Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys
12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
·
Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil
·
Gwrthod y cais am y rhesymau
canlynol
• Diffyg angen
am dai
• Asesiad Ieithyddol
yn annigonol
• Materion llifogydd
• Materion halogiad
tir
• Materion trafnidiaeth
– cyffordd Ffordd Penrhos ac hefyd Ffordd Penyffridd
• Darpariaeth / cyfraniad annigonol o lecynnau agored
Cofnod:
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y safle
wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd ac yn safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan
Brifysgol Bangor fel canolfan maes garddwriaeth. Yn bresennol, mae’n llecyn o
dir segur a diffaith a gordyfiant arno gyda cyn-adeiladwaith y ganolfan maes
wedi eu dymchwel ers peth amser. O gwmpas y safle gwelir tai preswyl ar ffurf
stad ac mae’r safle oddi fewn i ffin datblygu Bangor.
Adroddwyd bod adeiladu tai ar safle o fewn y
ffin datblygu yn dderbyniol. Yng nghyd-destun y cais,
amlygwyd bod dwysedd arfaethedig y datblygiad tai ychydig yn is na’r disgwyl,
ond gan ystyried cyfyngiadau’r safle sy’n cynnwys yr angen i greu corridor
bywyd gwyllt, cadw coedlan, darparu llecynnau amwynder agored ynghyd a diogelu
ardal ar gyfer draenio tir, ystyriwyd y
byddai darparu 30 uned yn dderbyniol ar gyfer y safle.
Amlygwyd bod Polisi
TAI1 yn datgan y
bydd tai yn cael ei sicrhau drwy ddynodiadau tai ynghyd â safleoedd ar hap o fewn
y ffin datblygu. Gwir nad yw'r tir dan sylw heb ei
ddynodi ar gyfer tai, ond mae wedi ei leoli yn llwyr o fewn y ffin datblygu a
bod elfen o gydnabyddiaeth o dwf Bangor yn dod drwy safleoedd ar hap.
Nodwyd mai lefel
cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol yw 969.
Yn unol â ffigyrau mwy diweddar (o ganlyniad i fonitro rheolaidd), sydd yn
ystyried unedau wedi eu cwblhau, y nifer sydd yn y banc tir presennol a’r nifer
o fewn y cais,
y dangosir capasiti / targed dangosol ar gyfer 10 uned i’r safle. I ddarparu
mwy na’r targed dangosol, eglurwyd bod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cyfiawnhad
sydd yn bodloni’r Cyngor, bod y bwriad yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai. Yn yr achos yma,
bydd 12 o unedau arfaethedig yn dai fforddiadwy (sydd yn ganran uwch na
gofynion y polisi) ynghyd a 18 uned i’w gwerthu ar y farchnad agored.
Nodwyd bod y datganiad cymysgedd tai yn cyfateb gyda’r angen a bod Uned
Strategol Tai'r Cyngor wedi cadarnhau bod y 30 uned ar restr cynlluniau wrth
gefn i dderbyn grant Tai Cymunedol Llywodraeth Cymru o ystyried bod datblygiad
fel hyn yn flaenoriaeth.
Nodwyd bod yr
ymgeisydd hefyd wedi nodi bod potensial i rai o’r tai
marchnad agored gael eu cynnig fel tai rhent canolradd neu fel cynllun rhannu
ecwiti fyddai’n cynyddu’r nifer o achrediad o dai fforddiadwy fyddai’n cael eu
cynnig. Ategwyd bod elfen o sicrwydd bod
y bwriad yn cael ei wireddu’r fuan a bod y cynllun yn cyfarch yr angen
cydnabyddedig am dai yn yr ardal. Adroddwyd bod y
cynllun yn un o ansawdd uchel gyda naws a ffurf stad
fyddai’n darparu tai i deuluoedd gyda digon o le gwyrdd o’i cwmpas.
Tynnwyd sylw at y prif wrthwynebiadau - pryderon o ychwanegiadau mewn lefelau trafnidiaeth a mynediad, llifogydd a draenio tir a llygredd. Er bod yr Uned Trafnidiaeth yn cydnabod y pryderon, nid oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad. Amlygwyd bod materion llifogydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10