Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/03/2018 - Y Cyngor (eitem 10)

10 CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

·         Cynllun tymor canolig i ddygymod â’r bwlch ariannol 2018/19 – 2020/21.

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i holl staff yr Adran Gyllid, o dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith trylwyr drwy gydol y flwyddyn yn paratoi ac yn arwain y Cyngor at sefydlu cyllideb hafal.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pryder ynglŷn â’r tan-gyllido o ganlyniad i Fformiwla Barnett a’r angen i gynyddu’r pwysau sy’n cael ei roi ar Lywodraeth Cymru i gael gwell setliad ariannu i Wynedd.  Nodwyd bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor hwn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o’r system drethi yn ei chyfanrwydd.  Awgrymwyd hefyd, yn ogystal â’r lobïo parhaus sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd, yr Aelodau Cabinet, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid, y byddai’n fuddiol gyrru dirprwyaeth o gynghorwyr i lawr i Gaerdydd i gyfarfod y Gweinidog.  Anogwyd yr holl aelodau i ddwyn pwysau ar eu Haelodau Cynulliad yn ogystal.

·         Y ffaith mai cynnydd o 0.6% yn unig dderbyniwyd yng ngrant y Llywodraeth ar gyfer 2018/19, er i Lywodraeth Cymru dderbyn cynnydd grant o 2.6% gan Lywodraeth San Steffan, a’r angen i wneud yn glir i’r trethdalwyr na fyddai’r Cyngor yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor petai wedi derbyn grant digonol gan Lywodraeth Cymru.

·         Pryder ynglŷn â dull y Llywodraeth o gyllido addysg drwy roi gydag un llaw a thynnu gyda’r llall a’r diffyg cysondeb rhwng negeseuon y Gweinidog a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

·         Yr angen i roi holl drigolion Gwynedd yn ganolog i bob un o wasanaethau’r Cyngor er gwaethaf yr hinsawdd anodd.

·         Pryder bod pobl yn ei chael yn gynyddol anodd talu’r Dreth Gyngor a chyfeiriwyd yn benodol at y bobl hynny sydd fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Cymorth Treth y Cyngor.

·         Pryder y bydd mwy a mwy o berchnogion tai gwyliau yn trosglwyddo i’r dreth fusnes er mwyn osgoi’r Premiwm Treth Cyngor ar eu tai.

·         Pryder am effaith y Premiwm Treth Cyngor ar bobl sy’n ceisio gwerthu tai a etifeddwyd ganddynt yn sgil marwolaeth aelod o’r teulu.

·         Bid refeniw i benodi dau arolygwr Treth Cyngor ychwanegol – cadarnhawyd na fyddai’r Pennaeth Cyllid yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol am gyfrifoldeb y dasg newydd yma, ond y byddai swyddog trethiant fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau goruchwyliaeth ychwanegol yn derbyn cynnydd bychan iawn i adlewyrchu hynny.

·         Yr angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd amgen o gynyddu incwm, e.e. drwy godi tâl am wasanaethau ar berchnogion carafanau a chynnig morgeisi i bobl leol sydd angen tai.  Nodwyd hefyd bod gorbwyslais ar breifateiddio gwasanaethau pan fyddai’r Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ei hun a chael elw ohono.

·         Honiadau o wastraff gan y Cyngor.  Atebodd y Prif Weithredwr mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10


Cyfarfod: 01/03/2018 - Y Cyngor (eitem 10.)

10. CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol: