7 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - YMGYSYLLTU A'R SECTOR PREIFAT PDF 617 KB
Adroddiad gan
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.
Penderfyniad:
(a) Nodi statws y perthnasau a’r
sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.
(b) Nodi bwriad Cyngor Busnes
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru.
(c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a
gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am
adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro’r Awdurdod, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp
Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.
(ch) Cadarnhau’r camau a’r
gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector
preifat.
(d) Gohebu â Gweinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad
i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad
llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r
cyfarfod nesaf.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r
Sector Preifat.
(b) Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i
dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.
(c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r
Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr
Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, ar y diwygiadau
arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y
Bwrdd Uchelgais.
(ch) Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella
ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat.
(d) Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i
weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl
ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae angen penderfyniad er mwyn galluogi
i’r Swyddfa Rhaglen fuddsoddi mewn dylunio a chyflawni mecanweithiau ar gyfer gwella
ymgysylltu gyda’r sector preifat yn y Gogledd.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd
yn:-
·
Cyflwyno trosolwg o’r berthynas a’r sianeli
ymgysylltu cyfredol rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r sector
preifat yn y Gogledd (Atodiad 1).
·
Cyflwyno diweddariad i’r aelodau ar statws
Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy fel
partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Atodiad 2).
·
Cyflwyno
Cylch Gorchwyl drafft arfaethedig a gyflwynwyd i’r ystyried gan Gadeirydd
dros dro'r Grŵp Cyflawni Busnes (Atodiad 3).
·
Cynnig y camau nesaf a’r dull o gryfhau
perthynas, ymgysylltiad ac ymglymiad y sector preifat yng Nghynllun Twf Gogledd
Cymru (Atodiad 4).
Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Cyfeiriwyd at benderfyniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl
o’r Bwrdd Uchelgais, a rhannwyd llythyr ymddiswyddo’r Cyngor Busnes yn ei
gyfanrwydd gyda’r aelodau. Diolchwyd yn arbennig
i Ashley Rogers am ei gyfraniad dros y blynyddoedd i waith
y Bwrdd wrth ddatblygu prosiectau a symud yr holl
gynllun yn ei flaen. Nodwyd y cydnabyddid, yn yr hinsawdd sydd
ohoni, bod rhaid i brif ffocws
y Cyngor Busnes fod ar y busnesau maent
yn eu cynrychioli. Fodd bynnag, er bod y sefyllfa’n un drist,
gallai hyn agor y drws i’r
Bwrdd ail-edrych ac atgyfnerthu ei berthynas â’r sector preifat drwy greu
rhywbeth newydd ac arloesol, fyddai’n cynnig cyfraniad sylweddol gan y sector preifat eto. Ychwanegwyd y bydd y sector preifat yng Ngogledd Cymru
yn gefnogol i amcanion y Cynllun
Twf, a chroesawyd y ffaith bod yna rywbeth cadarnhaol yn dod allan o sefyllfa ddigon anodd.
Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfod eisoes gydag Ashley Rogers a Jim Jones o’r
Cyngor Busnes i drafod eu syniadau
ar gyfer cydweithio gyda’r Bwrdd yn y dyfodol. Nodwyd eu bod yn fudd-ddeiliaid
gyda chyfraniad i’w wneud, a bod rhai syniadau da iawn wedi’u crybwyll
eisoes.
Nodwyd, ... view the full COFNODION text for item 7