5 Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes PDF 418 KB
Creu mynediad cerbydol i bwll
tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda
gwaith peirianyddol cysylltiol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd
Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio
Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod y fynedfa bresennol ar y safle yn agor
allan i ffordd ddi-ddosbarth Ffordd Clynnog. Eglurodd nad oedd yr Uned
Drafnidiaeth yn cefnogi defnyddio'r fynedfa yma.
Eglurwyd bod y cais hwn yn
cynnig mynedfa gerbydol newydd a fyddai’n arwain yn uniongyrchol i’r chwarel.
Byddai’r gwaith ar y chwarel am gyfnod o 4 mlynedd a 100,000 tunnell y flwyddyn
gyda chynlluniau i adfer y fynedfa yn ôl fel tir amaethyddol pan ddaw’r gwaith
i ben.
Cadarnhawyd bod yr Uned
Drafnidiaeth yn gefnogol i’r bwriad a’i fod yn debygol y byddai rhaid diwygio
gorchymyn ar y lôn drwy Ddeddf Priffyrdd. Roedd hyn i’w drafod a chytuno rhwng
yr ymgeisydd a’r Uned Drafnidiaeth.
Nodwyd byddai’r fynedfa newydd
yn bellach i ffwrdd o drigolion Ffordd Clynnog ac yn sicrhau mynedfa na
fyddai’n dod allan i lôn gul annerbyniol.
Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
NA i’r Fynedfa Newydd;
·
Bod y fynedfa bwriedig ar droad peryg ac fe ddylid
cynnal ymweliad safle;
·
Bod gan y Pwyllgor yr hawl i wrthod y cais a byddai
ffordd o fyw'r trigolion yn saff pe gwrthodir y cais.
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Y gellir parhau i ddefnyddio’r
fynedfa bresennol ond bod yr ymgeisydd wedi cymryd i ystyriaeth pryderon lleol
ac wedi cyflwyno’r cais yma am fynedfa newydd;
·
Bod yr ymgeisydd yn gwneud eu
gorau i ail-agor y chwarel o dan yr amodau gorau posib.
(ch) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Byddai hyd at 20 symudiad
lori'r dydd o’r fynedfa gan wasgaru llwch;
·
Bod y bwriad ar y safle yn
ymwthiol ac yn tanseilio mwynderau lleol;
·
Bod trigolion lleol yn
gweithio i harddu’r ardal i hybu balchder pobl yn eu cymuned a bod datblygiad
o’r fath yn tanseilio’r gwaith ac yn hagru’r ardal;
·
Yr angen i roi ystyriaeth i’r
pennawd ‘Rheoli Twf a Datblygiad’ yn y CDLl;
·
Yr angen i weithredu yn unol â
Ffordd Gwynedd;
·
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae
gan bobl hawl i gartref heddychlon heb ymyrraeth ac efallai y bydd gofyn ar
awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau i leihau sŵn a llygredd;
·
Byddai’r traffig trwm yn
berygl ac yn ffynhonnell llygredd sylweddol ac achosi niwsans;
·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y
cais er mwyn rhoi amser i’r trigolion dderbyn cyngor cyfreithiol.
(d) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod mynediad eisoes yn bodoli o dan y caniatâd gwreiddiol gyda’r tebygolrwydd y byddai’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio pe gwrthodir y cais. ‘Roedd mwy o effaith yn deillio o’r fynedfa ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
8 Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes PDF 413 KB
Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd
Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol
Awgrymwyd gohirio y cais gan fod angen ymdrin â chais C13/0217/22/MW a C17/0455/22/LL gyda'i gilydd.
PENDERFYNWYD gohirio y
cais