8 COVID-19 - PARATOADAU AR GYFER AIL DON PDF 166 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi
ar gyfer ail don posibl Covid-19.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dilwyn Williams
PENDERFYNIAD
Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer
ail don posibl Covid-19.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
sefyllfa Covid yn un sydd yn newid yn sydyn. Nodwyd fod yr adroddiad wedi dyddio ers iddo
gael ei greu bron i bythefnos yn ôl gyda nifer achosion yng Ngwynedd dros yr
wythnos diwethaf bellach wedi codi i 114.
Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi darlun
o beth fydd y Cyngor yn ac wedi ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr ail don.
Amlygwyd fod y Llywodraeth wedi creu'r senario gwaethaf rhesymol sydd wedi bod
yn sail cynllunio i’r gwaethaf a all ddigwydd.
O ran trefniadau Gwynedd mynegwyd fod yr
adrannau wedi nodi fod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y don gyntaf bellach wedi
ymgorffori yng ngwaith yn yr adrannau. Mynegwyd fod staff yn parhau i weithio
o’i cartrefi sydd yn lleihau risg o fewn y Cyngor. Amlygwyd fod llai o
drafferthion o ran offer gwarchod personol gan fod cyflenwad digonol gan y
Cyngor. Pwysleisiwyd un pryder yw’r potensial o weld cyfuniad o haint yn gafael
yn ddrwg a all olygu mwy o alw ar wasanaethau a staff adref o’r gwaith yn sâl.
Nodwyd fod yr adran Oedolion wedi creu cynllun parhad gwasanaeth a fydd yn cael
ei drafod yr adroddiad nesaf. Ychwanegwyd fod trefniadau i adfer Tîm Covid os angen yn codi.
Nodwyd fod Tîm Profi, Olrhain a Diogelu wedi
bod yn hynod weithgar ond fod niferoedd wedi bod yn isel dros fis Awst.
Ychwanegwyd fod y niferoedd yn codi yn raddol. Mynegwyd o ran Grŵp Atal a
Gwyliadwriaeth eu bod bellach yn cyfarfod bron yn ddyddiol i gadw golwg ar y
sefyllfa. Ategwyd fod y Grŵp hwn yn gyfuniad o’r Cyngor a phartneriaid fel
y Brifysgol sydd yn trafod ardaloedd penodol. Nodwyd fod y grŵp hwn bod yn
ganolog i drafodaeth a Llywodraeth Cymru am achosion Bangor ynghyd a’r
penderfyniad o greu Ardal gwarchod Iechyd newydd yn dilyn nifer uchel o
achosion.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd pryderon lleol am y rheoliadau ym Mangor o ran mannau gwyrdd i
drigolion gael mynediad iddynt, yn ogystal holwyd os oedd y drefn Olrhain a
Diogelu yn un peth i fyfyrwyr. Mynegwyd fod niferoedd wedi codi o
ganlyniad i nifer uchel o fyfyrwyr gyda’r haint gan
ychwanegu fod y Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol, ychwanegwyd fod y
drefn Profi, Olrhain a Diogelu'r un peth i fyfyrwyr ac i drigolion.
¾ Mynegwyd angen i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth
ariannol i fusnesau Bangor. Pwysleisiwyd yn ogystal yr angen i bawb gadw at y
rheoliadau er mwyn dod yn ôl i’r normal newydd yn gynt.
¾ Nodwyd fod paratoadau ar gyfer y gaeaf yn anodd gan fod staff wedi bod yn gweithio yn galed dros y misoedd diwethaf. Ychwanegwyd fod y cyfnod wedi amlygu fod staff yn fodlon mynd y filltir ychwanegol. Diolchwyd i staff am eu holl waith. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8
Awdur: Dilwyn Williams