Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/10/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (eitem 5)

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol a’i fod erbyn hyn wedi aeddfedu, wedi newid ei ymddygiad ac yn rhiant. Ategodd ei fod wedi cael cynnig gwaith fel gyrrwr tacsi petai ei gais yn cael ei ganiatáu.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Hydref 2010 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar gyhuddiad o ddefnyddio ymddygiad afreolus neu eiriau bygythiol / ymosodol / sarhaus sydd yn debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu ofid  yn groes i a5 (1) (A)  Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis a gorchymyn i dalu £85.00 o gostau. Ym mis Mawrth 2011 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar gyhuddiad o ymosodiad cyffredin yn groes i a39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Derbyniodd orchymyn cymunedol o 6 mis, 2 fis o hwyrgloch (curfew?) gyda thag electronig i aros mewn cyfeiriad yn ardal Abermaw bob dydd rhwng 19:00 - 07:00 a gorchymyn i dalu costau o £85.00.

 

Yn Medi 2019 derbyniodd 3 pwynt cosb am ddigwyddiad o oryrru. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ar lafar bod y manylion ar y drwydded (a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) yn gywir a’i fod wedi derbyn rhybudd cosb sefydlog gan yr Heddlu am y digwyddiad hwn. Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi goryrru mewn digwyddiad pellach ar ddyddiad amhenodol, ond ei fod wedi dilyn cwrs ymwybyddiaeth cyflymder mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5