gyflwyno Llythyr
Sylwadau i Archwilio Cymru yn seiliedig ar y Datganiad Cyfrifon. Pwysleisiwyd
yr angen i’r Is-gadeirydd a’r Swyddog
Cyllid Statudol i arwyddo’r llythyr a’i gyflwyno i’r archwilwyr. Tynnwyd
sylw at gywiriad a nodwyd o fewn Adroddiad yr archwilwyr (ISA260) yn Atodiad 3.
Cadarnhawyd mai newid i eiriad y Datganiad Cyfrifon yw hyn ac nid yw’n
effeithio’r wybodaeth ariannol. Diolchwyd
i holl swyddogion Archwilio Cymru ac Adran Cyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith o
baratoi’r Datganiad o Gyfrifon. Derbyniwyd
ymholiad ar dabl sy’n crynhoi taliadau ac incwm rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig
y Gogledd, Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer
blwyddyn ariannol 2023/24, gan fanylu ar yr arian a oedd yn ddyledus o’r Bwrdd
Uchelgais i Brifysgol Wrecsam. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol bod y taliad hwn sy’n ddyledus i’r Brifysgol yn ymwneud ag arian
grant cyfalaf ar un o brosiectau’r Bwrdd Uchelgais. Atgoffwyd bod y wybodaeth a
welir yn y tabl yn crynhoi’r wybodaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a bod yr
arian dyledus wedi cael ei dalu yn fuan yn y flwyddyn ariannol hon (2024/25). |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 2 2024/25 PDF 245 KB Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Ystyriwyd
a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
ddiweddaru. ·
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau. PENDERFYNWYD · Ystyriwyd a nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru. ·
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun
Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth
gan y Bwrdd Uchelgais, caiff yr adroddiadau
eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol. TRAFODAETH Rhoddwyd diweddariad ar gynnydd Rhaglenni’r Bwrdd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan fanylu ar y prif ddatblygiadau canlynol: ·
Rhaglen Ynni
Carbon Isel - Atgoffwyd
bod Achos Busnes Amlinellol ‘Cydnerth’ wedi ei gymeradwyo
gan y Bwrdd ym mis Gorffennaf. Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud i
gryfhau sefyllfa’offtake’
ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi gyda
Memorandwm o Ddealltwriaeth
yn ei le er mwyn symud y prosiect
ymlaen. Cadarnhawyd bod diddordeb sylweddol ym mhrosiect ‘GwerthwchiGymru’
fel rhan o gynllun Ynni Lleol
Blaengar. ·
Rhaglen Tir ac Eiddo - Eglurwyd
bod datblygiadau cadarnhaol
i’w gweld ym mhrosiectau Warren Hall, Porth
y Gorllewin, Cyn Ysbyty
Gogledd Cymru, Parc Bryn Cegin a Phorth
Wrecsam. Cydnabuwyd bod oediad
i’w weld ym mhrosiectau Porth Caergybi a Stiwdios
Cinmel ac bod y prosiectau yn ymddangos yn
goch ar y Gofrestr Risg. ·
Rhaglen Arloesi
mewn Gweithgynhyrchu Uwch
- Sicrhawyd bod y gwaith o adeiladu Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn datblygu’n
dda gydag ymgyrch caffael pellach ar gyfer y prosiect wedi lansio.
Atgoffwyd bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol ei gymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Gorffennaf
2024 ac mae’r prosiect yn gweithio tuag
at arwyddo’r Cytundeb Cyllid Grant. · Rhaglen Bwyd-amaeth
a Thwristiaeth - Cadarnhawyd
bod prosiect Antur Gyfrifol yn parhau
i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol
er mwyn ei gyflwyno i’r Bwrdd.
Nodwyd bod Achos Busnes Llawn y Rhwydwaith Talent Twristiaeth gan y Bwrdd ym
mis Medi 2024. Cydnabuwyd bod prosiect
Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon yn parhau i
ymddangos yn goch ar y gofrestr risg ac yn ystyried
opsiynau yn dilyn adborth ar eu harolygol amgylcheddol. · Rhaglen Ddigidol – Tynnwyd sylw at ddatblygiadau ymgysylltu’r prosiect Safleoedd a Choridorau Cysylltiedig Allweddol ‘4G+’ yn ddiweddar. Atgoffwyd
hefyd bod Achos Busnes Amlinellol ‘Di-wifr Uwch’ ac Achos
Cyfiawnhad Busnes prosiect LPWAN wedi eu cymeradwyo gan
y Bwrdd yn y misoedd diwethaf. Cadarnhawyd nad oes newid
mewn sgôr ar gyfer Cofrestr Risg Portffolio Cynllun Twf Gogledd
Cymru. |
|
Alwen
Williams (Cyfarwydd Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Dylan J.
Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Derbyniwyd
diweddariad ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo’r
Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy’n ofynnol i gyflawni swyddogaethau
statudol y CBC. 2.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig
gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y
dyddiad targed o 31 Mawrth 2025. 3.
Cymeradwyo
bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau
ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael eu
hymestyn tan 31 Mawrth, 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p’un fydd
gyntaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Portffolio a Phrif Swyddog Cyngor Sir Ynys Môn. PENDERFYNIAD 1.
Derbyniwyd diweddariad ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd,
gan gynnwys trosglwyddo’r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy’n ofynnol i
gyflawni swyddogaethau statudol y CBC. 2.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a
dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg
Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 31 Mawrth 2025. 3.
