Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Rhoddwyd trosolwg
o beth yw pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol gan nodi
mae ei
brif bwrpas ydi bod o gymorth i ymgeiswyr wrth
gyflwyno a pharatoi ceisiadau cynllunio ynghyd a bod o gymorth i’r sawl fydd
yn gwneud y penderfyniad ar y cais, boed hynny’n
Swyddogion, Cynghorwyr neu yn Arolygydd
annibynnol.
Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd
fod yna gyfnod
ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle
rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Yn ogystal â hynny mae’r Canllaw wedi
bod trwy broses craffu yn y ddau Gyngor
ac wedi bod yn destun gwerthusiad beirniadol annibynnol gan arbenigwyr o fewn y maes
Cynllunio Iaith.
Yn sgil y broses Craffu fe dderbyniwyd
adborth gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ynghyd a Phwyllgor Sgriwtini Môn, mae’r tabl a gynhwysir
ym mharagraff 4.2 ac 4.3 (yn ôl eu
trefn) yn cofnodi’r ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 88 sylw unigol (rhain
i’w gweld yn Atodiad 1b o’r
adroddiad). Nodwyd fod rhan fwyaf
o’r sylwadau yn rhai adeiladol
a bod yna gynnig o fan ddiwygiad i gynnwys
y Canllaw yn aml yn cael
ei gynnig yn sgil sylw
a dderbyniwyd. Ble nad oes yna argymhelliad i ddiwygio’r Canllaw
yn sgil y sylw, mae yna
nodyn o eglurhad/rheswm yn cael
ei nodi dros
y penderfyniad hynny. Yn aml mae’r
rheswm hynny’n ymwneud a’r ffaith
fod y mater a gyfeirir ato o fewn y sylw
wedi ei gynnwys
mewn rhan arall o’r Canllaw.
Nodwyd fod yna gopi cyflawn
o’r Canllaw wedi ei gynnwys
yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r
newidiadau a awgrymwyd yn dilyn
yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Materion a godwyd:
• Oes yna ymateb i’r
farn gyfreithiol a dderbyniwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith.
• Gofynnwyd am eglurder o ran pryd fyddai angen Asesiad/Datganiad (beth yw’r trothwyon). Cyfeiriwyd at y tabl a gynhwysir ym Mhara
4.2 o’r Canllaw a’r cwestiwn sydd
wedi cael ei godi gan
Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a’r
un mater.
• Holwyd sut mae’r trothwyon
o ran pryd gofynnir i ymgeisydd gyflwyno
Datganiad/Asesiad yn cymharu hefo’r
gofynion presennol (hynny yw'r gofynion
sydd wedi ei osod allan yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cyngor
Gwynedd sydd yn ymwneud a Chynllunio a’r Iaith Gymraeg).
• Gofynnwyd a oes yna unrhyw
enghreifftiau o ddatblygiadau
penodol ble na fyddai
ystyriaeth yn cael ei roi
i’r effaith ar yr iaith
Gymraeg. Oes yna rhai mathau
o geisiadau a fyddai’n gallu llithro drwy’r
rhwyd.
• Holwyd ynglŷn â statws ‘Canllawiau Cynllunio Atodol’ gan mae
‘canllawiau’ yn unig ydynt. A oes
yna unrhyw arweiniad wedi ei gynnwys o fewn
y Canllaw o ran beth fyddai’r goblygiadau pe fyddai’r ymgeisydd
ddim yn cydymffurfio
hefo’r Canllawiau hyn.
• Nodwyd y ffaith fod yna broses craffu ac ymgynghori hirfaith wedi bod wrth baratoi'r Canllaw, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Cyflwyno adroddiad
gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Rhoddwyd trosolwg o’r
broses craffu sydd wedi mynd rhagddi gan y ddau Gyngor fel rhan o’r broses o
baratoi’r Canllaw gan Gareth Jones (Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd). Nodwyd fod Pwyllgor Craffu Cymunedau (Cyngor Gwynedd) ynghyd a
Phwyllgor Sgriwtini (Cyngor Sir Ynys Môn) wedi cael cyfle i flaen graffu'r
Canllaw ac wedi derbyn adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd
parthed y Canllaw.
Am nifer o resymau,
ni dderbyniwyd unrhyw sylw ffurfiol ar yr Adroddiad Ymgynghoriad Cyhoeddus, yn
sgil ymgynghoriad cyhoeddus statudol a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2018 ac Ionawr2019
ar y Canllaw (Drafft)gan Bwyllgor Craffu Cymunedau (Cyngor Gwynedd).
Amlygwyd y ffaith fod yna farn gyfreithiol wedi ei dderbyn ychydig
ddyddiau cyn cyfarfod y Pwyllgor. Yn sgil derbyn y farn gyfreithiol ynghyd a’r
ffaith fod y Pwyllgor Craffu wedi methu a rhoi sylwadau ar yr Adroddiad
Ymgynghori cyhoeddus argymhellwyd fod yr eitem yn cael ei ohirio er mwyn:-
1)
Rhoi cyfle, hyd at y 5 Gorffennaf, 2019 i
Bwyllgor Craffu Cymunedau (Cyngor Gwynedd) gyflwyno eu sylwadau ar yr ymatebion
i’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 i’r
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.
2)
Rhoi cyfle i’r Uned gael cynghori’r Pwyllgor ar sylwadau’r Pwyllgor
Craffu ac ar y farn gyfreithiol sydd wedi ei dderbyn yr wythnos hon
3)
Cyflwyno adroddiad diwygiedig i’r Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 17 Gorffennaf 2019.
Nodwyd fod y rhesymau yma’n gyson hefo’r cais ar gyfer gohirio’r
penderfyniad ar y CCA a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Craffu.
Materion a godwyd:
·
Mynegwyd pryder ynglŷn â gwneud
penderfyniad ar y mater oherwydd y risg sydd yn gysylltiedig
·
Cwestiynwyd priodoldeb rhoi ystyriaeth i’r
sylwadau sydd wedi ei dderbyn (gan Bwyllgor Craffu (Cyngor Gwynedd) ynghyd a’r
farn gyfreithiol) gan ei fod wedi cyflwyno ar ôl i’r cyfnod ymgynghori
cyhoeddus ddod i ben.
Ymateb:
·
Nodwyd fod yna ddatganiad clir wedi cael ei
ryddhau gan y Cyngor yn cadarnhau yn ddiffuant fod gan y Cyngor ffydd yn y CCA
a bod safbwynt y Cyngor ar y mater yn gwbl glir.
·
Oherwydd natur y sylwadau a’r ffaith fod yna farn gyfreithiol wedi ei
dderbyn ystyriwyd yn ddoeth fod sylw priodol yn cael ei roi er mwyn gallu
ymateb yn llawn.
Penderfyniad – Gohirio’r eitem hyd at y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio
ar y Cyd sydd wedi ei drefnu ar gyfer 17 Gorffennaf 2019.