Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/11/2020
Effective from: 24/11/2020
Penderfyniad:
Cytunwyd am angen i wneud gwaith pellach ar ystyried
opsiynau posib yn y dyfodol ar gyfer Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.
Sefydlu tasglu o swyddogion y Cyngor i adnabod y camau
angenrheidiol sydd angen eu dilyn i greu achos busnes cadarn ar gyfer yr
opsiynau posib.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/11/2020
Effective from: 24/11/2020
Penderfyniad:
¾ Cadarnhawyd y
Cynllun Busnes Cyffredinol yn ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo
fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾ Cadarnhawyd y
darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau
gweithredol yn ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r
darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol a’i fod (y Cabinet) yn
benodol yn mabwysiadu'r dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn “Cytundeb
Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol
a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾ Yn ddarostyngedig i
gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, bod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel
yr Awdurdod Lletya a’r Corff Atebol ac yn llofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid
Grant ar ran y Partneriaid drwy law'r Prif Swyddog Cyllid.
¾ Cadarnhawyd
ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y
Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u
sefydlu fel sydd wedi'i nodi yn GA2
¾ Bod y Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran
151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/11/2020
Effective from: 24/11/2020
Penderfyniad:
Peidio
â chynyddu pris cinio ysgolion cynradd, arbennig a dilynol yn Ionawr
2021
ac i gomisiynu’r Pennaeth Addysg i edrych ar bolisi hir dymor ar gyfer pris
cinio ysgol ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/11/2020
Effective from: 16/11/2020
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r
holl adroddiadau
3.
Deunyddiau/llechi - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC
4.
Tirlunio a ffiniau'r safle - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan
C19/0994/19/AC, C19/1082/19/RA ac C20/0226/19/RA
5.
Priffyrdd CEMP - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
6.
Draenio
7.
Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
8.
Archaeoleg - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/1082/19/RA
9.
Cynllun
Rheolaeth Adeiladu
10.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai fforddiadwy
11.
Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod
ffenestri ychwanegol a ffenestri to)
12.
Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd ar
gefn plot 14 a chytuno dull agor
13.
Enw
Cymraeg i’r stad a’r tai
14.
Manylion
ac amserlen gosod offer o fewn y llecyn agored.
15.
Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy. - manylion yn unol â’r hyn a
gytunwyd o dan C19/0994/19/AC
Nodyn
SUDS
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/11/2020
Effective from: 16/11/2020
Penderfyniad:
Yr ymgeisydd
wedi tynnu’r cais yn ôl
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/11/2020
Effective from: 16/11/2020
Penderfyniad:
Gohirio er
mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r safle
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/11/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/11/2020
Effective from: 16/11/2020
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod y cais
Rhesymau:
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Dim i’w nodi
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
-
Derbyn yr adroddiad gan ddatgan
diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod
-
Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn
datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob
amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad
ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol.
-
Ysgrifennu llythyr
at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams
-
Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol
sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y
Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21