Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

26/11/2024 - PERFORMANCE REPORT OF THE CABINET MEMBER FOR ADULTS, HEALTH AND WELL-BEING ref: 3723    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/11/2024

Effective from: 26/11/2024

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 


26/11/2024 - PERFORMANCE REPORT OF THE CABINET MEMBER FOR CORPORATE SERVICES AND LEGAL SERVICES ref: 3722    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/11/2024

Effective from: 26/11/2024

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.


26/11/2024 - PERFORMANCE REPORT OF THE CABINET MEMBER FOR ECONOMY AND COMMUNITY ref: 3721    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/11/2024

Effective from: 26/11/2024

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 


26/11/2024 - PERFORMANCE REPORT OF THE CABINET MEMBER FOR HOUSING AND PROPERTY ref: 3720    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/11/2024

Effective from: 26/11/2024

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 


26/11/2024 - COUNCIL TAX PREMIUM ref: 3719    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/11/2024

Effective from: 26/11/2024

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:

 

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

 


22/11/2024 - FLINTSHIRE AND WREXHAM INVESTMENT ZONE - PROGRESS UPDATE ref: 3715    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2024

Effective from: 22/11/2024

Penderfyniad:

Adolygu a cymeradwyo'r Safleoedd Treth a adnabuwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam) ac Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Stad Ddiwydiannol Wrecsam).

 

Adolygu a cymeradwyo'r Model Llywodraethu gyffredin arfaethedig.

 

Adolygu a cymeradwyo Themâu'r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau a Thrafnidiaeth) a'r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio fel rhan o Borth 4 (Ymyriadau) ac yn ystyried cynnwys 'Cymorth Busnes' fel y pedwerydd thema, sy’n ymdrin â'r bwriad i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn busnesau gweithgynhyrchu uwch gyda chyngor a chyllid grant.


22/11/2024 - UPDATE: TRANSFER OF THE NORTH WALES ECONOMIC AMBITION BOARD FUNCTIONS TO THE CORPORATE JOINT COMMITTEE ref: 3714    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/11/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/11/2024

Effective from: 22/11/2024

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy'n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.

 

Cytuno i dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Strategol.

 

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda'r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 1 Ebrill, 2025.

 

Cymeradwyo estyniad o’r trefniant dros dro i Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd gyntaf.


21/11/2024 - Y MAES TAI CYMDEITHASOL ref: 3713    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal

Gwnaed yn y cyfarfod: 21/11/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/11/2024

Effective from: 21/11/2024

Penderfyniad:

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth a diolch i’r Adran Dai ac Eiddo am y wybodaeth gynhwysfawr a gyflwynwyd.

 

2.     Gofoyn am wybodaeth ychwanegol gan yr Adran Dai ac Eiddo am:

-        Y niferoedd oedd ar y rhestr aros ar gyfer byngalos yng Ngwynedd ac yn ardal Meirionnydd.

-        Y niferoedd Digartrefedd a faint o’r niferoedd hyn sydd ddim o Wynedd yn wreiddiol.

-        Linc i’r dudalen ar y Fewnrwyd Aelodau sy’n darparu data am y Gofrestr Dai fesul wardiau.

-        Ddata ar y niferoedd sy’n cyfnewid Tai (cydgyfnewid).

-        Ddata am y gofrestr Tai Teg a’i niferoedd.

-        Y ffigyrau Tanfeddiannu.

-        Yr eithriadau i’r Polisi Gosod dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan nodi’r rheswm.

 

3.     Datgan pryder am:

-        Y diffyg mewnbwn gan y Cyngor pan fo cyfnewidiadau Tai yn digwydd.

-        Oblygiadau posib y Papur Gwyn i Bolisi Gosod Tai Gwynedd yn y dyfodol.

-        Y diffyg gostyngiad yn niferoedd y Gofrestr Dai Gyffredin dros y deg mlynedd diwethaf.

-        Y niferoedd digartref yn y Sir.

-        Gyfathrebu efo’r Cymdeithasau Tai gan awgrymu i’r Adran Dai ddarparu ffurflen safonol i Aelodau ei gwblhau ar ran tenantiaid pan fo angen gwaith cynnal a chadw gan gynnwys darparu pwyntiau cyswllt gwahanol Adrannau’r cymdeithasau Tai.

 

4.     Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Cymdeithasau Tai a’u hymatebion i gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor.

