Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 26 Medi 2024, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Y MAES TAI CYMDEITHASOL PDF 178 KB a) I ystyried yr adroddiad ar y Maes
Tai Cymdeithasol b) Cwestiynau i’w gofyn i’r
Cymdeithasau Tai (Adra, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r wybodaeth a diolch i’r Adran Dai ac Eiddo am y wybodaeth gynhwysfawr a
gyflwynwyd. 2.
Gofoyn am wybodaeth
ychwanegol gan yr Adran Dai ac Eiddo am: -
Y
niferoedd oedd ar y rhestr aros ar gyfer byngalos yng Ngwynedd ac yn ardal
Meirionnydd. -
Y
niferoedd Digartrefedd a faint o’r niferoedd hyn sydd ddim o Wynedd yn
wreiddiol. -
Linc i’r
dudalen ar y Fewnrwyd Aelodau sy’n darparu data am y Gofrestr Dai fesul
wardiau. -
Ddata ar y
niferoedd sy’n cyfnewid Tai (cydgyfnewid). -
Ddata am y
gofrestr Tai Teg a’i niferoedd. -
Y ffigyrau
Tanfeddiannu. -
Yr
eithriadau i’r Polisi Gosod dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan nodi’r rheswm. 3.
Datgan
pryder am: -
Y diffyg
mewnbwn gan y Cyngor pan fo cyfnewidiadau Tai yn digwydd. -
Oblygiadau
posib y Papur Gwyn i Bolisi Gosod Tai Gwynedd yn y dyfodol. -
Y diffyg
gostyngiad yn niferoedd y Gofrestr Dai Gyffredin dros y deg mlynedd diwethaf. -
Y
niferoedd digartref yn y Sir. -
Gyfathrebu
efo’r Cymdeithasau Tai gan awgrymu i’r Adran Dai ddarparu ffurflen safonol i
Aelodau ei gwblhau ar ran tenantiaid pan fo angen gwaith cynnal a chadw gan
gynnwys darparu pwyntiau cyswllt gwahanol Adrannau’r cymdeithasau Tai. 4.
Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Cymdeithasau Tai a’u hymatebion i
gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor. |