Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 272 KB

Dymchwel presennol a chodi newydd yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le.

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r  Pwyllgor Cynllunio 16 Hydref 2017 lle penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn i’r  aelodau ymweld â’r safle.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel tŷ unllawr presennol ar y safle ac adeiladu tŷ newydd deulawr yn ei le ynghyd â gwaith cysylltiol. Dyluniad modern oedd i’r tŷ bwriededig gyda tho brig sinc a’r waliau wedi eu gorffen gyda chyfuniad o rendr gwyn a byrddau pren a charreg. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac oddi fewn i ffin datblygu Abersoch, gyda rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin.  Ategwyd bod y safle o fewn dynodiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn. Nodwyd bod y polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir gwyrdd.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodwyd yn yr adroddiad ac na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd nac yn cael effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

 

·         Ei fod wedi ystyried pryderon y cymdogion

·         Bod yr addasiadau yn welliant ac yn tacluso’r safle

·         Bod addasiad o do sinc i do llechi yn cydymffurfio yn well gyda thai eraill yr ardal

·         Mai defnydd fel cartref fydd i’r eiddo ac nid tŷ gwyliau;

·         Nad oedd ganddo bellach wrthwynebiad i’r cais

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod sylwadau yr Uned AHNE o fewn yr adroddiad yn aneglur – anodd dehongli os ydynt o blaid y bwriad neu beidio

·         Bod Cyngor Cymuned / Tref yn gwrthwynebu

 

·         Bod yr addasiadau yn dderbyniol

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn:

 

1.         5 dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a chynllun diwygiedig.

3.         Llechi i’r to.

4.         Tynnu hawliau caniataol ar estyniadau i’r tŷ.

5.         Cyflwyno manylion sgrin preifatrwydd cyn meddiannu'r tŷ.

6.         Cadw / diogelu lle troi

7.         Defnyddiau ( yn cynnwys elfen carreg fel nodwedd yn y dyluniad).

8.         Amodau Dŵr Cymru.

 


Cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif: C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 271 KB

Dymchwel ty presennol a chodi ty newydd yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le.

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tŷ bwriededig yn cynnwys storfa gardd, cyntedd, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar lawr daear, a lle byw ac ystafell bwyta / cegin gyda theras blaen ac ochr ar y llawr cyntaf.  Ceir lle parcio ar ffurf “tynnu mewn” i’r blaen o’r eiddo.  Yn dilyn trafod y bwriad gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos y to wedi ei orchuddio a llechi ynghyd ag asesiad llwybr cerbydol.   Lleolir y safle mewn ardal breswyl oddi mewn i ffin ddatblygu Abersoch er bod rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin. Lleolir y safle hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

 

Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd trigolion lleol a derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu’r cais sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

           

            Tynnwyd sylw at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol sef:

 

1.    Bod egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio gyda meini prawf ar gyfer dymchwel ac ail-adeiladu tŷ

2.    Mwynderau gweledol – bod dyluniad y tŷ arfaethedig yn un cyfoes gyda ffenestri sylweddol a theras ar y llawr cyntaf a tho brig wedi ei orchuddio ynghyd â llechi naturiol sydd yn lleihau pryderon ynglyn â dyluniad modern y tŷ.  Er bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i’r AHNE, ei fod hefyd yn safle ble saif tŷ ar hyn o bryd ger tai preswyl presennol.  Tynnwyd sylw bod y dyluniad diwygiedig, er yn fodern, o raddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.  Bwriedir cloddio’r safle er creu tŷ deulawr a fyddai tua’r un uchder â’r tŷ unllawr presennol.  Er nad yw’n dilyn patrwm tai yn y cyffiniau credir bod y dyluniad diwygiedig yn gweddu a chyfoethogi’r ardal leol o’i gymharu â’r adeilad presennol. Er bod yr Uned AHNE wedi mynegi pryderon ynglyn â dyluniad y tŷ newydd, credir bod diwygio dyluniad to y tŷ newydd yn debygol o leihau’r pryderon hyn.   Ystyriwyd felly bod y bwriad fel y’i diwygiwyd yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE.

3.    Mwynderau cyffredinol a phreswyl – Derbyniwyd 3 llythyr o wrthwynebiad ar sail dyluniad, effaith ar yr AHNE, effaith y bwriad ar derfyn y safle, effaith ar ddraen dŵr aflan a diogelwch ffyrdd.  Er bod y tŷ yn fwy na’r un presennol mae’r dyluniad fel bod y ffenestri  ac agoriadau yn edrych dros y ffordd sirol a thir amaethyddol.  O safbwynt traffig a sŵn yn deillio o’r bwriad, ni ystyrir y byddai’r tŷ arfaethedig yn ychwanegu yn sylweddol ar y sefyllfa bresennol nac yn achosi niwed i’r gymdogaeth leol.  Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cydnabod y bydd angen diogelu draen dŵr aflan cymydog yn ystod gwaith adeiladu ynghyd â thrafod y mater gyda Dŵr Cymru pe caniateir y cais.  Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5