Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Chris Fisher (Bad Achub Cricieth) a Robert Owen (Cynrychioli Buddiannau Masnachol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 183 KB

Y Cadeirydd i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30/09/25 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30/09/25 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 499 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r Pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod 2025/26.

 

Data Perfformiad

 

Nodwyd bod cytundebau angori ym Mhorthmadog bellach wedi cynyddu i 109. Cadarnhawyd bod y ffigurau a ddarparwyd yn parhau i fod yn gyson â’r rhai a rannwyd yng nghyfarfod mis Hydref. Fodd bynnag, yn ystod y gaeaf, derbyniodd Swyddfa’r Harbwr nifer o ymholiadau ynglŷn ag angorfeydd gan gwsmeriaid newydd yn Harbwr Porthmadog.

 

Atgoffwyd y byddai’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer ceisiadau angori, cofrestru cychod pŵer ac adnewyddu trwyddedau angori yn ailagor ar 1 Ebrill. Gofynnwyd i unrhyw gwsmeriaid newydd alw i mewn i’r swyddfa er mwyn darparu gwybodaeth am eu cwch i’r Harbwrfeistr cyn cwblhau’r ffurflen ar-lein.

 

 

Nodwyd bod arwyddion gyda chodau QR wedi eu lleoli o amgylch yr harbwr i dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr ynglŷn â’u profiad o’r harbwr. Nodwyd bod ffigurau boddhad wedi cynyddu’n sylweddol ers cyfnod 2023/24. Rhagwelwyd y byddai nifer yr ymatebion adborth a gyflwynir drwy’r holiadur cod QR yn gostwng dros gyfnod y gaeaf. Serch hynny dirywiad yn nifer yr ymatebion adborth a gyflwynwyd drwy’r holiadur cod QR dros gyfnod y gaeaf. Serch hynny, cadarnhawyd bod adborth a dderbyniwyd drwy ohebiaeth e-bost a thrafodaethau wyneb yn wyneb wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi ei groesawu.

 

Cyfeiriwyd at sylw penodol a dderbyniwyd yn canmol y gwasanaeth ardderchog a ddarparwyd gan y gwasanaeth dros gyfnod y gaeaf, gan nodi bod staff profiadol y gwasanaeth wedi defnyddio cerbydau morwrol yn ystod tywydd garw er mwyn cefnogi preswylwyr mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod. Roedd hyn wedi galluogi gofalwyr o’r gwasanaethau oedolion i deithio i gartrefi preswylwyr ac i’w gweithleoedd. Diolchwyd yn ddiffuant i’r holl staff am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Cyfeiriwyd at sylw pellach yn ymwneud â’r cymorth a’r wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion yr harbwr i gynorthwyo gydag arolwg hydrograffeg o Harbwr Pwllheli.

 

 

Diogelwch yr Harbwr

 

Adroddwyd, yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref, fod yr aelodau wedi eu hysbysu ynglŷn â phenodiad Mr Owen Morgan, Rheolwr Harbwr ar gyfer Cyngor Ceredigion, fel ein ‘Person Dynodedig’ newydd. Cynhaliodd Mr Owen Morgan archwiliadau o’r harbyrau o dan awdurdod yr Adran Forwrol, sef harbyrau Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Hafan Pwllheli, ym mis Chwefror. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth bellach mewn sefyllfa i gyflwyno ei ‘Ddatganiad Cydymffurfio’ cyn diwedd mis Mawrth, ac i gyhoeddi ei ddogfennaeth PMSC ar wefan Cyngor Gwynedd.

Nodwyd bod addasiadau wedi eu gwneud i’r PMSC yn ystod 2025, gyda’r newidiadau wedi’u cynllunio i sicrhau bod unrhyw gynlluniau a systemau rheoli diogelwch morol sy’n gorgyffwrdd yn cyd-fynd yn effeithiol â’i gilydd . O ganlyniad, cyhoeddwyd ymarfer cydymffurfio cenedlaethol i’r holl harbyrau er mwyn cadarnhau eu bod yn cadw at eu codau unigol, ac i sicrhau bod mesurau priodol yn eu lle i ymdrin ag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

 

Stormydd y Gaeaf

 

Adroddwyd bod yr ardal, yn ystod gaeaf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 30/10/26.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 30/10/26.