CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai
hanesyddol a’i fod erbyn hyn
gyda theulu ac yn yrrwr
HGV a PSV profiadol. Ei fwriad oedd sefydlu
busnes i’w feibion.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Tystysgrif meddygol yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau ar lafar
gan yr ymgeisydd
ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn Mai 1991 cafwyd yr ymgeisydd
yn euog gan
Lys Ynadon Bangor ar gyhuddiad o ddifrod troseddol (yn groes
i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971), derbyn arian drwy
dwyll ( yn
groes i a15 Deddf Dwyn 1968) a lladrata (yn groes
i a1 Deddf Dwyn 1968). Derbyniodd cyfanswm dirywion o £275 a gorchymyn i dalu
£53.00 o iawndal a chostau
o £15 am dderbyn arian drwy dwyll.
Yn Rhagfyr 1991 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Caernarfon am gyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes
i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971. Derbyniodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu
iawndal o £276.91.
Yn Mai 1998 cafwyd yr ymgeisydd
yn euog gan
Lys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o fyrgleriaeth ddifrifol / treisgar yn groes i
a10 Deddf Dwyn 1968. Derbyniodd yr ymgeisydd
ddedfryd o 3 mlynedd o garchar.
Yn Awst 2000 dyfarnwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Aberconwy ar gyhuddiad o fethu a darparu sampl prawf yn
groes i a7 Deddf Traffig Ffordd
1988. Derbyniodd ddirwy o
£200, gorchymyn i dalu costau o £35 a gwaharddiad rhag gyrru am 20 mis gyda’r dewis o leihau’r cyfnod cosb o 25% drwy gwblhau cwrs erbyn
Medi 2001.
Yn Hydref 2001 cafodd yr ymgeisydd yn euog gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5