Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Deiniol Gwyn Jones (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd – Iechyd Amgylchedd) a Chynrychiolydd Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prif Ysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

2.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 144 KB

DRAGON SHOP LTD, 280 HIGH STREET, BANGOR, LL57 1UL

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod y cais

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)               Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Dragon Shop Cyf, 280 Stryd Fawr, Bangor. Gwnaed y cais gan Asiant Trwyddedu ‘The Licensing Guys’, ar ran yr ymgeisydd oedd yn gwmni cyfyngedig gyda Mr Bayzidiazar wedi ei enwi fel unig gyfarwyddwr y cwmni hwnnw.

 

Amlygwyd bod yr eiddo eisoes yn gweithredu fel Siop Hwylus: bod y cais yn un i werthu alcohol oddi ar yr eiddo o 07:00 tan 23:00, 7 diwrnod yr wythnos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded pe byddai’n cael ei ganiatáu.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Cynigiwyd sylwadau gan BIPBC oedd yn mynegi pryder ynglŷn ag effaith posib y cais ar amcanion trwyddedu atal troseddu ac anrhefn, diogelwch y cyhoedd, ac amddiffyn plant rhag niwed. Cyfeiriwyd at dystiolaeth leol o niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol yng Ngwynedd, lefelau yfed alcohol ymhlith pobl ifanc sydd yn uwch na’r cyfartaledd, pryderon ynghylch diogelwch cymunedol o fewn ardal ward Deiniol, a’r berthynas rhwng argaeledd alcohol a throseddau, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol. Awgrymwyd i’r Is-bwyllgor ystyried materion gorfodi blaenorol oedd yn ymwneud â’r safle.

 

Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd (Gwasanaeth Safonau Masnach) hefyd wedi mynegi gwrthwynebiad ar sail tystiolaeth o drosedd ac anrhefn. Nodwyd, yn unol â darpariaethau rhan 4 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 bod Hysbysiad Cau wedi ei gyflwyno ar yr eiddo busnes yn 280 Stryd Fawr, Bangor, ar yr 26 o Chwefror 2026, ac yn ddiweddarach, yn dilyn achos Llys lle cyflwynwyd tystiolaeth yn dilyn sawl prawf bryniant o sigaréts/tybaco anghyfreithlon, cipio (seizure) eitemau ffug megis teganau ffug, fêps, sigaréts a thybaco.  Rhoddwyd Rhybudd Cau ar yr eiddo (nid y Cwmni/busnes) oedd yn weithredol am 3 mis tan yr 2il o Fehefin 2026.

 

Cyfeiriwyd at wybodaeth oedd wedi ei rannu ar system gudd - wybodaeth a data sydd yn weithredol gan wasanaethau Safonau Masnach ledled y DU. Darganfuwyd bod Mr Bayzidiazar yn gysylltiedig â siop yn 85 Drake Street, Rochdale. Roedd y siop yn destun gorchymyn cau, a  Mr Bayzidiaza yn gyfarwyddwr ar gwmni arall, sef Cloud 9 Vape Shop Ltd o’r un cyfeiriad, gyda’i fab yn gysylltiedig â’r siop, oedd hefyd yn destun gwerthiant tybaco anghyfreithlon honedig drwy siopau eraill tebyg. Ymddengys mai tenant yn yr eiddo oedd Mostafa Bayzidiazar.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd - Iechyd Amgylchedd ar sail yr amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn, yn benodol oherwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.