6 ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2019/20 PDF 117 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac
argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd
Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei
fabwysiadu.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu perfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn
2019/20. Mynegwyd fod yr adroddiad yn glir ac yn ddarllenadwy ac yn amlygu
llwyddiannau’r Cyngor yn ystod y cyfnod. Bu i’r Aelodau Cabinet nodi'r
llwyddiannau yn eu meysydd a phwysleisiwyd fod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu
am y cyfnod cyn Covid-19.
Nododd yr Aelod
Cabinet dros Oedolion fod yr adroddiad yn amlygu sut y bu i’r adran ymateb i’r
argyfwng. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol a
mynegwyd balchder fod gweithwyr gofal bellach yn cael ei gweld fel gweithwyr
allweddol. Nodwyd fod yr adroddiad yn
amlygu llwyddiannau’r adran a beth mae’r sefyllfa Covid-19 wedi
gorfodi’r adran i wneud.
Mynegodd yr Aelod
Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn rhoi braslun teg a
chywir o waith yr adran dros y flwyddyn. Nodwyd mai dim ond yn y paragraff olaf
mae cyfeiriad at Covid-19. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ail ymweld â materion
gweithredol a diolchwyd i staff am eu gwaith caled.
Nododd yr Aelod
Cabinet dros Economi a Chymuned fod effaith Covid-19 ar yr economi yn
syfrdanol. Pwysleisiwyd fod perfformiad yr adran cyn cyfnod Covid
yn dda iawn a'u bod yn cynorthwyo busnesau gyda Brexit.
Mynegwyd fod niferoedd swyddi gwerth uchel wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd gwaith Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau.
Mynegodd yr Aelod
Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol ei bod yn od iawn i edrych yn ôl ar
lwyddiannau’r adran. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi cyrraedd y
targed ailgylchu o 64.7%. Nodwyd fod y prosiect golau stryd yn parhau a hyd yma
wedi arbed dros £185,000 ynghyd ar ardrawiad amgylcheddol positif o newid y
goleuadau. Pwysleisiwyd yr heriau fydd yn wynebu’r adran sydd yn cynnwys
gweithrediadau llifogydd ac yr angen i ymateb i i’r argyfwng hinsawdd.
Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd sylw
at anfodlonrwydd y cyhoedd ar y modd i gysylltu â’r adran Gynllunio a bod y
gwasanaeth yn edrych ar hyn. Nodwyd o’r holl gynlluniau’r sir nodwyd fod 38%
ohonynt yn rhai ceisiadau am dai fforddiadwy. Mynegwyd fod Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd yn parhau i gyfarfod a bod y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn parhau
i fod yn brysur. Amlygwyd y gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud gyda Phrofi
Olrhain Diogelu.
Yn yr adran Gyllideb nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu fod y gyllideb wedi lleihau ers 2015 ond ei bod dan reolaeth gadarn. Mynegwyd o’r cynlluniau arbedion fod 16 yn llithro a bod hyn yn codi pryderon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod lefel trethu wedi gwella a bod yr adran wedi cynorthwyo 1700 o bobl o’r gronfa tai dewisol. O ran cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth nodwyd fod y nifer sydd yn gweithio o dra wedi cynyddo 138 i 1292 a bod y gwasanaeth yn barod i newidiadau. Diolchwyd i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
Awdur: Dewi Wyn Jones