Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i
ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau
Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau
swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau
dirprwyedig swyddogion.
Cyhoeddwyd y penderfyniadau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/11/2021
Effective from: 25/11/2021
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2021 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/11/2021
Effective from: 25/11/2021
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o’r Cynllun
Awtistiaeth 2021-23.
b) Anfon gohebiaeth at aelodau’r Cabinet yn argymell iddynt gefnogi a
chymeradwyo’r Cynllun a’r bid am arian parhaol yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd,
2021 gan nodi prif sylwadau’r Pwyllgor Craffu Gofal.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o
dan adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau
agored ac i’r amodau isod: -
- 5 mlynedd.
- Yn unol â’r cynlluniau/manylion a
gyflwynwyd gyda’r cais.
- Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu
ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
- Amod Dwr Cymru sy’n ymwneud a chyflwyno
cynllun dwr aflan ar gyfer y datblygiad.
- Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer
darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth,
amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn
bresennol ac am byth.
- Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y
dogfennau Gwerthusiad Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddol.
- Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y
datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben
ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
- Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00
Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
- Cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu
Amgylcheddol i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w
gytuno gyda’r ACLL.
- Sicrhau bod dwy ffenestr sy’n hwynebu
talcen rhif 11 Ffordd Euston o wydr afloyw yn
barhaol.
- Amodau perthnasol gan yr Uned
Drafnidiaeth.
- Cyflwyno dyluniad o ddefnydd paneli
solar
Nodyn: Angen cyflwyno cais
system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
Gohirio fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn
ymwneud a’r fynedfa
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau
- Ni ystyrir fod
gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau na
fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr Iaith a Diwylliant Cymreig.
Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol
Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a NCT 20 Cynllunio a’r
Gymraeg.
- Nid oes gwybodaeth
ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn nodi sut fod y bwriad
yn cydymffurfio gyda Pholisi CYF 5 Defnyddiau Amgen o Safleoedd Cyflogaeth
Bresennol, a chan hynny nid yw’r bwriad yn cydymffurfio a gofynion y
Polisi ac felly rhaid ystyried y bwriad yn groes i ofynion polisïau CYF 1,
CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a
Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau
Cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu.
- Mae’r bwriad wedi ei
leoli ar safle arfordirol agored a gweledol sy’n flaenlun i olygfeydd eang
o Eryri o AHNE Ynys Môn. Mae’r datblygiad penodol hyn yn disgyn o fewn
Ardal Cymeriad y Dirwedd ACD01 (Gwastatir Arfordirol Bangor) ac mae’r
Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn nodi o fewn pob ardal
sy’n cyfrannu at osodiad y Parc Cenedlaethol yn nodweddiadol nid oes dim
capasiti ar gyfer datblygiadau parc carafanau statig / cabanau gwyliau.
Fodd bynnag, y tu allan i’r ardaloedd hyn fe all fod rhywfaint o gapasiti
ar gyfer datblygiadau parciau carafanau / cabanau gwyliau bach i fach
iawn, wedi'u eu dylunio a'u lleoli'n dda. Mae’r Astudiaeth yn diffinio
datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau bach fel
rhwng 10 - 25 uned. Mae’r wybodaeth ynglŷn â thirlunio bwriedig yn
fras ac nid yw’n cynnwys manylion digonol ar gyfer cadarnhau y byddai’n
dderbyniol o ran math a graddfa. I’r perwyl hyn ystyrir felly fod y bwriad
yn groes i ofynion meini prawf 1i) ac1ii) o bolisi TWR 3, pwynt 3 o bolisi
PS14 ynghyd a pholisïau AMG 3 a PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2017 ac Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn
Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ (Gillespies, 2014) oherwydd
y byddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu
wersylla amgen parhaol ac yn cael effaith weledol andwyol ar osodiad AHNE
Ynys Môn a’r dirwedd leol.
- Mae Adran yr Economi
a’r Seilwaith Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn datgan dal
gwrthwynebiad (holding objection) er mwyn sicrhau bod modd gael trefniant
ble na fydd cerbydau yn ôl-gronni ar y gefnffordd A487 ar adegau prysur ac
mae Uned Trafnidiaeth y Cyngor yn pryderu am yr un effaith. I’r perwyl
hyn, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi y byddai’r
cynllun yn darparu mynedfa ddiogel ar gyfer y bwriad ac felly nid yw’n
cydymffurfio a gofynion maen prawf 1iii) o bolisi TWR 3, na pholisïau TRA
1 a 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 sy’n sicrhau
mynedfa addas a diogelwch ffyrdd.
- Mae’r adeilad hwb
hamdden sy’n cynnwys cyfleusterau atodol i’r parc gwyliau fydd hefyd ar
agor i’r cyhoedd ynghyd a 51 uned gwyliau yn sylweddol o ran swmp ac
uchder a byddai’n gwbl weladwy
uwchben y coed presennol sy’n cuddio’r adeiladau presennol i raddau
helaeth. I’r perwyl hyn felly, ni ystyrir fod y rhan yma o’r bwriad yn
cydymffurfio a gofynion maen prawf ii o bolisi. TWR 2 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.
