8 CAIS RHIF C20/0002/11/LL Tir ger Ysgol Friars, Bangor PDF 540 KB
Gwaith peirianyddol er mwyn gwella caeau chwarae presennol gan
ddefnyddio pridd o safle gyfochrog Ysgol Y Garnedd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;
• Cychwyn y
datblygiad o fewn 5 mlynedd
• Rhybudd 14
diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith
• Gosod pridd yn unol â chanllawiau
adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau
• Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5
mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad
y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol,
• Cydymffurfio
gyda chynlluniau a manylion y cais,
• Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer
ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i
atal llwch rhag cael ei ollwng.
• Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00,
dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu
wyliau Banc,
• Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle
a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar
draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad,
• Oriau gweithredu’r offer didoli
gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y
Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,
• Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau
Uned Ddwr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn
sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai
effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro,
• Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i
asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015.
• Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u amgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu gael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect.
COFNODION:
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr - tynnwyd sylw at yr amod coed ychwanegol.
a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn un ar gyfer creu
dau lecyn chwarae gwastad ar dir Ysgol Friars gan ddefnyddio deunyddiau pridd
sy’n deillio o brosiect adeiladu Ysgol Y Garnedd. Fel rhan o'r datblygiad ac i wneud yn iawn am
golli ardal chwarae, y bwriad yw gwella rhan o gae chwaraeon Ysgol Friars drwy
godi lefel y tir a chreu dau lwyfandir gwastad gyda darpariaeth draeniad tir
ychwanegol.
Eglurwyd
bod yr Asesiad
Cynllunio Gwastraff sydd wedi’i gyflwyno gyda’r cais yn cadarnhau fod y gwaith
o greu’r llwyfandir cyntaf wedi cychwyn yr un pryd â gwaith paratoi prosiect
Ysgol Y Garnedd, rhwng Ebrill a Mai 2019. Rhagwelir byddai’r gwaith sydd yn
weddill i greu’r ail lwyfandir a gosod yr uwchbridd dros y cyfan o’r safle yn
cael ei gwblhau cyn diwedd Mai 2020.
Mae’r
cyfan o’r uwchbridd wedi’i bentyrru eisoes at ffin ogleddol y safle a bwriedir
symud gweddill o’r deunyddiau o Ysgol y Garnedd yn syth i faes chwarae Friars
heb ei gludo ar y briffordd gyhoeddus. Er bod sylwadau cychwynnol Gwasanaeth
Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd yn awgrymu cytundeb traffig anghyffredin, amlygwyd
eu bod bellach ar ddeall na fydd y
datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd, neu ffordd
arfaethedig gan i’r cyfan o’r deunydd ar gyfer y prosiect gael ei leoli ar yr
un daliad tir a safle’r cais. Yr unig argymhelliad yw cynnwys amod priodol i
gyfyngu oriau’r gweithgareddau cludo fel nad ydynt yn gwrthdaro gydag oriau
agor a chau’r ysgol - amlygwyd bod yr ymgeisydd eisoes wedi cynnig gweithio o fewn
yr oriau sydd wedi’u gosod o dan amod Cynllunio ar ddatblygiad Ysgol Y Garnedd.
Nodwyd nad oedd tystiolaeth y bydd yr hynny o waith sydd yn weddill ar y
safle’n peri niwed i drigolion yr ardal na chwaith i ddefnyddwyr y llwybr
cyhoeddus cyfagos
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
c)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Y gwaith angen ei weithredu
·
Rhestr helaeth o amodau felly angen sicrhau bod y
datblygwr yn cadw atynt
ch) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â nodyn ‘ni dderbyniwyd ymateb’ yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, nodwyd bod hyn yn
golygu nad oedd unrhyw lythyr wedi ei dderbyn
- yn gwrthwynebu nac ychwaith yn cefnogi.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol;
·
Cychwyn
y datblygiad o fewn 5 mlynedd
·
Rhybudd
14 diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith
·
Gosod
pridd yn unol â chanllawiau adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau
·
Darpariaeth
ôl-ofal am gyfnod o 5 mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar
gyfer casglu
cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith
adferol,
·
Cydymffurfio
gyda chynlluniau a manylion y cais,
· Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i atal llwch ... view the full COFNODION text for item 8