Cymeradwyo bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y
Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif
Weithredwr Dros Dro yn cael eu hymestyn tan 31 Mawrth, 2025 neu’r dyddiad
trosglwyddo, yn dibynnu p’un fydd gyntaf. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ym mis Rhagfyr
2021/mis Ionawr 2022, cytunodd Cabinet a Phwyllgorau Gweithredol pob un o'r
chwe Awdurdod Lleol a phartneriaeth ehangach y Bwrdd Uchelgais, mewn egwyddor,
y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y
Bwrdd Uchelgais) trwy gytundeb dirprwyo i'r CBC. Mae'r fframwaith statudol a
sefydlu'r CBC yn gofyn am y ffocws a'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu'r
gwaith trosglwyddo. Mae angen cymeradwyaeth gan yr holl sefydliadau partner a
Llywodraethau cyn y gellir cwblhau'r trosglwyddo. Mae swyddogaethau
a threfniant partneriaeth y Bwrdd Uchelgais wedi'u nodi yn GA2 ar hyn o bryd.
Mae hyn hefyd yn cynnwys y trefniadau llywodraethu a'r trefniadau hirdymor ar
gyfer cefnogi'r Cynllun Twf a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn ariannol i
gyflawni'r cynllun. Dan y cytundeb dirprwyo arfaethedig, byddai'r Cynllun Twf
a'r trefniadau ariannol cysylltiedig yn trosglwyddo i'r CBC a byddai'n ymateb
yn rhannol i'r pŵer a roddir i'r CBC i hyrwyddo lles economaidd
rhanbarthol. Mae'r swyddogaeth Llesiant Economaidd hon yn cyd-fodoli â phwerau
datblygu economaidd pob un o Gynghorau'r Gogledd. Bydd angen i bartneriaid
rhanbarthol gytuno a chyd-ddatblygu sut bydd y swyddogaethau hyn yn gweithio'n
rhanbarthol, fel rhan o sefydlu'r CBC. Mae angen cydnabod hefyd bod y
penderfyniadau gwreiddiol mewn egwyddor i drosglwyddo'r Cynllun Twf wedi'u
gwneud pan oedd cysyniad y CBC yn dal i gael ei ddatblygu. Felly, bydd yr union
fodel ar gyfer y trefniadau trosglwyddo yn cael ei gytuno gyda phartneriaid fel
rhan o'r camau nesaf. Er mwyn
gweithredu'r trosglwyddiad, mae yna faterion cyfreithiol allweddol sy'n cael eu
Datblygu 1.
Cytundeb gyda'r Llywodraethau ar drosglwyddo
(novation) y Cynllun Twf drosodd i'r CBC a'r model ar gyfer cyflawni hyn. Mae'r
egwyddor i drosglwyddo wedi derbyn cefnogaeth y llywodraeth. 2.
Penderfyniadau ffurfiol
gan y partïon i Gytundeb Llywodraethu
2 (GA2) a'r CBC i gytuno i drosglwyddo
swyddogaethau'r Cynllun Twf a swyddogaeth y Corff Atebol i'r
CBC. 3. Creu Cytundeb Cydweithio rhwng partïon GA2 a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd y cytundeb yn olynydd i GA2 ac mewn sawl ffordd bydd yn adlewyrchu'r trefniadau presennol. Fodd bynnag, bydd statws corfforaethol gwahanol y CBC yn golygu y bydd angen mynd i'r afael ag agweddau ar y cytundeb mewn ffyrdd gwahanol. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r ffaith bod GA2 wedi creu Cyd-bwyllgor o'r Cynghorau Cyfansoddol gyda phwerau dirprwyedig tra bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Cofnod: PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 9 gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff
14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â
thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod
sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei
chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol
ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau
cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb
Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
DIWEDDARIAD ACHOS BUSNES PORTFFOLIO 2024 Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ac Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth
Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo
diweddariad 2024 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol 2.
Gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen cais i
newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol
a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad ag Is-gadeirydd
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog a151, i negodi
gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad dyfarnu’r cyllid ac i
wneud unrhyw fân addasiadau ar gyfer y naill lywodraeth neu’r llall. 3.
Nodi
adroddiad Adolygiad Porth ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu
cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion. 4.
Cymeradwyo
tynnu prosiect safle Treuliad Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn ôl o Gynllun Twf
Gogledd Cymru. 5.
Cytuno
ar y dull o ymdrin â phrosiectau sydd mewn risg o ailddyrannu cyllid a gofyn
i’r Cyfarwyddwr Portffolio gychwyn ar y broses ac adrodd i’r Bwrdd ar y prif
bwyntiau penderfynu a nodir yn Atodiad 5. 6.
Trefnu
cyfarfod gyda Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan
sicrhau bod materion strategaethol ychwanegol yn cael eu trefnu o flaen llaw i
ddarparu sicrwydd pellach yn Achos Busnes Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo diweddariad 2024 Achos Busnes y Portffolio a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu
cyllid blynyddol 2.
Gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth
ofynnol a’r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r
broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad ag Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro
a’r Swyddog a151, i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar
amseriad dyfarnu’r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gyfer y naill
lywodraeth neu’r llall. 3.
Nodi
adroddiad Adolygiad Porth ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu
cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion. 4.
Cymeradwyo
tynnu prosiect safle Treuliad Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn ôl o Gynllun Twf
Gogledd Cymru. 5.
Cytuno ar y
dull o ymdrin â phrosiectau sydd mewn risg o ailddyrannu cyllid a gofyn i’r
Cyfarwyddwr Portffolio gychwyn ar y broses ac adrodd i’r Bwrdd ar y prif
bwyntiau penderfynu a nodir yn Atodiad 5. 6.
Trefnu cyfarfod gyda Gweinidogion perthnasol Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, gan sicrhau bod materion strategaethol ychwanegol yn
cael eu trefnu o flaen llaw i ddarparu sicrwydd pellach yn Achos Busnes
Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd rhesymau o
fewn yr adroddiad. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |