Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
wrthod y cais.
Rhesymau
1. O ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni
ystyrir y byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal
leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r
cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n
or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir
bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2. Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu
sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw
ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio
Lleol yn ystyried y bwriad yn dderbyniol. O ganlyniad, credir bod y bwriad yn
methu cyfarfod gofynion polisiau TAI 1, TAI 8 a TAI 15 o fewn Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ynghyd a chyngor perthnasol a roddir o fewn
Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Cymysgedd Tai.
3. Er y cyflwynwyd dogfen a nodir fel Datganiad Cymunedol a Ieithyddol fel
rhan o’r cais, nid yw’n cynnwys gwybodaeth ddigonol ac o ganlyniad, ni chredir fod
digon o wybodaeth ar gael i asesu os yw’r bwriad yn unol â maen prawf 1c o
Bolisi PS1 sydd yn gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai
datblygiadau arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y
sail yma, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r
bwriad yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun
4. Ni chredir fod gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno sydd yn cyfiawnhau colli’r gyfleuster ar sail
gofynion perthnasol polisi ISA 2 yn ogystal â chyngor a roddir yn y Canllaw
Cynllunio Atodol: Newid defnydd
cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol,
safleoedd cyflogaeth ac unedau
manwerthu; sydd yn nodi'r angen i gadarnhau
trwy dystiolaeth bod ymdrechion wedi bod i farchnata’r eiddo’n addas.
5. Mae'r safle yn gorwedd o fewn ardal mewn risg o lifogydd dŵr wyneb
ag oherwydd na gyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fyddai wedi ystyried
datblygu diogel y safle ynghyd a dangos na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
disodli dŵr wyneb tuag at eiddo eraill ni chredir fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail risg llifogydd a’i fod o ganlyniad yn groes i faen prawf 8
polisi PS 5, maen prawf 4 polisi PS 6 ynghyd a chyfarwyddyd a roddir yn
mharagraff 11.1 o Nodyn Cyngor Technegol 15.
6. Ni gyflwynwyd arolwg rhagarweiniol ar gyfer rhywogaethau wedi eu
gwarchod o fewn y safle a’r adeiladau ac nid oes gwelliannau bioamrywiaeth yn
ffurfio rhan o’r bwriad. O ganlyniad, ni ellir sicrhau gwarchodaeth a
gwelliannau i fioamrywiaeth leol ac o ganlyniad credir fod y bwriad yn
annerbyniol o safbwynt gofynion meini prawf polisi AMG 5 ynghyd a chyngor a
roddir o fewn NCT 5.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: