6 CAIS RHIF C19/0903/33/LL Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli PDF 234 KB
Cais i ddiwygio amodau 4 (tymor), 7 (cyflwyno a cytuno
manylion podiau) a 8 (cytuno manylion storio) ynghlwm â chaniatad cynllunio
C14/1218/33/LL
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gwrthod – rhesymau
1. Byddai’r bwriad yn gyfystyr a chreu
safle llety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i faen
prawf 1 o Bolisi TWR 3 CDLL.
2. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a fod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL.
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amodau
4 (cyfyngu tymor lleoli), 7 (cyflwyno a chytuno manylion podiau) a 8 (cytuno
manylion storio) sydd ynghlwm a chaniatâd cynllunio C14/1218/33/LL. Eglurwyd
bod caniatâd cynllunio C14/1218/33/LL yn rhoi caniatâd cynllunio amodol ar gyfer
newid defnydd cae i greu safle carafanau teithiol ar gyfer 11 carafán deithiol
a 2 ‘pod’ campio ynghyd ac adeiladu bloc toiledau. O’r wybodaeth a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron nodwyd y byddai cyfnod meddiannu’r podiau
rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ond fod bwriad i’r podiau yn aros ar y safle ond
ddim yn cael eu gosod/meddiannu yn ystod gweddill y flwyddyn. Ni chyflwynwyd
manylion y podiau, na’r safle ar gyfer eu storio yn unol â manylion amodau 7 ac
8 a roddwyd ar y caniatâd cynllunio hwnnw ym Mawrth 2015.
Pan roddwyd caniatâd
cynllunio amodol ar gyfer y podiau dan sylw yn 2015, roedd hyn ar y
ddealltwriaeth fod y podiau yn rhai symudol ac y byddai yn bosib eu symud i ac
o’r safle heb unrhyw rwystr. Er gwaethaf yr amodau clir a roddwyd ar y caniatâd
gwreiddiol i gytuno manylion y podiau a manylion storio ni
wnaethpwyd hyn. Tynnwyd sylw hefyd at yr amod sydd yn datgan yn glir nad oes carafanau teithiol na phodiau i gael eu storio ar y
safle rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror y flwyddyn ganlynol.
Amlygwyd bod y cais yn datgan fod y podiau sydd ar y
safle yn rhai a allai gael ei gwanhau neu eu difrodi
wrth eu symud ar ddiwedd neu gychwyn y tymor ynghyd a'r bwriad i leoli’r podiau
ar y safle trwy gydol y flwyddyn. Gan nad oes bwriad
i’w symud o’r safle yn ystod misoedd y gaeaf ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR
3 o’r CDLl sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety
gwersylla amgen parhaol.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu a gydnabyddir
yn y cynllun datblygu mabwysiedig, ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig. Mae hefyd wedi ei leoli oddi fewn i Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Oherwydd ei leoliad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig, mae Polisi TWR 3 o’r
CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen
parhaol newydd oddi fewn ardaloedd o’r fath. Ni
ystyriwyd y byddai caniatáu safle podiau parhaol ar y safle yma yn gymorth i
gynnal, gwella nag adfer cymeriad yr Ardal Tirwedd Arbennig. Er bod y podiau
dan sylw wedi eu lleoli ger adeiladau presennol byddai datblygiad parhaol o’r
natur hwn yn debygol o achosi niwed i ansawdd gweledol y dirwedd ac ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion Bolisi PCYFF
4 a Pholisi AMG 2 o’r CDLL.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais
c) Yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6