7 Cais Rhif C20/0070/39/DT - Ty Wiggins, 12 Lôn Cernyw, Bwlchtocyn, Pwllheli PDF 323 KB
Estyniad
yn cynnwys codi uchder y to
AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gohirio er
mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r safle
Cofnod:
Estyniad yn cynnwys codi uchder y to
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
am estyniad yn cynnwys codi uchder
to i eiddo wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ardal Bwlchtocyn
ac o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ategwyd ei fod
hefyd oddi fewn i Dirwedd
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac wedi ei leoli mewn
ystâd o dai . Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol.
Eglurwyd,
o edrych o flaen yr eiddo, byddai
uchder brig y to yn cael ei godi
o rhyw 5 medr i 6.5 medr gyda
to brig hefyd i’w osod uwchben y modurdy presennol. Byddai’r estyniad cefn yn creu
balconi ar lefel llawr cyntaf
gyda decin yn parhau oddi
tano ar lefel
llawr daear.
Ystyriwyd
fod y bwriad o ran ei ddyluniad, graddfa
a maint yn dderbyniol ac yn gymesur gyda’r eiddo presennol - ni fyddai
yn orddatblygiad gyda thir mwynderol
digonol yn parhau ar gyfer
defnydd yr eiddo. Cydnabuwyd y pryderon oedd wedi ei
cyflwyno am godi lefel y to a’r ffaith fod gweddill
y tai o fewn yr ystâd yn dai
unllawr. Er yn creu eiddo
uwch ystyriwyd bod y dyluniad ar y cyfan
yn cadw edrychiad
cyffelyb i’r presennol yn arbennig
felly i’r edrychiad blaen sy’n wynebu’r
ystâd nac yn cael effaith
ormesol ar weddill yr ystâd. Ategwyd bod yr eiddo wedi
ei leoli ym mhen pellaf
yr ystâd ble mae’r tir
ar lefel is ac felly ni fyddai’r
codi’r uchder yn cael effaith
andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal. Cydnabuwyd hefyd y pryderon y byddai’r bwriad yn creu
cynsail ar gyfer datblygiadau cyffelyb ar weddill
yr ystâd, fodd bynnag, bydd
gofyn asesu pob cais ar
ei rinweddau ei hun ac nid
yw’r ffaith y byddai’r cais yma
yn cael caniatâd
cynllunio yn ffurfio cynsail ar gyfer gweddill
yr ystâd.
Cyfeiriwyd at sylwadau’r Uned AHNE gan nodi nad oedd gwrthwynebiad ganddynt o ystyried bod yr eiddo yn dŷ
unllawr lled-ddiweddar ac nad ydoedd mewn
lleoliad amlwg o fannau cyhoeddus. O ganlyniad, ni ystyriwyd
y byddai’r addasiadau bwriededig yn gwneud
i’r adeilad amharu
ar yr AHNE. Er wedi ei leoli
o fewn yr AHNE mae’r eiddo wedi
ei leoli yng nghanol tai
eraill ac yn ffurfio rhan o ffurf adeiledig bresennol y rhan yma o Bwlchtocyn ac yn sgil hyn
ni fyddai’n sefyll allan yn
y dirwedd.
O ganlyniad,
ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael
effaith niweidiol andwyol ar yr
ardal na’r AHNE a bod dyluniad y bwriad yn dderbyniol. Hefyd ni ystyriwyd
bod goblygiadau o ran diogelwch
ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos.
b)
Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-
· Nad cais i droi tŷ un llawr i dŷ dau lawr oedd y cais ond un i godi to'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7