Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/12/2020 - Y Cyngor (eitem 9)

9 TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2021/22 pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn gohirio penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i hyd at 100%. Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Gan gyfeirio’n benodol at ail-gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Bod y ddarpariaeth a’r amlder o gartrefi gwyliau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r effeithiau cysylltiedig, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

·         Bod poblogrwydd Gwynedd fel cyrchfan wyliau a’r defnydd o lety gwyliau fel buddsoddiad ariannol yn ffactorau, a gwelwyd twf sylweddol yn ddiweddar yn y niferoedd o unedau preswyl sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar draws y sir gyfan.

·         Y bwriedid cyflwyno papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 10 Rhagfyr, gydag argymhellion penodol i’w trafod yn y Cabinet ar 15 Rhagfyr.

·         Er y cydnabyddid na fyddai modd gweithredu ar yr argymhellion hynny’n syth oherwydd yr angen am ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd graddfa’r Premiwm ar eiddo yn fater roedd gan y Cyngor llawn fodd i weithredu arno.

·         Y bu gohebiaeth gyson a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rhwng Cyngor Gwynedd, gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, i drafod ein pryderon ynglŷn â gallu perchnogion ail-gartrefi i ddefnyddio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 er mwyn trosglwyddo eu heiddo o fod yn eiddo domestig, sy’n talu Treth Cyngor, i fod yn unedau hunan-ddarparu, sy’n destun ardrethi annomestig.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd:-

 

·         Bod yr argymhelliad yn cynnig cadw at y sefyllfa bresennol o godi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai gweigion, ond y daeth yn amlwg o drafodaethau gydag aelodau, cynigion yn y Cyngor a galwadau cyhoeddus yn ein cymunedau, bod angen ail-ystyried y Premiwm, gyda’r bwriad o’i gynyddu.

·         Bod y sefyllfa’n argyfyngus yn y sir, gyda tai o’r stoc yn cael eu colli i fod yn ail-gartrefi a phobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymunedau.

·         Bod y Cabinet a’r aelodau wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddf a rhoi’r hawliau i ni reoli ail-gartrefi.  Roedd y Llywodraeth wedi dweud nad oedd gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny, ond roedd y dystiolaeth wedi’i chyhoeddi bellach, a byddai’n cael ei thrafod yn fuan.

·         Yn ogystal â thrafod y papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau, byddai’r Cabinet ar 15 Rhagfyr yn trafod y Cynllun Gweithredu Tai, sef cynllun uchelgeisiol a chyffrous oedd yn buddsoddi oddeutu £77m mewn darparu tai ar gyfer pobl ifanc y sir.

·         O fod yn ymwybodol o’r teimladau cryf ar y mater hwn, yr hoffai gynnig gwelliant i ddileu’r geiriau “ac yn codi premiwm o 50% ar ail gartrefi dosbarth B” yn ail bwynt bwled yr argymhelliad, gan osod y geiriau “ond yn gohirio penderfyniad ynglŷn â gosod y Premiwm a gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i 100%.  Gofynnir i’r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9