Agenda item

Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

  1. Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol
  2. Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.
  3. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Nodyn - Swyddog Trwyddedu

Cofnod:

Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i  ymestyn y cyfnod y gellid defnyddio'r unedau ar safle carafanau sefydlog presennol o 8 mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 31ain o Hydref) i 10.5 mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol). Byddai’r bwriad yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am 3.5 mis yn y flwyddyn yn unig ac nad oedd  bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau sefydlog megis 32. Ni fydd ychwaith newidiadau nac ychwanegiadau i’r cyfleusterau presennol sydd ar y safle. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd Datganiad Dyluniad a Mynediad yn egluro cefndir i’r cais gan nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am wyliau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Nodwyd hefyd bod y safle  yn un parhaol sydd wedi ei sefydlu ers cyfnod hir gydag unedau o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer defnydd gaeaf.

 

Daw’r cais hwn gerbron y Pwyllgor yn unol â’r cynllun dirprwyo gan i arwynebedd y safle fod yn fwy na 0.5ha.

 

Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol parthed ardrawiad y carafanau sefydlog ar yr amgylchedd, gan eu bod eisoes wedi eu gosod ar y safle trwy’r flwyddyn ac nid oedd bwriad ymestyn eu niferoedd. Gan na fydd unrhyw newid i fwynderau gweledol yr AHNE ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG 1 y CDLL. Ystyriwyd hefyd bod diwygio'r cyfnod meddiannaeth yn dderbyniol dan bolisïau’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy osod amodau priodol er gosod cyfnod y tymor newydd a sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer defnydd gwyliau yn unig gyda chofrestr gyflawn o holl ddefnyddwyr yr unedau yn cael ei gadw.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno oherwydd i berchnogion y carafanau wneud cais i’r ymgeisydd i gael mynychu eu carafanau tu allan i’r tymor

·         Bod y cais yn un teg

·         Bod y carafanau o ansawdd ac yn addas ar gyfer pob tywydd

·         Bod y maes mewn cyflwr da, yn drefnus ac yn lan

·         Bod polisïau yn cefnogi mewnbwn ymwelwyr dros y gaeaf -  creu gwaith yn lleol

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

 

c)            Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen cadw cofrestr

·         Bod hawl gan y perchennog i fod yn agored am 12 mis

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol

2.    Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.

3.    Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Nodyn - Swyddog Trwyddedu

 

Dogfennau ategol: