Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif: C19/1028/03/LL - Wynnes Arms Hotel, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog LL41 4AR pdf eicon PDF 357 KB

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd - mewn ymateb i sylwadau gan yr Aelod Lleol ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor a derbyniwyd ymateb sydyn i’r pryder. Nodwyd nad oedd gan yr Adran wybodaeth am y sefyllfa ond bod bwriad i ymchwilio i’r gwyn. Nid oedd amserlen ar gyfer y gwaith yma wedi ei osod.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y cyflwynwyd y cais gerbron Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 02.03.2020 pryd penderfynwyd trefnu i’r aelodau ymweld â’r safle. Yn y cyfamser, adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno apêl i’r Arolygaeth Cynllunio yn erbyn diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad heb ei dderbyn hyd yma).

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais ar gyfer addasu tŷ tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd â chreu llefydd parcio a mynedfa. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog a bod defnydd y safle fel tafarn wedi dod i ben ddechrau 2017. Byddai’r bwriad yn golygu newidiadau mewnol i greu'r fflatiau ar y tri llawr.  Cyfyngir y newidiadau allanol i’r estyniad ochr ac addasu fymryn ar osodiad agoriadau ffenestri a drws ar lefel daear ar y drychiad cefn.

 

Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.

 

Polisi TAI9 yn caniatáu isrannu eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol cyn belled ei fod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol sydd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad:- ni ystyrir y byddai'r bwriad i addasu'r adeilad yn 5 fflat yn groes i amcanion polisi TAI 9.

 

Cyfeiriwyd at bolisi TAI15  sydd yn  gofyn i bob datblygiad gyflawni cymysgedd priodol ar sail deiliadaeth, mathau a maint o dai fforddiadwy sy’n cael ei ategu gan Bolisi TAI 8 ynghyd â ChCA: Cymysgedd Tai.  Noder bod sylwadau gan Uned Strategol Tai yn datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn y dref.   Ystyriwyd bod y cais fel y diwygiwyd yn darparu cymysgedd briodol o lety mewn adeilad presennol ac yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai yn y dref.

 

Nodai Polisi TAI 15 (Trothwy Tai Fforddiadwy a’u Dosbarthiad) fod disgwyl i o leiaf 0.4  o’r unedau fod yn fforddiadwy, yn unol â’r wybodaeth a gyflwynwyd  Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn datgan ei fod wedi ymchwilio prisiau rhentu/gwerthu o fewn tua milltir i’r safle fel rhan o’r datblygiad. Er nad oedd y swyddogion yn anghytuno gyda’r prisiau, nid oedd y prisiau yn seiliedig ar y Llyfr Coch ac roedd man wendidau eraill yn y wybodaeth a gyflwynwyd. O dan yr amgylchiadau  ystyriwyd y gellid caniatáu’r cais  yn ddarostyngedig i osod amod i gytuno ar faterion fforddiadwyedd ar gyfer un o’r unedau cyn rhyddhau unrhyw ganiatâd.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol a mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y rhain wedi eu hasesu yn llawn ac nad oedd unrhyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6