9 CAIS RHIF C20/0083/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd PDF 245 KB
Cais ar gyfer codi estyniad deulawr blaen a cefn ac ychwanegu ffenestri
yn y to (dyluniad diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan cais C19/1135/11/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl
i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau isod:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol gyda
chynlluniau.
3. Dŵr Cymru.
4. Llechi.
5. Deunyddiau.
6. Diddymu hawliau Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw
ffenestri/ffenestri gromen newydd.
7. Rhaid i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur bob amser.
Cofnod:
Aelod Lleol wedi galw’r cais i’r
Pwyllgor
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais diwygiedig
ydoedd i'r hyn a wrthodwyd o dan gais cynllunio
cyfeirnod C19/1135/11/LL ar
gyfer creu ystafell wely ychwanegol
o fewn gwagle'r to drwy godi estyniad
ffenestr gromen. Bwriedir codi estyniad uwchben
y modurdy presennol ar du blaen yr
eiddo, a chodi estyniad unllawr i gefn yr
eiddo. Mae’r safle yn cael
ei wasanaethu gan fynedfa ddwbl
oddi ar ffordd
sirol ddi-ddosbarth cyfagos (Bryn Eithinog) gyda llecynnau parcio ar gyfer
o leiaf 3 cerbyd o fewn y cwrtil blaen.
Ystyriwyd fod
yr estyniadau yn dderbyniol ar
sail eu graddfa, gosodiad a dyluniad ac na fyddent
yn arwain at greu strwythurau anghydnaws yn y rhan yma o'r
strydlun. Adroddwyd bod nifer o estyniadau amrywiol eraill o amgylch y safle.
Ystyriwyd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion meini prawf polisi PCYFF 3 o'r CDLl. Nid oes unrhyw ffenestri
ychwanegol yn cael eu gosod
yn ochr yr
estyniad blaen ac yn yr estyniad
cefn, bydd ffenestri yn cael
eu gosod ar y llawr daear
gyda dwy ffenestr ar y llawr
cyntaf yn cael eu colli. Oherwydd y pellteroedd rhwng yr agoriadau bwriedig
a’u gosodiad o’u cymharu gydag
eiddo preswyl eraill ni
ystyriwyd y bydd unrhyw or-edrych na cholli preifatrwydd
annerbyniol yn digwydd i breswylwyr
cyfagos.
Amlygwyd fel rhan o’r
cais, yr unig newidiadau i’r hyn a ganiatawyd
eisoes ac sydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol yw lleihau uchder
yr estyniad cefn. O ganlyniad i hyn, mae’r
bwriad yn golygu creu estyniad
cefn sy’n llai swmpus ac uchder ac sydd felly yn welliant o safbwynt
ei effaith weledol ar y strydlun.
Tynnwyd sylw
at y gwagle yn y to sydd yn addas
ar gyfer 5ed ystafell wely. Pwysleisiwyd nad
oedd angen caniatâd cynllunio i drosi’r atig
i stafell wely.
Adroddwyd bod
Cyngor Dinas Bangor wedi datgan pryder
y byddai’r bwriad yn cael effaith
ar ddiogelwch y ffordd gyhoeddus sydd yn arwain
at ysgolion yn yr ardal ac sydd
yn boblogaidd gyda cherddwyr. Byddai mwy o geir
ar y safle / tu allan
i’r safle yn rhoi pwysau
ychwanegol ar isadeiledd yr ardal.
Fel rhan o’r cais
fe ymgynghorwyd
gyda’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd na
fyddai'r bwriad yn cael effaith
andwyol ar safonau parcio na diogelwch ffyrdd
cyhoeddus. Mae'r eiddo presennol
yn cydymffurfio gyda'r gofynion parcio arferol ar gyfer tai
gyda 4 ystafell wely neu fwy
drwy ddarparu 2 llecyn parcio a modurdy.
Wrth ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r hanes cynllunio cysylltiedig, ystyriwyd y cais yn dderbyniol
ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau ffurf adeiladu leol, gosodiad, materion priffyrdd a mwynderau preswyl a’i fod
yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9