Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 CAIS RHIF C20/0083/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 245 KB

Cais ar gyfer codi estyniad deulawr blaen a cefn ac ychwanegu ffenestri yn y to (dyluniad diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan cais C19/1135/11/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol gyda chynlluniau.

3.         Dŵr Cymru.

4.         Llechi.

5.         Deunyddiau.

6.         Diddymu hawliau Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw ffenestri/ffenestri gromen newydd.

7.         Rhaid i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur bob amser.

Cofnod:

Aelod Lleol wedi galw’r cais i’r Pwyllgor

           

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais diwygiedig ydoedd i'r hyn a wrthodwyd o dan gais cynllunio cyfeirnod C19/1135/11/LL ar gyfer creu ystafell wely ychwanegol o fewn gwagle'r to drwy godi estyniad ffenestr gromen.  Bwriedir codi estyniad uwchben y modurdy presennol ar du blaen yr eiddo, a chodi estyniad unllawr i gefn yr eiddo. Mae’r safle yn cael ei wasanaethu gan fynedfa ddwbl oddi ar ffordd sirol ddi-ddosbarth cyfagos (Bryn Eithinog) gyda llecynnau parcio ar gyfer o leiaf 3 cerbyd o fewn y cwrtil blaen. Ystyriwyd fod yr estyniadau yn dderbyniol ar sail eu graddfa, gosodiad a dyluniad ac na fyddent yn arwain at greu strwythurau anghydnaws yn y rhan yma o'r strydlun. Adroddwyd bod nifer o estyniadau amrywiol eraill o amgylch y safle.

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion meini prawf polisi PCYFF 3 o'r CDLl.  Nid oes unrhyw ffenestri ychwanegol yn cael eu gosod yn ochr yr estyniad blaen ac yn yr estyniad cefn, bydd ffenestri yn cael eu gosod ar y llawr daear gyda dwy ffenestr ar y llawr cyntaf yn cael eu colli.  Oherwydd y pellteroedd rhwng yr agoriadau bwriedig a’u gosodiad o’u cymharu gydag eiddo preswyl eraill ni ystyriwyd y bydd unrhyw or-edrych na cholli preifatrwydd annerbyniol yn digwydd i breswylwyr cyfagos.

Amlygwyd fel rhan o’r cais, yr unig newidiadau i’r hyn a ganiatawyd eisoes ac sydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol yw lleihau uchder yr estyniad cefn. O ganlyniad i hyn, mae’r bwriad yn golygu creu estyniad cefn sy’n llai swmpus ac uchder ac sydd felly yn welliant o safbwynt ei effaith weledol ar y strydlun. Tynnwyd sylw at y gwagle yn y to sydd yn addas ar gyfer 5ed ystafell wely. Pwysleisiwyd nad oedd angen caniatâd cynllunio i drosi’r atig i stafell wely.

Adroddwyd bod Cyngor Dinas Bangor wedi datgan pryder y byddai’r bwriad yn cael effaith ar ddiogelwch y ffordd gyhoeddus sydd yn arwain at ysgolion yn yr ardal ac sydd yn  boblogaidd gyda cherddwyr. Byddai mwy o geir ar y safle / tu allan i’r safle yn rhoi pwysau ychwanegol ar isadeiledd yr ardal.

Fel rhan o’r cais fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Drafnidiaeth.  Nodwyd na fyddai'r bwriad yn cael effaith andwyol ar safonau parcio na diogelwch ffyrdd cyhoeddus.  Mae'r eiddo presennol yn cydymffurfio gyda'r gofynion parcio arferol ar gyfer tai gyda 4 ystafell wely neu fwy drwy ddarparu 2 llecyn parcio a modurdy.

Wrth ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r hanes cynllunio cysylltiedig, ystyriwyd y cais yn dderbyniol ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau ffurf adeiladu leol, gosodiad, materion priffyrdd a mwynderau preswyl a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9