- Cydnabyddir fod y
gwaith bwriedig ar adeilad Plas Brereton yn lleiafrifol ac yn cynnwys cau
agoriadau ar y llawr gwaelod, serch hynny mae’r adeilad wedi ei leoli yng
nghefn gwlad agored ac wedi ei gyflwyno fel bwriad i gadw’r adeilad a
gwneud defnydd ohono fel unedau gwyliau hunangynhaliol ac felly ystyrir ei
fod yn briodol sicrhau cyflwr strwythurol yr adeilad cyn y gellir cadarnhau
ei fod yn addas ei drosi. I’r perwyl hyn, mae’r rhan yma o’r bwriad yn
groes i ofynion maen prawf 3i a iii o bolisi CYF 6, pwynt 4 polisi PS14 o
Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw
Cynllunio Atodol ‘Ail-adeiladu Tai a Throsi yng Nghefn Gwlad’ a pharagraff
3.2.1 o NCT 23 Datblygiad Economaidd.
- Ni chyflwynwyd unrhyw
dystiolaeth na gwybodaeth ynglŷn ag effaith yr unedau gwyliau newydd
o fewn adeilad Plas Brereton a’r hwb hamdden ar y llety sydd eisoes ar
gael yn yr ardal. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi
felly na fyddai’r rhan yma o’r bwriad yn arwain at ormodedd o lety o’r
fath yn yr ardal ac felly mae’r bwriad yn groes i faen prawf v o bolisi
TWR2, pwynt 3 polisi PS14 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol Llety Gwyliau.
- Ni chyflwynwyd unrhyw
wybodaeth mewn perthynas â sut fo’r cyfleusterau a gynhwysir yn yr hwb
hamdden a fydd ar gael i’r cyhoedd yn cydymffurfio a Pholisi MAN 6 o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ac yn benodol effaith y
bwriad ar ganol tref Gaernarfon, ac felly i’r perwyl hyn ystyrir na ellir
cadarnhau os yw’r bwriad yn dderbyniol o ran hyn na phwynt 6 o bolisi PS16
o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.
- Ystyrir fod y bwriad
yn ei gyfanrwydd yn groes i ofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2,
egwyddorion polisi PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn 2017 oherwydd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar
nodweddion yr ardal leol, nad yw’r bwriad yn ychwanegu at neu wella
cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn parchu ei gyd-destun ynghyd a’r
diffyg tirweddu addas.
- Nid oes asesiad
sŵn na gwybodaeth o ran effaith y bwriad ar fwynderau defnyddwyr Lôn
Las Menai ac i’r perwyl hyn, ystyrir fod potensial ar gyfer effaith
niweidiol sylweddol ddeillio o’r datblygiad gerbron o ran effaith sŵn
a chynnydd mewn defnydd o Lwybr Lôn Las Menai ac felly ystyrir fod y
bwriad yn groes i ofynion maen prawf rhif 7 o bolisi PCYFF 2, a meini
prawf 4 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2017.
- Ni ystyrir fod digon o
wybodaeth gyfredol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau na
fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a
warchodir na choed ar y safle, ac felly mae’r bwriad yn groes i ofynion
polisiau PS19 ac AMG 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2017 ynghyd a NCT 5: Cynllunio a Chadwraeth Natur.
- Mae Uned Bioamrywiaeth
y Cyngor wedi cadarnhau eu bod o’r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth i
alluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ymgymryd ag asesiad Asesiad
Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac i bennu'r effaith debygol ar ACA Y Fenai a
Bae Conwy ac SPA Ynysoedd y Moelrhoniaid. Mae asesiad HRA yn gofyn am wybodaeth
i ddangos, i lefel uchel o sicrwydd, na fydd y cynnig yn cael unrhyw
effaith andwyol ar rywogaethau a chynefinoedd dynodedig y safle, ac i’r
perwyl hyn, ni ellir cadarnhau nad yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion Rheoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ac na fydd y bwriad yn
cael effaith andwyol ar y ACA na’r SPA. Mae’r bwriad felly yn groes i
ofynion polisiau PS19 ac AMG 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2017
- Mae pryderon sylweddol
ynglŷn ag effaith weledol y bwriad o Barc a Gardd Rhestredig Neuadd
Llanidan, ac nad oes digon o wybodaeth o ran yr LVIA er mwyn sicrhau na
fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol ar osodiad na olygfeydd o’r Parc a
Gardd o ganlyniad i’r bwriad. Ystyrir felly fod y bwriad yn groes i
ofynion polisiau PS20 ac AT1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn 2017 ar y mater yma.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
Gohirio fel bod modd trafod ac
asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol
gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.
Amodau
- Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim
hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
- Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r
manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif
D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2,
D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1,
D794.18P1, D794.19P1 a D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw
ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au)
sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
- Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o
wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i
gydweddu’r ffenestri presennol.
Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.
- Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r
Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
- Rhaid i’r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r
to.
- Rhaid i'r holl nwyddau dwr glaw fod o wneuthuriad haearn bwrw.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
Gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r
ymgeisydd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2021
Effective from: 22/11/2021
Penderfyniad:
Caniatáu - amodau
- Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim
hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
- Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r
manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif
D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2,
D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1,
D794.18P1, D794.19P1 a D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio
wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
- Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn
unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa
person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr, cofnod
cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a
chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael
ar bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
- Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau strwythurol neu
waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen cofnodi
archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan
yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith
archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.
- Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag
amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol.
- Ni chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd
to'r adeilad neu / neu hwynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai
yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.
- Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o
wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i
gydweddu’r ffenestri presennol.
Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.
- Rhaid cyflwyno manylion y
gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w
cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
- Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r
to.
- Cyn cychwyn y gwaith a ganiateir yma rhaid cyflwyno manylion
lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo yn
ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol
â'r manylion a gytunwyd.
- Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda
blaenoriaeth i’r Gymraeg.
Nodyn:
Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr
adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth