Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith M Humphreys
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod
mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet
offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor
a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle
cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys
adeilad unllawr parhaol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd bod gofynion cyffredinol Polisi PS3 o’r CDLl yn
caniatáu cynigion isadeiledd oedd yn ceisio estyn
neu wella cysylltiadau trwy gyfrwng y technolegau cyfathrebu presennol a rhai a oedd
yn cael eu
datblygu.
Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â
goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru
oedd na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw
effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio
neu gymeradwyaeth o flaen llaw os oedd y datblygiad yn bodloni gofynion y
Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos
cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma.
Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur
arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen
iddo fod mewn lleoliad weddol
agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn.
Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn annhebygol
o gael effaith
amlwg hir dymor ar fwynderau
gweledol yr ardal leol. Adroddwyd
y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr o ran effaith y datblygiad ar heneb
Caer Engan, ymgynghorwyd efo CADW ac fe dderbyniwyd
cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i’r bwriad.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd
yn gweithredu fel aelod lleol
(nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y gymuned leol yn pryderu
am effaith negyddol y datblygiad ac yn awyddus i’w ail-leoli;
·
Bod dyletswydd i bwyllo yn
unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r angen i
sicrhau anghenion tymor byr a hir dymor;
·
Cyfeirio at astudiaethau ac
apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electro
magnetig ar iechyd. Cydnabod nad oedd materion iechyd yn ystyriaeth o ran
penderfynu ar y cais;
·
Pryder o ran yr effaith
weledol a’i effaith ar fusnes Pant Du a oedd yn atyniad ar gyfer pobl leol ac
ymwelwyr;
·
Pryder y byddai mast newydd
diwydiannol amlwg yn effeithio ar gais Llechi Cymru am statws Safle Treftadaeth
y Byd (UNESCO);
·
Bod Grŵp Cynefin efo
cynllun i ddatblygu tai ger y safle a’u bod yn gwrthwynebu’r bwriad. Gallai
caniatáu’r cais atal y cynllun;
·
Yn unol â diwylliant Ffordd
Gwynedd dylid gwrando ar sylwadau trigolion a gwrthod y cais yn y lleoliad yma.
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn gwerthfawrogi sylw’r aelod bod y Pwyllgor yn y cyd-destun cynllunio wedi eu clymu o ran materion iechyd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Judith M Humphreys
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan
gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig
ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder
Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r
safle.
Tynnwyd sylw at ddeiseb oedd wedi ei chyflwyno oedd yn cyfeirio ar faterion
tebyg i’r hyn oedd eisoes wedi ei gyflwyno ynghyd â sylwadau ar lafar gan
Gwarchod y Cyhoedd.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
Cynllunio 3.7.17 er mwyn i’r Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a
oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr
bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r
canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a
Chanolfan Hamdden Plas Silyn.
Nodwyd o’r wybodaeth a
gyflwynwyd mai’r bwriad oedd cyflawni amcan y Llywodraeth i ddarparu cyflenwad
signal 4G ble nad yw’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig.
Mewn ymateb i’r pryderon a leisiwyd ym Mhwyllgor 3.7.17, cyflwynodd yr
ymgeisydd wybodaeth ychwanegol oedd yn cyfiawnhau lleoli'r mast ar y safle
penodol yma ac roedd y rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Amlygwyd hefyd bod ‘Declaration of
Conformity with the International Commision on Non-Ionizin Radiation Protection
(ICNIRP) Public Exposure Guidelines’ wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais
gerbron, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio a
chanllawiau’r ‘ICNIRP’ sef canllaw cydnabyddedig ar gyfer y math yma o
ddatblygiad.
Derbyniwyd gwrthwynebiad
ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant
yn y Feithrinfa, yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd gerllaw ynghyd â
defnyddwyr Canolfan Hamdden Plas Silyn.
Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag
effaith posib ar iechyd, ni ystyriwyd fod y bwriad yma yn groes i’r polisïau
cenedlaethol na’r CDLL ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith
posib y datblygiad. Nodwyd bod Polisi
Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad
arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru yw na ddylid bod angen
i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r
pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o
flaen llaw os yw’r datblygiad yn bodloni gofynion ICNIRP.
Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Eglurwyd bod y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol a chydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol. Nodwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel yn bodoli eisoes yn yr ardal, megis polion trydan a golau stryd a gyda’r strwythur yma yn un main ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod
mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet
offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle
cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys
adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr
bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd,
gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd
Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn.
Nodwyd bod polisi CH20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion
ar gyfer seilwaith newydd ac offer telathrebu yn ddarostyngedig
i ystyriaeth lawn o feini prawf penodol.
Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi o fewn dogfennau’r
cais cynllunio y rhesymau pam fod y lleoliad yma wedi
ei ddewis ar gyfer y datblygiad,
gan nodi ei fod yn
rhan o amcan y Llywodraeth i ledaenu
signal ffon 4G i lefydd ble nad
oedd yn bodoli’n
barod, ac yn benodol ardaloedd gwledig.
Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd,
ac yn benodol ar iechyd plant yn yr Ysgol
Gynradd gerllaw. Nodwyd bod maen prawf rhif 3 o bolisi CH20 yn sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn bodloni canllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag
Ymbelydriad Anïoneiddiol
(ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth
yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma. Er
y cydnabuwyd fod pryder wedi ei
godi ynglŷn ag effaith posib, ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i’r polisïau
cenedlaethol na’r Cynllun Unedol ac nid oedd angen
rhagor o wybodaeth i asesu effaith
posib y datblygiad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur
arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen
iddo fod mewn lleoliad weddol
agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn.
Roedd y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu
50m a 90m i
ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau
gwahanol, cydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael
rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond
ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol yn
yr achos yma.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn Bennaeth Ysgol
Bro Lleu a bod pryder o ran
agosatrwydd y mast i’r ysgol a’r effaith
y gallai gael ar y plant;
·
Byddai’r stad ddiwydiannol yn gallu cuddied
y bwriad yn well;
·
Ddim yn ymwybodol o wir effaith datblygiad o’r fath, a oedd
datblygiadau tebyg wrth ymyl ysgolion
eraill?
·
Bod rhieni yn pryderu gyda
rhai yn bygwth
symud plant o’r ysgolion;
·
Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar fin gwneud cais cynllunio
ar dir wrth
ymyl ac yn bygwth tynnu allan
os caniateir y datblygiad yma;
· Pryderu o ran effaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5