Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn Cofnod: PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Medwyn Hughes yn gadeirydd i’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r Cynghorydd John Pughe
Roberts (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 / 2024 PDF 2 MB I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2023 / 2024 Cofnod: Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y
Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i
bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu
rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi cyffredinol,
strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer buddsoddi arian y
Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi. Cyfeiriwyd at
waith y Pwyllgor yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion
cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor. Wrth gyfeirio at
waith y Bwrdd Pensiwn (aelodaeth yn cynnwys tri
cynrychiolydd o’r aelodau a thri cynrychiolydd cyflogwyr), nodwyd mai corff goruchwylio
oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio gweithrediad
y Gronfa gan sicrhau ei bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol.
Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion
cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar wefan y Cyngor. Diolchwyd i gyn Aelod o’r
Bwrdd, y Cynghorydd Beca Roberts am ei chyfraniad yn ystod y flwyddyn. Gweinyddiaeth
Pensiynau: Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan
gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2023/24 a pherfformiad yr Uned. Wrth adrodd ar ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd bod dros
chwe mil wedi cofrestru gyda’r safle newydd a bod yr ymateb wedi bod yn un
positif iawn. Ategwyd bod Gwynedd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth sefydlu’r
Gymraeg ar y system a’r gobaith yw y bydd o ddefnydd i gronfeydd eraill Cymru.
Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r
Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar
ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr
adran. Adroddwyd
bod dros 99% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y
gwasanaeth o safon uchel, a bod 99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n
cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn
cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn
hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn
brydlon ac am eu hymroddiad i ddefnyddio’r system i-connect sydd yn cysoni’r
data. Tynnwyd
sylw at y gwaith / prosiectau newydd
fydd yn parhau i flwyddyn 2024/25 gan nodi achos McCloud, y Dashfwrdd
Pensiynau, sefydlu prosesau gweinyddu newydd a chwblhau gwaith ar fuddion CGY
Cost a Rhennir fel enghreifftiau. Perfformiad Buddsoddi Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth wedi cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020) dros y 10 mlynedd ddiwethaf a bellach yn 2024 wedi croesi'r lefel o £3 biliwn am y tro cyntaf. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn gyfnewidiol, gyda pherfformiad yn is na’r meincnod mewn dau o’r chwarteri, ac yn uwch na’r meincnod mewn dau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |