9 TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2021/22 PDF 346 KB
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn gohirio
penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r
Cabinet ystyried priodoldeb
cynyddu y lefel i hyd at 100%. Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod
ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis
Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.
Gan gyfeirio’n benodol at ail-gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Bod y ddarpariaeth
a’r amlder o gartrefi gwyliau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r
effeithiau cysylltiedig, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
·
Bod poblogrwydd
Gwynedd fel cyrchfan wyliau a’r defnydd o lety gwyliau fel buddsoddiad ariannol
yn ffactorau, a gwelwyd twf sylweddol yn ddiweddar yn y niferoedd o unedau
preswyl sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar draws y sir gyfan.
·
Y bwriedid cyflwyno
papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar 10 Rhagfyr, gydag argymhellion penodol i’w trafod yn y Cabinet ar
15 Rhagfyr.
·
Er y cydnabyddid na
fyddai modd gweithredu ar yr argymhellion hynny’n syth oherwydd yr angen am
ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd graddfa’r Premiwm ar eiddo yn fater
roedd gan y Cyngor llawn fodd i weithredu arno.
·
Y bu gohebiaeth
gyson a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rhwng Cyngor Gwynedd, gweinidogion
a swyddogion Llywodraeth Cymru, i drafod ein pryderon ynglŷn â gallu
perchnogion ail-gartrefi i ddefnyddio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol
1988 er mwyn trosglwyddo eu heiddo o fod yn eiddo domestig, sy’n talu Treth
Cyngor, i fod yn unedau hunan-ddarparu, sy’n destun ardrethi annomestig.
Nododd y Dirprwy Arweinydd:-
·
Bod yr argymhelliad yn
cynnig cadw at y sefyllfa bresennol o godi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai
gweigion, ond y daeth yn amlwg o drafodaethau gydag aelodau, cynigion yn y
Cyngor a galwadau cyhoeddus yn ein cymunedau, bod angen ail-ystyried y Premiwm,
gyda’r bwriad o’i gynyddu.
·
Bod y sefyllfa’n
argyfyngus yn y sir, gyda tai o’r stoc yn cael eu colli i fod yn ail-gartrefi a
phobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymunedau.
·
Bod y Cabinet a’r
aelodau wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddf a rhoi’r hawliau i
ni reoli ail-gartrefi. Roedd y
Llywodraeth wedi dweud nad oedd gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny, ond
roedd y dystiolaeth wedi’i chyhoeddi bellach, a byddai’n cael ei thrafod yn
fuan.
·
Yn ogystal â thrafod
y papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau, byddai’r Cabinet ar
15 Rhagfyr yn trafod y Cynllun Gweithredu Tai, sef cynllun uchelgeisiol a
chyffrous oedd yn buddsoddi oddeutu £77m mewn darparu tai ar gyfer pobl ifanc y
sir.
· O fod yn ymwybodol o’r teimladau cryf ar y mater hwn, yr hoffai gynnig gwelliant i ddileu’r geiriau “ac yn codi premiwm o 50% ar ail gartrefi dosbarth B” yn ail bwynt bwled yr argymhelliad, gan osod y geiriau “ond yn gohirio penderfyniad ynglŷn â gosod y Premiwm a gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i 100%. Gofynnir i’r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9