Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn COFNODION: PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Medwyn Hughes yn gadeirydd i’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd John Pughe
Roberts (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 / 2024 I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2023 / 2024 COFNODION: Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y
Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i
bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu
rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi cyffredinol,
strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer buddsoddi arian y
Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi. Cyfeiriwyd at
waith y Pwyllgor yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion
cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor. Wrth gyfeirio at
waith y Bwrdd Pensiwn (aelodaeth yn cynnwys tri
cynrychiolydd o’r aelodau a thri cynrychiolydd cyflogwyr), nodwyd mai corff goruchwylio
oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio gweithrediad
y Gronfa gan sicrhau ei bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol.
Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion
cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar wefan y Cyngor. Diolchwyd i gyn Aelod o’r
Bwrdd, y Cynghorydd Beca Roberts am ei chyfraniad yn ystod y flwyddyn. Gweinyddiaeth
Pensiynau: Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan
gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2023/24 a pherfformiad yr Uned. Wrth adrodd ar ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd bod dros
chwe mil wedi cofrestru gyda’r safle newydd a bod yr ymateb wedi bod yn un
positif iawn. Ategwyd bod Gwynedd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth sefydlu’r
Gymraeg ar y system a’r gobaith yw y bydd o ddefnydd i gronfeydd eraill Cymru.
Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r
Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar
ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr
adran. Adroddwyd
bod dros 99% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y
gwasanaeth o safon uchel, a bod 99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n
cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn
cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn
hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn
brydlon ac am eu hymroddiad i ddefnyddio’r system i-connect sydd yn cysoni’r
data. Tynnwyd
sylw at y gwaith / prosiectau newydd
fydd yn parhau i flwyddyn 2024/25 gan nodi achos McCloud, y Dashfwrdd
Pensiynau, sefydlu prosesau gweinyddu newydd a chwblhau gwaith ar fuddion CGY
Cost a Rhennir fel enghreifftiau. Perfformiad Buddsoddi Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth wedi cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020) dros y 10 mlynedd ddiwethaf a bellach yn 2024 wedi croesi'r lefel o £3 biliwn am y tro cyntaf. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn gyfnewidiol, gyda pherfformiad yn is na’r meincnod mewn dau o’r chwarteri, ac yn uwch na’r meincnod mewn dau ... view the full COFNODION text for item 5. |