Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau

 

  1. Ni ystyrir fod gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr Iaith a Diwylliant Cymreig. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a NCT 20 Cynllunio a’r Gymraeg.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn nodi sut fod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi CYF 5 Defnyddiau Amgen o Safleoedd Cyflogaeth Bresennol, a chan hynny nid yw’r bwriad yn cydymffurfio a gofynion y Polisi ac felly rhaid ystyried y bwriad yn groes i ofynion polisïau CYF 1, CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau Cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu.

 

  1. Mae’r bwriad wedi ei leoli ar safle arfordirol agored a gweledol sy’n flaenlun i olygfeydd eang o Eryri o AHNE Ynys Môn. Mae’r datblygiad penodol hyn yn disgyn o fewn Ardal Cymeriad y Dirwedd ACD01 (Gwastatir Arfordirol Bangor) ac mae’r Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn nodi o fewn pob ardal sy’n cyfrannu at osodiad y Parc Cenedlaethol yn nodweddiadol nid oes dim capasiti ar gyfer datblygiadau parc carafanau statig / cabanau gwyliau. Fodd bynnag, y tu allan i’r ardaloedd hyn fe all fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau parciau carafanau / cabanau gwyliau bach i fach iawn, wedi'u eu dylunio a'u lleoli'n dda. Mae’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau bach fel rhwng 10 - 25 uned. Mae’r wybodaeth ynglŷn â thirlunio bwriedig yn fras ac nid yw’n cynnwys manylion digonol ar gyfer cadarnhau y byddai’n dderbyniol o ran math a graddfa. I’r perwyl hyn ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion meini prawf 1i) ac1ii) o bolisi TWR 3, pwynt 3 o bolisi PS14 ynghyd a pholisïau AMG 3 a PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ac Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ (Gillespies, 2014) oherwydd y byddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu wersylla amgen parhaol ac yn cael effaith weledol andwyol ar osodiad AHNE Ynys Môn a’r dirwedd leol.

 

  1. Mae Adran yr Economi a’r Seilwaith Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn datgan dal gwrthwynebiad (holding objection) er mwyn sicrhau bod modd gael trefniant ble na fydd cerbydau yn ôl-gronni ar y gefnffordd A487 ar adegau prysur ac mae Uned Trafnidiaeth y Cyngor yn pryderu am yr un effaith. I’r perwyl hyn, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi y byddai’r cynllun yn darparu mynedfa ddiogel ar gyfer y bwriad ac felly nid yw’n cydymffurfio a gofynion maen prawf 1iii) o bolisi TWR 3, na pholisïau TRA 1 a 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 sy’n sicrhau mynedfa addas a diogelwch ffyrdd.

 

  1. Mae’r adeilad hwb hamdden sy’n cynnwys cyfleusterau atodol i’r parc gwyliau fydd hefyd ar agor i’r cyhoedd ynghyd a 51 uned gwyliau yn sylweddol o ran swmp ac uchder a byddai’n  gwbl weladwy uwchben y coed presennol sy’n cuddio’r adeiladau presennol i raddau helaeth. I’r perwyl hyn felly, ni ystyrir fod y rhan yma o’r bwriad yn cydymffurfio a gofynion maen prawf ii o bolisi. TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

  1. Cydnabyddir fod y gwaith bwriedig ar adeilad Plas Brereton yn lleiafrifol ac yn cynnwys cau agoriadau ar y llawr gwaelod, serch hynny mae’r adeilad wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored ac wedi ei gyflwyno fel bwriad i gadw’r adeilad a gwneud defnydd ohono fel unedau gwyliau hunangynhaliol ac felly ystyrir ei fod yn briodol sicrhau cyflwr strwythurol yr adeilad cyn y gellir cadarnhau ei fod yn addas ei drosi. I’r perwyl hyn, mae’r rhan yma o’r bwriad yn groes i ofynion maen prawf 3i a iii o bolisi CYF 6, pwynt 4 polisi PS14 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol ‘Ail-adeiladu Tai a Throsi yng Nghefn Gwlad’ a pharagraff 3.2.1 o NCT 23 Datblygiad Economaidd.

 

  1. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth na gwybodaeth ynglŷn ag effaith yr unedau gwyliau newydd o fewn adeilad Plas Brereton a’r hwb hamdden ar y llety sydd eisoes ar gael yn yr ardal. Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi felly na fyddai’r rhan yma o’r bwriad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal ac felly mae’r bwriad yn groes i faen prawf v o bolisi TWR2, pwynt 3 polisi PS14 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol Llety Gwyliau.

 

  1. Ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth mewn perthynas â sut fo’r cyfleusterau a gynhwysir yn yr hwb hamdden a fydd ar gael i’r cyhoedd yn cydymffurfio a Pholisi MAN 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ac yn benodol effaith y bwriad ar ganol tref Gaernarfon, ac felly i’r perwyl hyn ystyrir na ellir cadarnhau os yw’r bwriad yn dderbyniol o ran hyn na phwynt 6 o bolisi PS16 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

  1. Ystyrir fod y bwriad yn ei gyfanrwydd yn groes i ofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2, egwyddorion polisi PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 oherwydd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar nodweddion yr ardal leol, nad yw’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn parchu ei gyd-destun ynghyd a’r diffyg tirweddu addas.

 

  1. Nid oes asesiad sŵn na gwybodaeth o ran effaith y bwriad ar fwynderau defnyddwyr Lôn Las Menai ac i’r perwyl hyn, ystyrir fod potensial ar gyfer effaith niweidiol sylweddol ddeillio o’r datblygiad gerbron o ran effaith sŵn a chynnydd mewn defnydd o Lwybr Lôn Las Menai ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion maen prawf rhif 7 o bolisi PCYFF 2, a meini prawf 4 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017.

 

  1. Ni ystyrir fod digon o wybodaeth gyfredol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a warchodir na choed ar y safle, ac felly mae’r bwriad yn groes i ofynion polisiau PS19 ac AMG 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a NCT 5: Cynllunio a Chadwraeth Natur.

 

  1. Mae Uned Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cadarnhau eu bod o’r farn na ddarparwyd digon o wybodaeth i alluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ymgymryd ag asesiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac i bennu'r effaith debygol ar ACA Y Fenai a Bae Conwy ac SPA Ynysoedd y Moelrhoniaid. Mae asesiad HRA yn gofyn am wybodaeth i ddangos, i lefel uchel o sicrwydd, na fydd y cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar rywogaethau a chynefinoedd dynodedig y safle, ac i’r perwyl hyn, ni ellir cadarnhau nad yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ac na fydd y bwriad yn cael effaith andwyol ar y ACA na’r SPA. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisiau PS19 ac AMG 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017

 

  1. Mae pryderon sylweddol ynglŷn ag effaith weledol y bwriad o Barc a Gardd Rhestredig Neuadd Llanidan, ac nad oes digon o wybodaeth o ran yr LVIA er mwyn sicrhau na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol ar osodiad na olygfeydd o’r Parc a Gardd o ganlyniad i’r bwriad. Ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion polisiau PS20 ac AT1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ar y mater yma.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: