7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 239 KB
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyfeiriodd yr
Uwch Reolwr Economi a Chymuned at y Strategaeth Garthu gan nodi y comisiynwyd
Alan Williams (Coastal Engineering UK Ltd) ar y cyd efo Ymgynghoriaeth Gwynedd
i edrych ar yr opsiynau o ran cryfhau’r Crib Groyne a lleihau’r gwaddod yno.
Derbyniwyd
cyflwyniad gan Alan Williams yn manylu ar ei waith yn asesu ac adolygu’r Crib
Groyne. Tynnodd sylw at 4 opsiwn posibl ac amcangyfrif
o’r gost ynghlwm sef:
1. Y lefel isaf o gynnal a chadw'r strwythur presennol (£10-15,000);
2. Cynnal a chadw lefel uwch ac adfer y strwythur presennol (£35-40,000);
3. Estyniad fertigol / amgylchynu’r strwythur presennol gan ddefnyddio
cyfuniad o (a) gwaith dur crib neu (b) stanciau dalennau ac arfwisg carreg
(£125-135,000 (a) neu £225-240,000 (b)); neu
4. Amgylchynu'r strwythur presennol mewn arfwisg carreg (£140-150,000).
Amlygodd yr
ystyriaethau canlynol o ran yr opsiynau:
·
Nid oes angen llawer o
ymyrraeth i wireddu opsiynau 1 a 2 ond byddent ond yn cynnig ychydig o welliant
mewn perfformiad o gymharu ag amodau presennol;
·
Bydd opsiynau 3 a 4,
oherwydd codiad yn y lefel a gwell chadarnder ac uniondeb, yn lleihau
trosglwyddo a symud dros y strwythur; fodd bynnag
·
Dros gyfnod o ddeng
mlynedd, byddai’n debygol y byddai gwerth presennol costau'r opsiynau hyn yn
uwch na'r drefn barhaus o garthu a chael gwared arno; ac
·
Opsiynau 1, 2 a 4 oedd y
mwyaf hyblyg o ran y gallu i addasu i drefniadau'r dyfodol.
Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau i’r ymgynghorydd, ymatebodd iddynt
fel a ganlyn:
·
O ran cynyddu hyd y Crib
Groyne, nad oedd cynyddu hyd y Crib Groyne yn rhan o’i ffriff a byddai’n rhaid
gwneud gwaith manylach o ran modelu, asesu’r effaith ac ystyriaethau
amgylcheddol. Nododd bod angen gwneud gwaith yn y tymor byr;
·
Yn bosib rhoi ystyriaeth
i symud y ‘trailing arm’ mwy i’r chwith pan asesir opsiynau tymor hir;
·
Bod defnyddio arfwisg
carreg trwm neu strwythurau concrid pre-fab
i atgyfnerthu yn hytrach na strwythur dur ynghyd a symud y ‘trailing arm’ fel
ei fod yn mynd i mewn i ddŵr dyfn, yn rhywbeth oedd i’w ystyried wrth
edrych ar opsiynau tymor hir;
·
Cytuno mai dim ond atal
y sefyllfa rhag dirywio am gyfnod byddai opsiwn 3 ond yn ei gyflwyno gan nid
oedd eisiau ei ddiystyru fel opsiwn posib;
·
Bod byrdwn ariannol
cynnal a chadw blynyddol felly bod angen astudiaeth o’r opsiynau tymor hir o
ran y Crib Groyne gan ystyried efallai symud cyfeiriad y fraich arall.
Nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned bod y gwasanaeth yn awyddus i weithredu ar ddatrysiad
tymor byr yn y misoedd nesaf. Ychwanegodd y byddai datrysiad tymor hir yn
broses 2-3 blynedd felly roedd yn rhaid gweithredu ar ddatrysiad tymor byr na fyddai’n cyfyngu ar yr opsiynau posib ar gyfer y tymor
hir.
Nododd
Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried efallai
cynyddu hyd y Crib Groyne yn raddol er mwyn gweld faint o hyd y gellir ei
ennill heb gymhlethu’r broses gan asesu os oedd yn effeithiol.
Nododd y Cadeirydd bod angen gwneud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7
7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 238 KB
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod y Pwyllgor
Ymgynghorol yn statudol a bod yr aelodaeth yn unol â Rhan 6(2)(a-j)
Gorchymyn Diwygio Harbwr Porthmadog. Derbyniwyd cais gan Clwb Rhwyfo Porthmadog
i gael cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Ymgynghorol.
Nododd yr eglurwyd iddynt bod Dr John Jones-Morris yn cynrychioli buddiannau
hamdden ar y Pwyllgor Ymgynghorol a gellir cyfeirio materion ato i dderbyn
ystyriaeth.
·
Bod 135 o gychod ar
angorfeydd blynyddol yn Harbwr Porthmadog yn 2017 o gymharu gyda 129 yn 2016.
Roedd yn galonogol bod cynnydd bychan yn y niferoedd eleni.
·
Bod Adran Trafnidiaeth y
Llywodraeth wedi cyhoeddi addasiadau i’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ym mis
Tachwedd 2016. Roedd copïau o’r cod newydd wedi ei ddosbarthu i holl Aelodau’r
Pwyllgorau Ymgynghorol gyda chopi hefyd ar gael ar
wefan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.
·
Cynhaliodd archwilwyr Asiantaeth
Gwylwyr y Glannau arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol
harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch
Porthladdoedd rhwng y 19eg a’r 21ain o Fedi 2017. Barn gychwynnol yr archwilwyr
oedd bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen
addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi Deiliwr
Dyletswydd. Fe fu i’r archwilwyr ymweld ag harbyrau
Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli yn ystod yr archwiliad. O ran Harbwr
Porthmadog, bod y sylwadau a dderbyniwyd yn wych ac nid oedd problemau wedi dod i’r amlwg. Diolchodd i’r Harbwr Feistr a’r Uwch Swyddog
Harbyrau am eu gwaith yn sicrhau bod y ddogfennaeth briodol mewn lle.
·
Derbyniwyd adroddiad
ysgrifenedig gan yr archwilwyr ar ddiwrnod y cyfarfod yn amlinellu’r materion a
fydd angen sylw gan y Cyngor. Eglurodd bod gan y Cyngor gyfnod penodol i addasu
trefniadau ac fe fyddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau
yn ail ymweld â’r gwasanaeth oddi fewn 12 mis o gyflwyno’r adroddiad ble bydd
disgwyl bod argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi eu gweithredu.
Nododd y byddai’n cylchredeg copi o’r adroddiad i’r aelodau.
·
Yn dilyn trafodaeth
gyda’r archwilwyr cytunwyd mewn egwyddor byddai’n fuddiol bod dyddiad yr ail
ymweliad yn cyd-fynd a dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr. Awgrymwyd i’r
archwilwyr byddai’n fuddiol bod yr archwilwyr yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol
Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod ym mis Hydref 2018.
·
Ni dderbyniwyd sylwadau
o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.
·
Cafwyd archwiliad manwl
gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 2il Awst 2017. Mewn
cymhariaeth ac adroddiadau blaenorol roedd adroddiad 2017 yn cadarnhau
gwelliant pellach yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr
Porthmadog. ‘Roedd siart yn arddangos lleoliadau cyfredol y cymhorthion mordwyo
wedi eu rhannu yn y cyfarfod.
·
Bod 1 Rhybudd i Forwyr
(Rh-15/2017) mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd wedi ei ryddhau
oherwydd nad oedd bwi rhif 8 ar ei safle priodol.
Eglurodd bod y bwi wedi symud at gyfeiriad Bwi rhif 6 ac fe
fyddai’n cael ei ail leoli ar y cyfle cyntaf.
· Bod Bwiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7