Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Diben:

CANLYNIAD Y BLEIDLAIS

 

O blaid

13

Yn erbyn

0

Atal

0

 

Penderfyniad:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:

 

Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad hwnnw.  Bydd gwaith adfer y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060.

 

Oni bai bod angen hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â manylion Lluniadau'r cais yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a gwybodaeth ategol sydd wedi'i chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020, Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar 21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r fath a gaiff eu cymeradwyo'n ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio mwynau.

 

Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn

 

  1. Oriau gweithredu wedi'u haddasu i 07:00awr - 19:00awr, i adlewyrchu'r cyfyngiadau sŵn yn ystod y dydd yn MTAN1
  2. Bydd larymau bagio dull ymarferol gorau ac/neu 'sŵn gwyn' yn cael eu gosod ar beiriannau symudol a cherbydau a ddefnyddir ar y safle.
  3. Tirffurf arfaethedig, a chynllun adfer graddol i ffafrio prysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol gan gynnwys prysglwyni ymylon rhostir/coetir,

yn unol â'r cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd

  1. Adolygiad gweithrediadau i gyd-fynd â'r cynigion ôl-ofal a bydd yn cynnwys darpariaeth am gyfarfodydd ôl-ofal blynyddol i drafod gofynion adfer a chynllun rheoli a monitro planhigion ymledol
  2. Gwaith archeolegol i ddilyn yr argymhellion i gofnodi'n briodol yn unol â'r cynllun archwilio archeolegol gwreiddiol, fydd yn cael ei atodi i'r daflen penderfyniad.
  3. Arwyddion llwybr cyhoeddus

 

Nodyn i'r ymgeisydd yn ei gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i gysylltu â Hawliau Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: