Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan John Pughe Roberts a John Brynmor
Hughes |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi
2024 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 80 KB I dderbyn a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar waith PPC. Tynnwyd sylw at drafodaethau cyfarfod Medi 2024 o’r
Cydbwyllgor oedd yn cynnwys gwybodaeth am y cronfeydd sydd wedi eu pwlio
(Gwynedd yr ail uchaf gyda 85%), y cynllun busnes safonol a’r gofrestr risg. Cyfeiriwyd at
ddiweddariad y Gweithredwr dros y cyfnod ac amodau’r farchnad maent yn monitro.
Adroddwyd bod perfformiad y cronfeydd wedi bod yn amrywiol gyda’r cronfeydd
ecwiti yn perfformio yn gryf tra bod cronfeydd incwm sefydlog wedi llusgo dros
y chwarter dan sylw. Nodwyd mai buddsoddiadau tymor hir yw’r cronfeydd ac y
bydd y swyddogion, ar y cyd gyda’r ymgynghorwyr Hymans Robertson, yn asesu’r
perfformiadau dros gyfnodau o 3 mis, 12 mis a 3 blynedd. Ategwyd bod
Russell Investments, y Rheolwr buddsoddi hefyd yn asesu’r rheolwyr yn barhaus a
byddant yn lleihau, cynyddu neu’n dileu taliadau i geisio gwella perfformiad
hir dymor yr is- gronfeydd - cyfeiriwyd at enghraifft o waith sy’n cael ei
wneud ar hyn o bryd gydag is gronfa Global Growth, sydd wedi bod yn tanwario yn
hanesyddol. Adroddwyd bod Russell Investments wedi rhoi diweddariad ar gronfa
newydd Credit Preifat gyda Chronfa Pensiwn Gwynedd wedi buddsoddi £29m yn y
gronfa gyda bwriad o gynyddu’r swm yn sylweddol dros amser. Tynnwyd sylw at
ddau ymarfer caffael oedd wedi digwydd yn ddiweddar (ar gyfer Ymgynghorydd
Goruchwylio a Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu). Nodwyd bod
cyfweliadau wedi eu cynnal gyda bwriad cyflwyno argymhelliad i’r cydbwyllgor
nesaf. Yng nghyd-destun
yr ymgynghoriad ‘Galw am Dystiolaeth’ lle mae Llywodraeth San Steffan yn
adolygu cynlluniau pensiwn yr LGPS, tynnwyd sylw at ymateb Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Adroddwyd bod y sefyllfa bellach wedi newid gydag ymgynghoriad
pellach, yn dilyn araith “Mansion House” Canghellor y Trysorlys, wedi ei
gyhoeddi yn galw am dystiolaeth sy’n awgrymu’n fras y trywydd mae Llywodraeth
San Steffan yn disgwyl i’r LGPS ei ddilyn. Adroddwyd bod yr ymgynghoriad newydd
yn edrych ar feysydd megis pwlio asedau, buddsoddi yn lleol ac yn y Deyrnas
Unedig, a Llywodraethu gyda 30 cwestiwn i ymateb iddynt erbyn 16eg o Ionawr
2025. Prif negeseuon yr
ymgynghoriad oedd nad oedd newid i gronfeydd lleol, fel Cronfa Bensiwn Gwynedd,
ond bod angen ystyried uno cronfeydd, er nad yn fandadol. Nodwyd y bydd
newidiadau disgwyliedig i’r pwls, megis Partneriaeth Pensiwn Cymru yng
nghyd-destun Gwynedd, gyda gofyn iddynt fod wedi cofrestru gyda’r FCA
(Financial Conduct Authority), fod yn gallu rhoi cyngor i’r cronfeydd lleol,
fod y dyraniad ased strategol yn eistedd gyda’r pŵl yn hytrach nac ar
lefel lleol fel y mae ar hyn o bryd, bod 100% o asedau yn cael eu pwlio, ac
adrodd yn barhaus yn yr Adroddiad Blynyddol ar gynlluniau lleol. Ategwyd bod y gofyniad i fod wedi cofrestru gyda’r FCA yn un sylweddol fydd yn golygu newid yn strwythur presennol PPC gan greu strwythur rheolaethol newydd gyda phrif swyddog a phrif swyddog buddsoddi gofynion llywodraethu. Nodwyd y byddai angen cynllunio a gweithredu hyn erbyn Mawrth 2025. Yn ychwanegol, bydd gofynion llywodraethu newydd yn galw am benodi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
FFORWM BUDDSODDI STRATEGOL BUDDION DIFFINEDIG PDF 48 KB Gofynnir i'r Pwyllgor i ystyried a derbyn y wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adborth a gwybodaeth
gan y Cyng. Goronwy Edwards Cynhaliwyd
y Fforwm Buddsoddi yn Loch Lomond, Medi 2024 a bu i’r Cyng. Goronwy Edwards a’r
Cyng. John Brynmor fynychu’r fforwm. Nodwyd bod y gynhadledd wedi bod yn
fuddiol ac wedi ei amseru yn dda o ystyried Adolygiad Pensiynau Llywodraeth San
Steffan (Galw am Dystiolaeth). Diolchwyd
am yr adborth PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd
y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r
math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn
gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly
gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r
budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau
ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r
wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r
adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y
rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.04.2024 - 30.06.2024 I ystyried yr adroddiad (copi i’r
Aelodau yn unig). Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac
Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith
ymgysylltu. Trafodwyd cynnwys
yr adroddiad a mynegwyd pryder unwaith eto gan yr Aelodau am safon gwaith
ymgysylltu ac ymgynghori'r cwmni. Nodwyd, er bod nifer o elfennau positif yn eu
gwaith, bod elfennau negyddol mawr i’w gweld hefyd ac felly angen sicrhau i’r
dyfodol bod mwy o wybodaeth am ddatblygiadau a sut maent yn cael eu mesur.
Ategwyd bod y cwmni yn ymddangos yn ‘dawel’ - angen gweld mwy o rannu barn ac
arweiniad; y cwmni angen tystiolaethu effeithiolrwydd a gosod cyd-destun. Mewn ymateb nodwyd
bod bwriad, wrth lunio cytundebau i’r dyfodol, bod PPC am sicrhau bod elfen
ragweithiol yn rhan o’r cyfrifoldebau ymgysylltu, ynghyd a gofynion cyflwyno
gwybodaeth glir a dealladwy. Nodwyd bod angen i PPC adolygu trefniadau ymateb
i’r wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno gan Ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu
i wneud y gorau o’r berthynas. Sylwadau pellach
yn codi o’r drafodaeth ddilynol: · Bod angen ystyried
materion bioamrywiaeth yn ogystal â materion hinsawdd ·
Bod angen monitro'r sefyllfa gan sicrhau bod y
cwmni yn cadw at eu gair ·
Bod angen sicrhau camau nesaf i faterion sydd yn
ymddangos fel ‘closed non-effective’. Sut mae modd ail agor trafodaethau
/ ail edrych ar y materion hyn? ·
Bod trefn mewn lle i ddilyn i fyny ar faterion PENDERFYNWYD derbyn
a nodi'r wybodaeth |