Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 09/07/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (eitem 5)

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i Aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Eglurodd darpar gyflogwr yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd pan roedd Mr A yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei arddegau. Ategodd ei fod yn ymwybodol o’i gefndir ac wedi trafod a chael geirda gan gyflogwyr eraill yr ymgeisydd, ei fod yn barod i roi cyfle iddo.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Ebrill 1999 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tameside ar dri cyhuddiad: cymryd cerbyd heb ganiatâd (yn groes i a12 (1) Deddf Lladrata 1968); gyrru’n groes i amodau trwydded gyrru (yn groes i a87 (1) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988) a defnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988). Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis, ardystiad 7 pwynt ar ei drwydded a gorchymyn i dalu £55.00 o gostau.

 

Yn Mai 2001 cafwyd yn euog gan Lys Ynadon yr Wyddgrug ar gyhuddiad o ddinistrio neu ddifrodi eiddo (yn groes i a1 (1) Deddf Difrod Troseddol 1971). Derbyniodd ddirwy o £50.00, gorchymyn i dalu costau o £40.00 ac iawndal o £ 50.00.

 

Yn Chwefror 2003 cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a gyrru yn ystod cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1) (B) Traffig Ffyrdd 1988). Derbyniodd orchymyn cost cymuned o 120 awr, dirwy o £50.00, gorchymyn i dalu costau o £30.00 ac ardystiad 6 phwynt ar ei drwydded.

 

Yn Awst 2003 cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Sir Ddinbych ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5