10 CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 PDF 137 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-
·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2018/19.
·
Cynllun tymor canolig i ddygymod â’r bwlch ariannol
2018/19 – 2020/21.
·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad
y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel
y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.
Diolchodd i holl
staff yr Adran Gyllid, o dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith
trylwyr drwy gydol y flwyddyn yn paratoi ac yn arwain y Cyngor at sefydlu
cyllideb hafal.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Pryder ynglŷn â’r tan-gyllido o ganlyniad i
Fformiwla Barnett a’r angen i gynyddu’r pwysau sy’n cael ei roi ar Lywodraeth
Cymru i gael gwell setliad ariannu i Wynedd.
Nodwyd bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac awgrymwyd y dylai’r
Cyngor hwn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o’r system
drethi yn ei chyfanrwydd. Awgrymwyd
hefyd, yn ogystal â’r lobïo parhaus sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd, yr
Aelodau Cabinet, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid, y byddai’n fuddiol
gyrru dirprwyaeth o gynghorwyr i lawr i Gaerdydd i gyfarfod y Gweinidog. Anogwyd yr holl aelodau i ddwyn pwysau ar eu
Haelodau Cynulliad yn ogystal.
·
Y ffaith mai cynnydd o 0.6% yn unig dderbyniwyd yng
ngrant y Llywodraeth ar gyfer 2018/19, er i Lywodraeth Cymru dderbyn cynnydd
grant o 2.6% gan Lywodraeth San Steffan, a’r angen i wneud yn glir i’r
trethdalwyr na fyddai’r Cyngor yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor petai wedi
derbyn grant digonol gan Lywodraeth Cymru.
·
Pryder ynglŷn â dull y Llywodraeth o gyllido
addysg drwy roi gydag un llaw a thynnu gyda’r llall a’r diffyg cysondeb rhwng
negeseuon y Gweinidog a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.
·
Yr angen i roi holl drigolion Gwynedd yn ganolog i
bob un o wasanaethau’r Cyngor er gwaethaf yr hinsawdd anodd.
·
Pryder
bod pobl yn ei chael yn gynyddol anodd talu’r Dreth Gyngor a chyfeiriwyd yn
benodol at y bobl hynny sydd fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Cymorth Treth y
Cyngor.
·
Pryder y bydd mwy a mwy o berchnogion tai gwyliau yn
trosglwyddo i’r dreth fusnes er mwyn osgoi’r Premiwm Treth Cyngor ar eu tai.
·
Pryder am effaith y Premiwm Treth Cyngor ar bobl
sy’n ceisio gwerthu tai a etifeddwyd ganddynt yn sgil marwolaeth aelod o’r
teulu.
·
Bid refeniw i benodi dau arolygwr Treth Cyngor
ychwanegol – cadarnhawyd na fyddai’r Pennaeth Cyllid yn derbyn unrhyw gyllid
ychwanegol am gyfrifoldeb y dasg newydd yma, ond y byddai swyddog trethiant
fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau goruchwyliaeth ychwanegol yn derbyn cynnydd
bychan iawn i adlewyrchu hynny.
·
Yr angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd amgen o gynyddu
incwm, e.e. drwy godi tâl am wasanaethau ar berchnogion carafanau a chynnig
morgeisi i bobl leol sydd angen tai.
Nodwyd hefyd bod gorbwyslais ar breifateiddio gwasanaethau pan fyddai’r
Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ei hun a chael elw ohono.
· Honiadau o wastraff gan y Cyngor. Atebodd y Prif Weithredwr mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10
10. CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 PDF 137 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol: