Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/09/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C20/0022/42/DT - Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, LL53 6LN pdf eicon PDF 318 KB

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais ar sail gorddatblygiad

 

Cofnod:

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn

 

Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer ailwampio ac ymestyn tŷ presennol. Adroddwyd y byddai’r datblygiad newydd yn cynyddu nifer y llofftydd o 3 i 4 gan gynyddu maint y gofod byw i lawr grisiau.

 

Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn ar ben ffordd breifat (sy’n rhannol yn llwybr cyhoeddus) sy’n arwain o ffordd ddi-ddosbarth Bryn Glas. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

 

Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar 02/03/2020 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn galluogi cyflwyno adroddiad rhywogaethau gwarchodedig. Derbyniwyd aroddiad o Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig ar 29 Mai, 2020.

 

Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.

 

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn (ond heb eu cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr) gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn pryderu bod maint a dyluniad yr estyniad yn nodwedd estron yn y dirwedd. Ategwyd bod sylwadau hefyd wedi eu derbyn gan Swyddog yr AHNE (oedd heb eu cynnwys yn yr adroddiad) yn pryderu am yr estyniadau ochr sylweddol, y ffenestri mawr ar effaith ar yr AHNE.

 

Adroddwyd y byddai’r tŷ ar ei newydd wedd yn debygol o fod yn sylweddol fwy na'r tŷ presennol gyda’r arwynebedd llawr mewnol yn fwy na dyblu. Er hynny, gan na fyddai cynnydd mewn uchder yr adeilad, ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd o ansawdd uchel gyda’r defnydd o garreg, gwydr a llechi  yn briodol ar gyfer y lleoliad. Gwerthfawrogwyd bod y dyluniad yn ‘fater o farn’. 

 

Saif yr eiddo mewn lleoliad agored ar lethr y mynydd ac felly’n weladwy gan y cyhoedd o briffordd gyfagos ac ardaloedd cyhoeddus eraill. Wrth werthfawrogi’r pryder ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal hon, nid oedd y swyddogion yn ystyried y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn effeithio gosodiad yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd niweidiol.

 

            Tynnwyd sylw at sylwadau oedd wedi ei derbyn am orddarpariaeth o unedau gwyliau yn yr ardal ond amlygwyd mai cais am estyniad i dŷ oedd gerbron ac nid cais am lety gwyliau. Cydnabuwyd hefyd bod yr effaith weledol yn destun pryder a materion dylunio yn gallu bod yn gynhennus, ond bod swyddogion wedi pwyso a mesur y cais cynllunio yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac y dylid ei ganiatáu gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

a)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7