 


18/11/2024 - Application No C22/0637/32/LL Land By Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RA ref: 3712    Gohiriwyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 18/11/2024

Penderfyniad:

PENDERFNWYD: Gohirio fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb i’r rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth

 


18/11/2024 - Application No C24/0385/18/AC Rhes Fictoria Stryd Fawr, Deiniolen, Gwynedd, LL55 3LT ref: 3711    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 18/11/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :-

1.         Cyfnod dechrau’r gwaith.

2.         Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.         Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.         Mynediad a pharcio.

5.         Tirweddu a thirlunio.

6.         Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.         Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.         Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr wyneb.

9.         Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

10.       Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad

11.       Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3

 

Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 


18/11/2024 - Application No C24/0346/45/LL Land At Allt Fawr, Lon Nant-stigallt, Pwllheli, LL53 5YY ref: 3710    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 18/11/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

1.     Amser

2.     Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

3.     Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 33 carafán a 2 pod yn unig.

4.     Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.

5.     Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31 Hydref

6.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

7.     Cwblhau’r cynllun tirweddu yn y tymor plannu cyntaf yn dilyn derbyn caniatâd.

8.     Rhaid cadw coed a gwrychoedd ar hyd terfynau’r safle.

9.     Cyfyngir unrhyw loriau caled i leiniau carafanau yn unig.

10.  Cytuno llwybr gwasanaethau trydan a dŵr

11.  Cyflwyno Cynllun Rheoli Eurinllyn Collddail

12.  Cwblhau gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno

13.  Amodau Priffyrdd

14.  Oriau gwaith adeiladu

15.  Enw Cymraeg

16.  Hysbysiadau dwyieithog

17.  Gwybodaeth hysbysu prif fynediad safle oddi ar y A499

18.  Gosod ffens o amgylch y safle

 

Nodiadau:

Nodyn Gwarchod y Cyhoedd

Nodiadau Priffyrdd

Nodyn llythyr CNC

Nodyn llythyr Dwr Cymru

Nodyn SUDS

Nodyn Trwyddedu

 


18/11/2024 - Application No C24/0362/38/AC Woodcroft, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA ref: 3709    Gwrthodwyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 18/11/2024

Penderfyniad:

PENDERFNWYD: Gwrthod y cais

Rhesymau:           

·         Yn or-ddatblygiad. Pryder bod uchder a maint y bwriad yn creu elfen ormesol dros eiddo cyfagos ac yn aflonyddu ac effeithio mwynderau cymdogion yn groes i Polisi PCYFF 2

 


18/11/2024 - Cais Rhif C24/0640/42/LL Glascoed Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YT ref: 3708    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 18/11/2024

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda cynlluniau

3.         Deunyddiau/gorffeniadau allanol

4.         Angen sicrhau fod sgrin o wydr afloyw 1.8 medr o uchel yn cael ei osod ar ochr de orllewin y balconi ar bob adeg.

5.         Wal derfyn ger y fynedfa dim uwch na 1 medr.

6.         Llefydd parcio a throi i fod yn weithredol yn unol gyda’r cynllun cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

7.         Dim clirio gwrychoedd a thyfiant rhwng 1 Mawrth a 31 Awst.

8.         Codi’r clawdd pridd cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

9.         Cytuno cynllun tirlunio.

10.       Gweithredu’r cynllun tirlunio.

11.       Cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i dŷ preswyl parhaol

12.       Tynnu hawliau PD

13.       Datganiad Seilwaith Gwyrdd

14.       Cytuno ar gynllun rheoli adeiladu

15.       Enw Cymraeg

16.       Gwarchod a chadw’r gwrych ar y ffin

 


11/11/2024 - CAIS AM DRWYDDED EIDDO ref: 3706    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog

Gwnaed yn y cyfarfod: 11/11/2024 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/11/2024

Effective from: 11/11/2024

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Oriau agor

Dydd Sul: 09:00 - 23:30

Dydd Llun: 09:00 – 23:30

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:30

Dydd Mercher: 09:00 – 23:30

Dydd Iau: 09:00 – 23:30

Dydd Gwener: 09:00 – 23:30

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:30

 

Cyflenwi Alcohol Ar yr Eiddo

Dydd Sul: 09:00 - 23:00

Dydd Llun: 09:00 – 23:00

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:00

Dydd Mercher: 09:00 – 23:00

Dydd Iau: 09:00 – 23:00

Dydd Gwener: 09:00 – 23:00

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:00

 

Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Nodyn:

Derbyn cyngor ar fesurau lliniaru sŵn