11 ASESIAD O GYNALIADWYEDD ARIANNOL - CYNGOR GWYNEDD PDF 411 KB
I ystyried
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
Penderfyniad:
Derbyn adroddiad Archwilio Cymru
Cofnod:
Cyflwynwyd yr Adroddiad gan
Alan Hughes (Archwilio Cymru).
Nodwyd, er bod yr adroddiad wedi
ei ysgrifennu cyn cyfnod covid
roedd y prif ganfyddiadau, cysyniadau ac egwyddorion yn parhau yn briodol.
Cyfeiriwyd at y crynodeb o ddarganfyddiadau’r archwiliad gan amlygu mai’r
prif ganfyddiad oedd bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn gymharol gryf ar
hyn o bryd gyda strategaeth ariannol yn cefnogi
cydnerth ariannol. Er hynny, amlygwyd
risg bod rhai o wasanaethau yn gorwario yn sylweddol
ac nid yw’r holl arbedion yn
cael eu gwireddu.
Aethpwyd drwy’r canfuddiadau fesul un gan dynnu
sylw at y risigau.
Mewn ymateb, diolchodd y Pennaeth Cyllid am yr adroddiad gan
nodi ei fod
yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa
ond yr adroddiad
wedi dyddio rhyw ychydig erbyn
hyn. Rhoddwyd diweddariad ar lafar o’r sefyllfa
bresennol:
·
Gwynedd
oedd yr awdurdod gyntaf i adrodd ar Effaith Covid-19 ar Gyllideb 2020/21 a
gwnaed hynny i’r Cabinet 19/05/20
·
Ers
hynny, sawl awdurdod wedi derbyn adroddiadau gan eu trysorydd, a’r hyn sydd yn gyffredinol
ymhob adroddiad yw’r ansicrwydd –
a)
ynglŷn â pharhad
cyfyngiadau’r argyfwng, ac
b)
am
faint y cymorth gellid disgwyl gan Lywodraeth Cymru.
·
Nid yw sefyllfa debygol Cyngor Gwynedd wedi newid yn
sylfaenol ers adrodd ym mis
Mai.
·
Yn
y chwarter cyntaf, roedd y gwariant ychwanegol oddeutu £2m oedd ychydig yn fwy
na’r hyn a ragwelwyd, ond swmp ohono wedi’i ddigolledu.
·
Nid
oedd y gost ychwanegol a adroddwyd arno yn cynnwys taliadau Gostyngiadau Treth
Cyngor. Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn digolledu hwn hefyd gyda
thrafodaethau yn cael eu cynnal 30/07/20
·
Roedd
colled incwm y Cyngor ychydig yn llai na’r hyn a amcangyfrifwyd, ac mae gobaith hefyd o
ddigolledu’r swmp yma yn Ch.1.
·
Ym
mis Mai, trafodwyd colled incwm o £5m yn Ch.1, a £5m pellach yn Ch.2. Gwir
golled incwm Ch.1 oedd £4.9m, ac mae tebygolrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn
digolledu awdurdodau am gyfran dda ohono (cais wedi ei gyflwyno 27/07/20).
·
Bydd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn gwneud achos i Llywodraeth Cymru
neilltuo cronfa am Ch.2, ond dim sicrwydd o hynny.
·
Asesiad
y Cyngor o’r golled incwm ddim yn cynnwys sefyllfa casgliad o’r Dreth Cyngor –
hyn yn bryder ac yn amhosib i’w fesur ar hyn o bryd.
·
Fodd
bynnag, mae lle i ddisgwyl bydd incwm Ch.2 ar lefel dipyn agosach at y gyllideb
wrth i fusnesau ail-agor, ymwelwyr yn talu am barcio, ayb.
·
Y
reserfau am gymryd ergyd, ond bod digon ar gael i
ymdopi gyda’r sefyllfa eleni
·
Bydd
angen cynllunio ymlaen ar gyfer 2021/22, gan nad oes gwarant y bydd grant
Llywodraeth Cymru yn cadw fyny gyda chwyddiant - cyn yr argyfwng, roedd setliad
2020/21, yn un o’r gorau ers degawd a mwy, oedd yn argoeli fod y blynyddoedd o
doriadau llym wedi lleddfu.
·
Bydd
angen cymryd stoc o’r sefyllfa a cheisio ystyried rhediad eang o bosibiliadau
ar gyfer y flwyddyn nesaf. Y wybodaeth i’w gyflawni yn ffurfiol i’r Cabinet ym
mis Hydref.
Diolchwyd am yr adroddiad ac am fewnbwn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11