10 CYTUNDEB TERFYNOL AR GYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU PDF 530 KB
Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(a) Cymeradwyo’r
Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod
y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo
i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
(b) Cymeradwyo’r
darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn
mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu
sydd wedi’u nodi yn “Cytundeb Llywodraethu
2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer
cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru.
(c) Yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor
Gwynedd yn cytuno i weithredu fel
yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r
llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid.
(ch) Cymeradwyo'r dull a
ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen
mewn egwyddor i hwyluso'r llif
arian negyddol
ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth
o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad
hwn a’r cyfraniadau
craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu
fel sydd wedi’i nodi yn
GA2 (ac ym mharagraffau 5.5
– 5.7 o’r adroddiad).
(d) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran
151, i gytuno ar fân newidiadau
i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen
i gwblhau’r cytundeb.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn cyflwyno’r pecyn o ddogfennau allweddol oedd eu hangen
ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Nododd:-
·
Y byddai mabwysiadu’r argymhellion yn caniatáu
arwyddo’r Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth ar 17 Rhagfyr.
·
Y bu’n daith hir o dair blynedd o safbwynt y
Cynllun Twf ei hun, ond bod sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
wedi digwydd bron i wyth mlynedd yn ôl, pan ddaeth awdurdodau’r Gogledd, y
prifysgolion, y colegau a’r sector breifat at ei gilydd i gyfarch materion
datblygu’r economi ar lefel ranbarthol.
·
O gydweithio, bod y bartneriaeth yn cael ei
chydnabod yn eang fel un gadarn, ac yn esiampl o ymarfer da.
·
Bod y chwe awdurdod sy’n bartneriaid ar y Bwrdd
o sawl lliw gwleidyddol a chefndir economaidd gwahanol iawn, ond bod y chwe
Arweinydd yn gytûn mai lles pobl y Gogledd sy’n bwysig.
·
Y dymunai ddiolch i aelodau’r bartneriaeth, gan
gynnwys y prifysgolion a’r colegau a’r sector breifat, sydd wedi bod yn rhan
fawr o’r drafodaeth ac o ddatblygu’r cynlluniau.
·
Yr hoffai ddiolch hefyd i’r tîm o swyddogion dan arweiniad Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio, a nododd fod y ffaith bod yna gystal tîm o swyddogion yn y Gogledd
yn gweithredu yn y maes datblygu’r economi yn rhoi hyder iddo y bydd modd
cyfarch y problemau mawr fydd yn ein hwynebu i’r dyfodol.
·
Fel swyddogion statudol yr
awdurdod lletya, bu Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid, ac Iwan Evans, Swyddog
Monitro yn allweddol yn arwain timau o swyddogion ar draws y Gogledd wrth
gyflawni’r gwaith cyllidol a chyfreithiol a llywodraethiant, ac y dymunai
ddiolch iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniad arbennig i waith y Bwrdd.
·
Bod sefyllfa’r economi yn y
Gogledd wedi newid ers i brosiectau’r cynllun gael eu datblygu’n
wreiddiol. Roedd Covid wedi cael effaith
andwyol iawn, ac roedd dyfodol ansicr i’r economi hefyd yn sgil beth bynnag
fyddai’n deillio o Brexit.
·
Bod y Bwrdd Uchelgais yn fwy na’r Cynllun Twf,
a bwriedid edrych ar ffrydiau eraill o fuddsoddiadau ariannol o sawl
cyfeiriad.
·
Ei fod yn siomedig bod Llywodraeth San Steffan
wedi darparu llai o arian na’r cyfanswm a ofynnwyd amdano ar y cychwyn, ond
byddai arwyddo’r Cytundeb Terfynol cyn y Nadolig yn rhyddhau ffrwd o’r £240m,
gyda £16m yn cael ei dderbyn bob blwyddyn dros y pymtheng mlynedd nesaf ar
gyfer gweithredu prosiectau’r Cynllun Twf dros y 5-6 mlynedd nesaf.
Croesawyd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Sioned Williams (Pennaeth Economi a Chymuned)
i’r cyfarfod, a gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Portffolio i roi cyflwyniad
sleidiau. Yn ystod y cyflwyniad,
manylwyd ar:-
·
Bortffolio y Cynllun Twf -
nod, maint y buddsoddiad ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd ac amcanion
gwariant.
·
Trosolwg o’r rhaglenni
·
Rhestr o Brosiectau’r Cynllun
Twf.
·
Buddion rhanbarthol
Gwahoddwyd y
Pennaeth Economi a Chymuned i gyflwyno sleid ar y buddion penodol i Wynedd,
sef:-
·
Gwell cysylltiad digidol ar gyfer busnesau,
trigolion ac ymwelwyr.
·
Mynediad at gyfleusterau, offer, cefnogaeth ac
ymchwil arbenigol ar gyfer busnesau bwyd a diod Gwynedd drwy fuddsoddiad ar
safle Glynllifon.
· Mynediad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10