7 Cais Rhif C20/0022/42/DT - Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, LL53 6LN PDF 318 KB
Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gwrthod y cais ar sail
gorddatblygiad
Cofnod:
Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn
Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn
un ar gyfer ailwampio ac ymestyn tŷ presennol. Adroddwyd y byddai’r datblygiad newydd yn cynyddu
nifer y llofftydd o 3 i 4 gan gynyddu maint y gofod byw i lawr grisiau.
Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn ar ben ffordd
breifat (sy’n rhannol yn llwybr cyhoeddus) sy’n arwain o ffordd ddi-ddosbarth
Bryn Glas. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin
ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn.
Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar
02/03/2020 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er caniatáu trefnu ymweliad
safle ac er mwyn galluogi cyflwyno adroddiad rhywogaethau gwarchodedig.
Derbyniwyd aroddiad o Arolwg Rhywogaethau
Gwarchodedig ar 29 Mai, 2020.
Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd
modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.
Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi
eu derbyn (ond heb eu
cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr) gan Ymgyrch
Diogelu Cymru Wledig yn pryderu
bod maint a dyluniad yr estyniad yn
nodwedd estron yn y dirwedd. Ategwyd
bod sylwadau hefyd wedi eu derbyn
gan Swyddog yr AHNE (oedd heb
eu cynnwys yn yr adroddiad)
yn pryderu am yr estyniadau ochr
sylweddol, y ffenestri mawr ar effaith
ar yr AHNE.
Adroddwyd y byddai’r tŷ ar ei newydd
wedd yn debygol
o fod yn sylweddol fwy na'r
tŷ presennol gyda’r arwynebedd llawr mewnol yn
fwy na
dyblu. Er hynny, gan na
fyddai cynnydd mewn uchder yr
adeilad, ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd o ansawdd uchel gyda’r
defnydd o garreg, gwydr a llechi yn
briodol ar gyfer y lleoliad. Gwerthfawrogwyd bod y dyluniad yn ‘fater o farn’.
Saif yr eiddo mewn lleoliad
agored ar lethr y mynydd ac felly’n weladwy gan y cyhoedd o briffordd gyfagos ac ardaloedd cyhoeddus eraill. Wrth werthfawrogi’r
pryder ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal
hon, nid oedd y swyddogion yn ystyried
y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd
yn cael effaith
niweidiol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd
ac ni ystyriwyd
y byddai’r bwriad yn effeithio gosodiad
yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd
niweidiol.
Tynnwyd sylw at sylwadau oedd wedi ei
derbyn am orddarpariaeth o unedau gwyliau yn yr ardal
ond amlygwyd mai cais am estyniad
i dŷ
oedd gerbron ac nid cais am lety
gwyliau. Cydnabuwyd hefyd bod yr effaith
weledol yn destun pryder a materion dylunio yn gallu bod yn
gynhennus, ond bod swyddogion wedi pwyso a mesur y cais cynllunio yn erbyn gofynion
y polisïau perthnasol ynghyd a’r sylwadau
a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd.
O ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac yn cwrdd gyda gofynion
polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac y dylid ei ganiatáu
gyda’r amodau sydd wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad.
a) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7