Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024 /25

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gaderiydd ar gyfer 2024/25

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25

 

3.

YMDDIHEURIADAU

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

5.

MATERION BRYS

6.

COFNODION pdf eicon PDF 147 KB

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 80 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i amlygu pryderon y Pwyllgor i’r PPC o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch gweithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth. Nodwyd pryder, pe byddai’r Bartneriaeth am gymryd mwy o gyfrifoldeb am weithredu strategaeth fuddsoddi, rhaid sicrhau mewnbwn gan gronfeydd unigol y Bartneriaeth.
  • Croesawu bod defnydd o’r Iaith Gymraeg wedi ei nodi yn anghenrheidol mewn ymateb i Ymgynghoriad gan yr MHCLG - ‘Fit for the Future’ - bydd angen i Gronfa Bensiwn Gwynedd a PPC allu darparu gwybodaeth ac unrhyw waith cyfathrebu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

 

8.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2025/26 pdf eicon PDF 137 KB

I gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi..

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo Cyllideb Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 205/26

 

9.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 93 KB

I nodi cynnydd ac amcanion y dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi’r adroddiad cynnydd
  • Derbyn amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf

 

10.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2024-25 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 175 KB

Y ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

12.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD 01.07.2024 - 30.09.2024

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i’r Aelodau yn unig).

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Nodyn: Diffyg cysondeb o wybodaeth yn adroddiad ysgrifenedig Robeco o gymharu â’r wybodaeth yn nhabl cynnydd Robeco - angen sicrhau bod y wybodaeth yn gywir