Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C19/1072/11/LL Tir oddi ar Pen Y Ffridd Road, Pen Y Ffridd Road, Penrhosgarnedd, Bangor pdf eicon PDF 511 KB

Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·                     Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil

·                     Gwrthod y cais am y rhesymau canlynol

 

           Diffyg angen am dai

           Asesiad Ieithyddol yn annigonol

           Materion llifogydd

           Materion halogiad tir

           Materion trafnidiaethcyffordd Ffordd Penrhos ac hefyd Ffordd Penyffridd

           Darpariaeth / cyfraniad annigonol o lecynnau agored

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais  gan egluro bod y  safle wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd ac yn safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Brifysgol Bangor fel canolfan maes garddwriaeth. Yn bresennol, mae’n llecyn o dir segur a diffaith a gordyfiant arno gyda cyn-adeiladwaith y ganolfan maes wedi eu dymchwel ers peth amser. O gwmpas y safle gwelir tai preswyl ar ffurf stad ac mae’r safle oddi fewn i ffin datblygu Bangor.

 

Adroddwyd bod adeiladu tai ar safle o fewn y ffin datblygu yn dderbyniol. Yng nghyd-destun y cais, amlygwyd bod dwysedd arfaethedig y datblygiad tai ychydig yn is na’r disgwyl, ond gan ystyried cyfyngiadau’r safle sy’n cynnwys yr angen i greu corridor bywyd gwyllt, cadw coedlan, darparu llecynnau amwynder agored ynghyd a diogelu ardal ar gyfer draenio tir, ystyriwyd y  byddai darparu 30 uned yn dderbyniol ar gyfer y safle.

 

Amlygwyd bod Polisi TAI1 yn datgan  y bydd tai yn cael ei sicrhau drwy ddynodiadau tai ynghyd â safleoedd ar hap o fewn y ffin datblygu. Gwir nad yw'r tir dan sylw heb ei ddynodi ar gyfer tai, ond mae wedi ei leoli yn llwyr o fewn y ffin datblygu a bod elfen o gydnabyddiaeth o dwf Bangor yn dod drwy safleoedd ar hap. 

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol ar gyfer Bangor dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol yw 969. Yn unol â ffigyrau mwy diweddar (o ganlyniad i fonitro rheolaidd), sydd yn ystyried unedau wedi eu cwblhau, y nifer sydd yn y banc tir presennol a’r nifer o fewn  y cais, y dangosir capasiti / targed dangosol ar gyfer 10 uned i’r safle. I ddarparu mwy na’r targed dangosol, eglurwyd bod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cyfiawnhad sydd yn bodloni’r Cyngor, bod y bwriad yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai.  Yn yr achos yma, bydd 12 o unedau arfaethedig yn dai fforddiadwy (sydd yn ganran uwch na gofynion y polisi) ynghyd a 18 uned  i’w gwerthu ar y farchnad agored. Nodwyd bod y datganiad cymysgedd tai yn cyfateb gyda’r angen a bod Uned Strategol Tai'r Cyngor wedi cadarnhau bod y 30 uned ar restr cynlluniau wrth gefn i dderbyn grant Tai Cymunedol Llywodraeth Cymru o ystyried bod datblygiad fel hyn yn flaenoriaeth.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi nodi bod potensial i rai o’r tai marchnad agored gael eu cynnig fel tai rhent canolradd neu fel cynllun rhannu ecwiti fyddai’n cynyddu’r nifer o achrediad o dai fforddiadwy fyddai’n cael eu cynnig.  Ategwyd bod elfen o sicrwydd bod y bwriad yn cael ei wireddu’r fuan a bod y cynllun yn cyfarch yr angen cydnabyddedig am dai yn yr ardal. Adroddwyd bod y cynllun yn un o ansawdd uchel gyda naws a ffurf stad fyddai’n darparu tai i deuluoedd gyda digon o le gwyrdd o’i cwmpas.

 

Tynnwyd sylw at y prif wrthwynebiadau - pryderon o ychwanegiadau mewn lefelau trafnidiaeth a mynediad, llifogydd a draenio tir a llygredd. Er bod yr Uned Trafnidiaeth yn cydnabod y pryderon, nid oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad. Amlygwyd bod materion llifogydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10